Back
Disgyblion Ysgol Uwchradd Woodlands yn ennill cystadleuaeth Esports Minecraft!

22/5/2024

Mae tîm o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands wedi'i goroni'n Bencampwyr Esports Minecraft ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) De Cymru ar ôl cystadleuaeth agos a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality.

Aeth Tîm Esports Woodlands i'r rownd derfynol a oedd yn eu herio i adeiladu amgylcheddau rhithwir yn seiliedig ar themâu fel mythau Cymru a'r Chwe Gwlad.

Yn cynnwys ysgolion arbennig o bob rhan o Dde Cymru, cyrhaeddodd y tîm o 10 dysgwr o Woodlands ym Mlynyddoedd 10 i 14 ornest derfynol ddwys yn erbyn Ysgol Trinity Fieldso Hengoedlle gwnaethon nhw greu'r Chwe Gwlad yn Minecraft.

Mae cystadleuaeth Minecraft Esports Cymru yn gydweithrediad rhwng Hwb, Minecraft ac URC a chafodd pob gornest ei beirniadu gan weithwyr proffesiynol profiadol o Hwb, URC ac Esports Wales.

Mae gan Ysgol Uwchradd Woodlands, sy'nrhan o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin,bellach dudalen Minecraft bwrpasol ar ei gwefan, lle gall myfyrwyr arddangos eu creadigaethau drwy sgrinluniau a fideos egluro. Y nod yw annog creadigrwydd ac arloesedd pellach y tu hwnt i ffiniau traddodiadol, gan rymuso myfyrwyr i archwilio posibiliadau diderfyn.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Woodlands, Sian Thomas: "Rydym wrth ein bodd am ennill cystadleuaeth Esports Minecraft! Mae Woodlands wedi bod yn defnyddio Minecraft ers y Nadolig gyda bron pob dosbarth yn cymryd rhan trwy eu gwaith pwnc.

"Mae'r gystadleuaeth wedi rhoi hwb i'w cydweithio a'u gwaith tîm ac wedi meithrin hyder a sgiliau arwain i'r rhai sy'n dangos addewid yn y maes hwn o ddatblygu sgiliau."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Da iawn am y cyflawniad gwych hwn! Mae'r fenter hon yn gyfle gwych i bobl ifanc o bob gallu weithio gyda'i gilydd, fel tîm gan ddefnyddio sgiliau digidol a chreadigol a fydd yn eu hymddiddori a'u paratoi ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Bianca Rees, Cadeirydd Llywodraethwyr Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin: "Rwy'n falch iawn bod y cyfle hwn ar gael i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a bod yn bencampwyr yw'r eisin ar y gacen! Mae'r rhain yn sgiliau pwysig ar gyfer dyfodol ein disgyblion, mewn byd lle mae technoleg ar flaen y gad. Pwy a ŵyr pa ddrysau y bydd hyn yn eu hagor iddyn nhw?"