Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Mai 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Canllaw newydd i helpu i leihau'r risg o ddementia
  • Arglwydd Faer Caerdydd yn myfyrio ar flwyddyn 'brysur a hyfryd' yn y swydd
  • Gofalwr maeth o Gaerdydd yn rhannu rysáit teuluol mewn llyfr coginio sydd â chefnogaeth gan enwogion
  • Darganfyddwch eich Robinson Crusoe mewnol gydag ymweliad ag Ynys Echni

 

Canllaw newydd i helpu i leihau'r risg o ddementia

Mae adnodd newydd i helpu preswylwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall sut i leihau eu tebygolrwydd o ddatblygu dementia wedi cael ei lansio.

Mae'r canllaw - 'Lleihau'ch risg o ddatblygu dementia', yn rhoi gwybodaeth am rai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â datblygu dementia a sut y gall gwneud newidiadau nawr helpu i gadw'ch corff yn iach ac atal niwed i'ch ymennydd.

Lansiwyd y canllaw, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia, Y Fro Dementia-Gyfeillgar a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mewn Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia arbennig yn Neuadd Llanofer.

Bydd y canllaw ar gael mewn Hybiau a Llyfrgelloedd, yn ogystal â lleoliadau cymunedol eraill, ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Roedd amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yn yr Ŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia, gan gynnwys; Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor, Gwasanaeth Cymorth Lles a Theleofal/Pryd ar Glud, yn ogystal â'r Côr Nad Fi'n Angof a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae gwefan Caerdydd sy'n Deall Dementia  www.caerdydddealldementia.co.uk  yn adnodd defnyddiol arall sy'n rhoi manylion am ddigwyddiadau yn y gymuned leol a chyfoeth o gyngor ac adnoddau i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Darllenwch fwy yma

 

Arglwydd Faer Caerdydd yn myfyrio ar flwyddyn 'brysur a hyfryd' yn y swydd

Gyda thua 270 o ymrwymiadau swyddogol wedi'u cyflawni, gan gynnwys seremonïau plannu coed, codi arian i elusennau, saliwtiau Brenhinol ac ymweliadau ysgol, all neb ddweud bod Bablin Molik wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf fel Arglwydd Faer Caerdydd yn llaesu dwylo.

"Mae wedi bod yn brysur ac yn wych ar yr un pryd," meddai.  "Roeddwn i'n gwybod y byddai'n anrhydedd ac yn fraint cael gwasanaethu fel prif ddinesydd Caerdydd a doeddwn i ddim am fethu unrhyw ran ohono. Mae pob ymrwymiad wedi bod yn hyfryd yn ei ffordd ei hun."

Hyd yn oed cyn i'w dyddiadur ddechrau llenwi, roedd ei blwyddyn bob amser yn mynd i fod yn gofiadwy.  Fel y fenyw gyntaf o liw, a'r Mwslim cyntaf i wasanaethu fel Arglwydd Faer Caerdydd, mae hi wedi bod yn dipyn o arloesydd. Ond mae'n deyrnged i'w natur ddyfal ei bod wedi ymdopi â'r cyfan yn ddidrafferth.

Mae hi wedi llwyddo i gyflawni ei dyletswyddau tra, ar yr un pryd, yn gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Sight Cymru, elusen sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli golwg yng Nghymru, yn parhau i ymdrin â'i gwaith achos fel cynghorydd ward dros Gyncoed, ac - yn anad dim - helpu ei gŵr i fagu dwy ferch.

"Roeddwn i eisiau profi ei bod yn bosib," meddai. "Fel menywod, rydym yn aml yn meddwl nad yw'n bosibl i ni oherwydd cyfrifoldebau eraill, felly roedd hi'n bwysig i mi i ddangos bod menywod sy'n gweithio gyda chyfrifoldebau gofal yn gallu gwneud y pethau hyn a'u gwneud nhw'n dda. Mae wedi bod yn waith caled - ac mae rhai wythnosau wedi bod yn fwy blinedig na'i gilydd - ond roedd yn brofiad na fyddwn i wedi bod eisiau ei golli."

