Back
Y newyddion gennym ni - 20/05/24

Image

17/05/24 - Twf addawol y Gymraeg yng ngweithlu'r Cyngor

Mae nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg sy'n gweithio i Gyngor Caerdydd wedi cynyddu mwy na thraean yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/05/24 - Darganfyddwch eich Robinson Crusoe mewnol gydag ymweliad ag Ynys Echni

Os cawsoch yr awydd erioed i grwydro ynys hardd, mynd nôl i fyd natur a ‘darganfod eich Robinson Crusoe mewnol' mae cyfle gennych nawr - a hynny gwta bum milltir oddi ar lannau Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/05/24 - Canllaw newydd i helpu i leihau'r risg o ddementia

Mae adnodd newydd i helpu preswylwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall sut i leihau eu tebygolrwydd o ddatblygu dementia wedi cael ei lansio heddiw, yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/05/24 - Cymorth grant i wella adeiladau cymunedol

Gwahoddir ceisiadau nawr am arian grant i gefnogi sefydliadau cymunedol y sector gwirfoddol i wella eu hadeiladau cymunedol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/05/24 - Estyn yn canfod bod Ysgol Gynradd Hywel Dda yn Gefnogol a Chynhwysol

Yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn, canfuwyd bod Ysgol Gynradd Hywel Dda yn sefyll allan am ei hymrwymiad i greu amgylchedd gofalgar a chefnogol lle mae lles disgyblion yn brif flaenoriaeth.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/05/24 - Datgelu cynllun gweithredu a gynlluniwyd gan y gymuned leol ar gyfer Trelái a Chaerau

Mae pecyn o fesurau - sydd wedi'i gynllunio i wella bywydau pobl ifanc a'r gymuned leol ar ystadau Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd - wedi cael ei gytuno gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/05/24 - Llwybr newydd yn archwilio hanes Camlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd

Mae camlas gyflenwi'r dociau Caerdydd, a adeiladwyd yn y 1830au, wedi dechrau cyfnod newydd yn ei hanes yn ddiweddar, pan ddatgelwyd rhan o ddyfrffordd y ddinas a oedd wedi'i chuddio o dan Ffordd Churchill yng nghanol dinas Caerdydd ers 1948.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/05/24 - Gofalwr maeth o Gaerdydd yn rhannu rysáit teuluol mewn llyfr coginio sydd â chefnogaeth gan enwogion

Fe gyfrannodd Claire rysáit i ‘Dewch â rhywbeth at y bwrdd', llyfr newydd sy'n llawn dop â ryseitiau ac atgofion maethu trawsffurfiol, gan ofalwyr a phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/05/24 - Y Cyngor yn helpu clwb criced y ddinas i oresgyn fandaliaeth a hiliaeth

Ddwy flynedd yn ôl, ar ddiwedd tymor llwyddiannus, roedd Clwb Criced Llandaf yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, gan gyflwyno'r gamp i fenywod, bechgyn a merched, yn ogystal â pharhau i ddringo'r tablau cynghrair lleol gyda'i dîm hŷn.

Darllenwch fwy yma