Back
Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd; Cymuned ddysgu lewyrchus lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawr

 

9/7/2024

Mae Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi canfod bod Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn gymuned ddysgu ffyniannus lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Yn dilyn ymweliad diweddar, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth dosturiol y pennaeth, gyda chefnogaeth dau ddirprwy bennaeth hynod effeithiol, llywodraethwyr ymroddedig, a thîm arwain helaeth, sydd wedi meithrin ethos cynhwysol sy'n annog disgyblion i ddatblygu fel meddylwyr creadigol ac annibynnol.

Nododd yr arolygwyr fod yr ysgol wedi cymryd camau breision wrth fireinio'i chwricwlwm gan gynnig amrywiaeth gyfoethog o brofiadau dysgu ysgogol wedi'u teilwra at anghenion disgyblion unigol. Mae hyn wedi arwain at bron pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac yn gwneud cynnydd cadarn.

O oedran cynnar, anogir disgyblion i fod yn chwilfrydig ac i archwilio eu hamgylchedd. Erbyn Blwyddyn 6, maen nhw'n dewis pynciau ymchwil a dulliau cyflwyno yn hyderus. Mae monitro ac adborth effeithiol gan staff yn hyrwyddo gwytnwch ac annibyniaeth ymhellach wrth ddysgu.

Mae athrawon yn cynllunio'n systematig ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd yn raddol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio eu sgiliau darllen ac ysgrifennu yn effeithiol mewn amrywiol bynciau. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwelliant pellach ar gyfleoedd i ddisgyblion hŷn ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau darllen yn gyson.

Mae diwylliant cynhwysol yr ysgol yn amlwg yn ei darpariaeth hynod lwyddiannus ar gyfer disgyblion ag ADY ac mae'r tîm arwain a'r corff llywodraethu ymroddedig yn gweithio'n agos i fonitro a gwerthuso cynnydd addysgu a dysgu. Mae'r ysgol yn gweithredu'n effeithlon o fewn y cyllidebau sydd ar gael iddi ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau arwain.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod staff yn gwerthfawrogi'r ystod eang o gyfleoedd datblygu proffesiynol sydd ar gael, a bod yr ysgol yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu arferion addysgu ar draws y rhanbarth.

Dywedodd y Pennaeth Ann Griffin: "Rydyn ni'n hynod falch o'n cymuned ddysgu ffyniannus a'r ystod amrywiol o brofiadau cyfoethogi rydyn ni'n eu cynnig. Mae'r gydnabyddiaeth hon gan Estyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i greu amgylchedd meithringar lle gall pob myfyriwr ffynnu." 

Mae'r adroddiad yn cynnwys dau argymhelliad allweddol i helpu'r ysgol barhau i wella:

  • Gwella presenoldeb disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim
  • Datblygu a mireinio cyfleoedd i wella sgiliau darllen disgyblion hŷn ymhellach.

Mewn ymateb i'r arolygiad, bydd Ysgol Gynradd Yr Eglwys Newydd yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Dylai disgyblion, rhieni a staff o Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd deimlo'n falch o adroddiad Estyn, sy'n dyst i'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad i ddarparu addysg ragorol i bob disgybl.

"Mae Estyn wedi cydnabod sgiliau athrawon, sy'n dangos dealltwriaeth dda o anghenion a diddordebau unigol y disgyblion maen nhw'n eu haddysgu ac yn  darparu profiadau dysgu sy'n ysgogi ac yn herio disgyblion yn llwyddiannus.

"Roedd yn arbennig o braf clywed am y cyfleoedd i ddisgyblion archwilio'r byd o'u cwmpas, a thrwy gwricwlwm yr ysgol mae disgyblion yn mwynhau archwilio ystafell ddosbarth awyr agored ac amgylchedd dysgu ehangach yr ysgol o oedran cynnar.

"Llongyfarchiadau i'r ysgol, a fydd yn cael ei chefnogi gan yr Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r argymhellion a roddwyd gan Estyn."

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Yr Eglwys Newydd 687 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 12.7% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, 8.7% o'r disgyblion wedi'u nodi'n rhai ag anghenion dysgu ychwanegol  9.4% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

I ddarllen yr adroddiad yn llawn ewch iYsgol Gynradd yr Eglwys Newydd | Estyn (llyw.cymru)