Back
Ysgol Uwchradd Cathays yn ennill Rownd Derfynol Cwpan Debate Mate 2024!

21/5/ 2024

Mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi cael ei choroni yn bencampwr Cwpan Debate Mate ar gyfer 2024, ar ôl curo pencampwyr y ddwy flynedd ddiwethaf, Ysgol Uwchradd Willows.

Bu myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Glantaf, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Uwchradd Yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ac Ysgol Uwchradd Cathays yn cymryd rhan yn y rhaglen ddadlau ysgolion 12 wythnos a gyflwynwyd gan Debate Mate ar draws yr wyth ysgol yn y ddinas.

 

Daeth y rhaglen 12 wythnos i ben gyda'r rownd derfynol, a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality yn Stadiwm Principality. Roedd diwrnod y dadleuon pen-i-ben yn cynnwys gwirfoddolwyr o Gymdeithas Adeiladu'r Principality yn cefnogi mentoriaid Debate Mate gan gadeirio a barnu'r dadleuon.

Trafododd disgyblion faterion ynglŷn â threth carbon i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac a ddylai ysgolion ddarparu dyfeisiau TG i blant. Cyrhaeddodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Uwchradd Willows ddadl olaf y dydd, gan drafod y pwnc 'Byddai'r tŷ hwn yn oedi datblygiadau Deallusrwydd Artiffisial'.

Cynhaliwyd y rownd derfynol o flaen yr holl ysgolion eraill a gystadlodd, yn ogystal â phartneriaid yn y sector preifat Cymdeithas Adeiladu Principality a Legal & General y gwnaeth sgiliau dadlau'r holl ddisgyblion argraff mawr arnynt ac a oedd wrth eu bodd yn gweld Ysgol Uwchradd Cathays yn sicrhau Cwpan Debate Mate i Gaerdydd/Cymru!

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae Debate Mate 2024 wedi bod yn ddigwyddiad gwych ac roedd yr holl gyfraniadau rydw i wedi'u clywed yn rhagorol. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y fenter ac rwy'n siŵr bod pawb wedi cael profiad gwerth chweil sydd wedi'u cyfoethogi."

"Da iawn i Ysgol Cathays am ennill y Cwpan! Hoffwn ddiolch i'n partneriaid Debate Mate a Legal & General, a'n noddwyr Cymdeithas Adeiladu Principality ac Addewid Caerdydd am gyflwyno'r rhaglen eithriadol hon."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Cathays, Stuart Davies: "Rydyn ni mor falch o'r tîm dadlau sydd wedi gweithio'n galed am y cyflawniad hwn. Mae'r disgyblion wedi ennill sgiliau gwerthfawr ac wedi dangos sut mae eu hyder a'u galluoedd dadlau wedi tyfu trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon."

Cyflwynwyd Rhaglen Debate Mate Ysgolion Caerdydd gan Debate Mate, elusen sydd â'r nod o fynd i'r afael â symudedd cymdeithasol drwy ddarparu clybiau dadlau ar ôl ysgol mewn ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, gan ddefnyddio model mentora cyfoedion hynod effeithiol. Mae'r rhaglen Ysgolion Debate Mate yn cefnogi datblygiad sgiliau trosglwyddadwy allweddol ac yn gwella ystod o uwch sgiliau meddwl fel hyder, gwaith tîm ac arweinyddiaeth mewn disgyblion o flwyddyn 7 i 10.

Mae'r fenter wedi cael ei noddi gan Addewid Caerdydd a derbyniodd gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cynhaliodd partneriaid Addewid Caerdydd Legal & General ac Admiral 2 o'r cystadlaethau dadlau, Urban Debate Leagues, yn eu swyddfeydd ddechrau mis Mai.