Back
Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwilio am aelodau newydd

20.5.24

Mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwilio am dri aelod newydd i helpu i ddatblygu a chefnogi sîn gerddoriaeth y ddinas.

Wedi'i sefydlu ddiwedd 2019, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd ac mae wedi bod yn rhan annatod o ddod â'r Ŵyl 6Music i Gaerdydd, cyflwyno cyfres o sesiynau diwydiant yn ystod Gŵyl Sŵn, cynnal cyfres o gigs awyr agored yng Nghastell Caerdydd i gefnogi lleoliadau annibynnol lleol yn ystod y pandemig,  lansiad 'Gigs Bach' - prosiect datblygu talent cerddoriaeth newydd yn ysgolion Caerdydd, gan sicrhau safle newydd ar Lôn y Barics ar gyfer bar a lleoliad annibynnol poblogaidd, Porters a'r cyhoeddiad diweddar am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, a gynhelir yr hydref hwn.

Mae arbenigedd ac ymrwymiad aelodau'r bwrdd wedi bod yn amhrisiadwy i gefnogi'r sector cerddoriaeth mewn cyfnod heriol a daw'r alwad am wynebau newydd ar ôl i rai aelodau ymestyn eu telerau aelodaeth cychwynnol, i sicrhau parhad ar ôl y pandemig.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i gerddoriaeth yng Nghaerdydd. Gyda'r pandemig y tu ôl i ni, cyhoeddir perfformwyr cyntaf Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a'n Swyddog Cerdd llawn amser cyntaf erioed yn cael ei gyflogi, nawr yw'r cyfle perffaith i gael lleisiau ffres, syniadau a phrofiadau newydd o amgylch y bwrdd, fel y gall y Bwrdd fynd â'r gwaith sylweddol y mae eisoes yn ei wneud i gefnogi sector cerddoriaeth Caerdydd i'r lefel nesaf."

Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn cynnwys deunaw aelod sydd â phrofiad helaeth yn y sector cerddoriaeth, sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd sy'n anelu at roi cerddoriaeth wrth galon y ddinas.

Ymgynghorir â'r Bwrdd ar geisiadau cynllunio sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth, maent yn gweithio gyda Live Nation i sicrhau bod yr arena newydd ym Mae Caerdydd yn cysylltu â sector cerddoriaeth llawr gwlad y ddinas, wedi datblygu comisiynau 'cerddor preswyl' Caerdydd, yn ogystal â chyfleoedd galwad agored ar gyfer talent greadigol yn y ddinas ac yn darparu cyswllt allweddol rhwng gweithwyr proffesiynol cerddoriaeth,  y Cyngor a sefydliadau eraill sydd â rôl yn y sector.

Mae rhagor o wybodaeth am Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, a sut i wneud cais i ddod yn aelod, ar gael yma: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Busnes/Cymorth a Chyllid-i-Fusnes/cardiff-music-board/Pages/default.aspx

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Mehefin 2024 am 5pm.