Mae'r Cynghorydd Molik yn gorffen ei blwyddyn fel Arglwydd Faer yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor ar 23 Mai pan fydd ei dirprwy presennol, y Cynghorydd Jane Henshaw, yn ei holynu. Ei dirprwy ar gyfer y flwyddyn fydd y Cynghorydd Helen Lloyd Jones.

Darllenwch fwy yma

 

Gofalwr maeth o Gaerdydd yn rhannu rysáit teuluol mewn llyfr coginio sydd â chefnogaeth gan enwogion

Fe gyfrannodd Claire rysáit i ‘Dewch â rhywbeth at y bwrdd', llyfr newydd sy'n llawn dop â ryseitiau ac atgofion maethu trawsffurfiol, gan ofalwyr a phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Mae Claire yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiadau o faethu yn annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr.

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol - yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad ‘cywir'.

Yn eu llyfr newydd - Dewch â rhywbeth at y bwrdd - mae Maethu Cymru'n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig - megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda'r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a'r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd - gan dynnu o'u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Pan gyrhaeddodd y bobl ifanc gartref Claire, roedden nhw'n arfer cymryd bwyd o'r cypyrddau a chuddio bwyd yn eu pocedi i'w bwyta yn ddiweddarach. "Doedden nhw erioed wedi bwyta fel teulu", esboniodd Claire. "Mae eistedd lawr fel teulu nawr yn rhywbeth rydyn ni'n ei wneud bob dydd, mae'n amser gwych i sgwrsio am y diwrnod a hefyd amser i gael jôc, siarad am bethau rydyn ni wedi'u gwneud yn y dydd a'r lleoedd rydyn ni wedi bod."

Darllenwch fwy yma

 

Darganfyddwch eich Robinson Crusoe mewnol gydag ymweliad ag Ynys Echni

Os cawsoch yr awydd erioed i grwydro ynys hardd, mynd nôl i fyd natur a ‘darganfod eich Robinson Crusoe mewnol' mae cyfle gennych nawr - a hynny gwta bum milltir oddi ar lannau Caerdydd.

Gall Ynys Echni, yr em emrallt fach ym Môr Hafren, ymddangos yn ddigon agos i gyffwrdd â hi ar ddiwrnod heulog a chlir ac mae ei hapêl wedi bod yn denu ymsefydlwyr i'w glannau am 2,000 o flynyddoedd a rhagor. Ers yr Oes Efydd mae wedi denu amrywiaeth liwgar o ffermwyr, arloeswyr, milwyr a gwyddonwyr, pob un wedi eu denu gan ei rhinweddau unigryw.

Nawr, mae Cyngor Caerdydd - sy'n berchen ar yr ynys - yn eich gwahodd i ymuno â'r rhai hynny sydd wedi archwilio a mwynhau'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol. Gyda chymorth yr arbenigwyr bywyd gwyllt a'r wardeiniaid sy'n cynnal Ynys Echni, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi tymor o ddigwyddiadau dydd ac arosiadau preswyl byr i unigolion a grwpiau.

Wedi'i ddisgrifio fel "profiad unigryw a gwerth chweil os ydych yn barod am her ac antur bywyd ar ynys fach, anghysbell", mae'r ymweliadau'n cynnwys llety hostel mewn ffermdy wedi'i drosi a chyfle i ddysgu sgiliau newydd, creu atgofion arbennig a meithrin cyfeillgarwch parhaol.

Yn ôl Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau, mae Ynys Echni yn un o'r tlysau llai adnabyddus ymhlith mannau gwyrdd Caerdydd. "Mae'n lle mor hardd a hanesyddol," meddai. "Fel gwarchodfa natur, mae'n rhaid i ni ei gwarchod ond rwy'n falch iawn y gallwn ei hagor mewn modd cyfyngedig drwy'r ymweliadau diwylliannol a lles hyn."

Darllenwch fwy yma