Back
Y Pantri Bwyd yn bwydo 'aelod newydd bob wythnos' gyda chefnogaeth y Cyngor

21.5.24

 

Mewn stryd oddi ar Heol y Plwca brysur Caerdydd mae grŵp o bobl yn aros yn amyneddgar yn y glaw mân, y tu allan i adeilad cyffredin. Mae'n ddeng munud cyn i'r drws agor, maen nhw'n cael tocyn, ac yn mynd i mewn i wneud eu siopa wythnosol - gan lenwi bagiau gyda bwydydd bob dydd gan gynnwys pasta, grawnfwyd, tomatos wedi'u torri a bananas.

Mae'r olygfa ym Mhantri Bwyd Canolfan TAVS yn cael ei hailadrodd bob nos Fawrth a nos Iau, pan fydd tua 30 o bobl bob nos yn talu aelodaeth o £3 i lenwi bag gyda gwerth ryw £15 o fwyd.

"Mae gennym aelod newydd bob wythnos," eglura'r Gweithiwr Cymunedol, Hannah Westwell, "mae wedi tyfu'n aruthrol ers i ni ei sefydlu yn ystod Covid. I ddechrau, dim ond y bobl oedd yn dod ar nos Sul, lle rydym yn dosbarthu bwyd poeth am ddim - felly pobl oedd yn ddigartref neu'n agored i niwed yn bennaf, ond rydym yn gweld niferoedd cynyddol o geiswyr lloches a ffoaduriaid, yn ogystal â phobl sydd yn byw'n lleol ac sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol."

A person and person standing next to each otherDescription automatically generated

Gweithiwr Cymunedol Canolfan TAVS, Hannah Westwell (dde) ac un o'r gwirfoddolwyr yn y Pantri Bwyd.

Mae'r prosiect yn un o saith ar hugain o brosiectau bwyd yng Nghaerdydd sydd wedi elwa yn ddiweddar o dros £193,000 o gyllid grant gan Gyngor Caerdydd. Mae'r prosiectau a gefnogir gyda chyllid a refeniw cyfalaf, yn amrywio o bantris bwyd fel TAVS, i glybiau cinio sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu, clybiau coginio sy'n darparu hyfforddiant ar sut i goginio prydau fforddiadwy ac iach, i brosiectau tyfu sy'n cyflenwi cynnyrch ffres ar gyfer rhai o bantris bwyd niferus y ddinas.

Dywedodd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: "Bydd y rhan fwyaf ohonom wedi teimlo effaith cynnydd mewn prisiau bwyd yn ddiweddar, ac wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu, mae angen cymorth ar fwy a mwy o breswylwyr. Mae'r grantiau hyn yn un ffordd y mae'r Cyngor yn helpu i sicrhau bod cymunedau ledled y ddinas yn gallu manteisio ar y bwyd iach, fforddiadwy sydd ei angen arnynt."

Ar gyfer prosiectau fel TAVS, sy'n cael eu rhedeg bron yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac yn dibynnu ar roddion, mae'r cyllid wedi bod yn hanfodol.

"Mae archfarchnadoedd yn torri faint o warged sydd ganddyn nhw," meddai Hannah, "sy'n golygu bod gan brosiectau fel ein un ni lai o gynaliadwyedd, felly mae'r grant wedi caniatáu i ni adeiladu ein stociau o fwyd fydd yn para, felly rydyn ni wedi gwneud llawer o siopa am nwyddau hir oes, pethau fydd yn para yn dda i ni trwy gydol y flwyddyn."

A table full of cans and cansDescription automatically generated

Peth o'r bwyd y mae'r cyllid grant wedi galluogi Canolfan TAVS i'w brynu.

Mae'r arian hefyd wedi helpu TAVS i gynnal cynllun peilot o Glwb Coginio Rhyngwladol, lle mae aelodau o'r pantri bwyd yn coginio bwyd o'u mamwlad i'w rannu ag eraill, a phrynu offer cegin, fel y gallan nhw "roi pobl ar ben y ffordd os nad oes ganddyn nhw rywbeth sydd ei angen i goginio gartref - agorwyr tun, plicwyr llysiau - does dim pwynt rhoi seleriac i bobl os nad oes ganddyn nhw gyllell i'w dorri - felly mae'n cael gwared ar y rhwystr yna."

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, bydd y pantri yn cael ei ailstocio, a bydd 30 o bobl wahanol yn aros y tu allan. Yn ôl Hannah, "does dim llawer o orgyffwrdd rhwng y grwpiau, felly mae'n golygu llawer o bobl."

"Mae'n eich sobri," meddai'r Cynghorydd Sangani, "ond heb y cymorth a ddarperir gan sefydliadau fel TAVS, yn anffodus gallai'r sefyllfa fod yn llawer gwaeth."