Back
Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar 22 Mehefin
 21/06/24

 Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi'i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar 22 a 23 Mehefin.

Bydd yr orymdaith ar 22 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.

Bydd pawb yn ymgynnull ar Heol y Porth cyn dechrau’r orymdaith am 11am a cherdded i fyny Stryd y Castell i'r Stryd Fawr, ac yna Heol Eglwys Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin a gorffen ar Stryd y Castell.

I hwyluso’r digwyddiadau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 22 Mehefin.

o 6am tan hanner nos, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

·       Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth

·       Heol y Dug

o 8am tan 2.30pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol Eglwys Fair Isaf, Lôn y Felin, Yr Ais, Heol Eglwys Ioan, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y Brodyr Llwydion - o’r gyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin a chyffordd gwesty’r Hilton.

Cyfyngiadau pellach a mynediad:

·       Bydd mynediad o amgylch Heol Scott / Heol y Porth Isaf / Stryd Wood yna ros ar agor pan a chyhyd ag y bo modd.

·       Byddwn yn anelu at agor Heol y Porth a'r ffyrdd ochr rhwng hanner dydd a 12.30pm, neu nes bod y torfeydd yn gwasgaru.

·       Bydd gan Arglawdd Fitzhammon gyfyngiadau ar waith i hwyluso'r bysiau, felly bydd llai o leoedd parcio.

·       Bydd Heol y Brodyr Llwydion o Boulevard tuag at Blas y Parc yn aros ar agor un ffordd.