Back
Yr Arglwydd Faer Newydd yn dewis banc bwyd i elwa o'i blwyddyn yn y swydd

23.05.24
Mae'r Cynghorydd Jane Henshaw wedi ymgymryd yn swyddogol â'i rôl fel Arglwydd Faer newydd Caerdydd.

Cyflwynwyd y gadwyn swyddogol iddi mewn seremoni yn Neuadd y Sir heddiw, yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol Cyngor Caerdydd.

Yn gyn-Ddirprwy Faer i’r Cynghorydd Bablin Molik, mae'r Cynghorydd Henshaw wedi dewis Banc Bwyd Caerdydd fel elusen enwebedig, achos sy'n agos at ei chalon.

"Trwy fy ngwaith ar y Cyngor, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith gwych y mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn yr elusen yn ei wneud, y ffordd y maen nhw'n newid bywydau yn y cyfnod anodd hwn ac yn helpu pobl allan o dlodi. Mae'n ffaith drist eu bod yn bodoli o gwbl, wrth gwrs, ond rwy'n benderfynol o helpu Banc Bwyd Caerdydd mewn unrhyw ffordd y gallaf eleni."

Mynychodd Prif Swyddog Gweithredol Banc Bwyd Caerdydd, Rachel Biggs, seremoni’r Maer heddiw a siaradodd â'r Cyngor am ei gwaith.

Etholwyd y Cynghorydd Henshaw, sydd bellach â'r teitl Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, i'r Cyngor am y tro cyntaf yn 2017 ac mae'n cynrychioli ward Y Sblot. Mae ganddi radd BA mewn Saesneg a Hanes.

Yn wreiddiol o Wrecsam, symudodd i Gaerdydd yn 2014 ac mae'n fam i bedwar o blant. Mae ganddi bedwar o wyrion hefyd. Bydd ei merch, Angharad Anderson, yn ei chefnogi fel yr Arglwydd Faeres.

Etholwyd y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, sy'n cynrychioli Radur a Phentre-poeth, yn Ddirprwy Arglwydd Faer.