Back
Twf addawol y Gymraeg yng ngweithlu'r Cyngor


17/5/24 

Mae nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg sy'n gweithio i Gyngor Caerdydd wedi cynyddu mwy na thraean yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mae ffigurau a ddatgelwyd yn adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg yr awdurdod yn dangos cynnydd o 35% o staff sydd â rhyw lefel o sgiliau Cymraeg ers 2022-23, sy'n cynrychioli mwy na chwarter y gweithlu sydd wedi'u cofrestru ar ei system Adnoddau Dynol DigiGOV.

 

Cymerodd bron i 1,800 aelod o staff ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg y llynedd - cynnydd o 11% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

Dim ond rhai o uchafbwyntiau'r adroddiad blynyddol, y mae'n rhaid i'r Cyngor ei lunio bob blwyddyn i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, yw'r gwelliannau hyn.

 

Mae cyflawniadau eraill dros y 12 mis diwethaf yn cynnwys dros 14.2 miliwn o eiriau'n cael eu cyfieithu gan dîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor; lansio partneriaeth Pencampwyr Addysg Gymraeg De-ddwyrain Cymru i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y rhanbarth; dros 300 o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn mynd i ffair yrfaoedd Cymraeg Gyrfa Gymraeg yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, lansio gwefan newydd Ein Dinas Ein Hiaith / Our City Our Language/  ar Ddydd Gŵyl Dewi - sy'n gydweithrediad rhwng Tîm Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor a Chaerdydd Ddwyieithog i ddarparu gwybodaeth am addysg a diwylliant, gweithgareddau a chyfleoedd Cymraeg sydd ar gael yng Nghaerdydd, a llunio polisi i helpu swyddogion y Cyngor i wneud ymdrech gydwybodol i ystyried yr holl effeithiau posibl ar y Gymraeg pan fo polisïau'n cael eu datblygu a'u diwygio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae ymrwymiad i hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg yn sail i'n gweledigaeth ar gyfer prifddinas wirioneddol ddwyieithog, felly mae'r cynnydd yn nifer ein gweithlu sydd â sgiliau Cymraeg yn galonogol iawn.

 

"Yn ogystal â'r twf aruthrol yn nifer y swyddogion sydd â rhyw lefel o sgiliau Cymraeg, cafwyd cynnydd sylweddol hefyd - 32%, yn nifer y staff y mae eu sgiliau'n ddigonol i gefnogi ein gwasanaethau Cymraeg, sydd wrth gwrs yn bwysig iawn wrth sicrhau ein bod yn diwallu anghenion trigolion a chwsmeriaid y mae'n well ganddynt ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

"Roeddwn wrth fy modd yn lansio gwefan siop un stop newydd Ein Dinas Ein Hiaith / Our City Our Language/ ar 1 Mawrth, sy'n adnodd ardderchog i drigolion ac mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Menter Iaith Caerdydd a'r Urdd wedi gwneud gwaith gwych dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno CFTi, y ddarpariaeth ieuenctid Gymraeg yn y ddinas."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad Safonau'r Gymraeg 2023-24 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Mai. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8216&LLL=1