17.05.24
Os cawsoch yr awydd erioed i grwydro ynys hardd,
mynd nôl i fyd natur a ‘darganfod eich Robinson Crusoe mewnol’ mae cyfle
gennych nawr - a hynny gwta bum milltir oddi ar lannau Caerdydd.
Gall Ynys Echni, yr em emrallt fach ym Môr Hafren,
ymddangos yn ddigon agos i gyffwrdd â hi ar ddiwrnod heulog a chlir ac mae ei
hapêl wedi bod yn denu ymsefydlwyr i'w glannau am 2,000 o flynyddoedd a rhagor.
Ers yr Oes Efydd mae wedi denu amrywiaeth liwgar o ffermwyr, arloeswyr, milwyr
a gwyddonwyr, pob un wedi eu denu gan ei rhinweddau unigryw.
Nawr, mae Cyngor Caerdydd - sy'n berchen ar yr ynys
- yn eich gwahodd i ymuno â'r rhai hynny sydd wedi archwilio a mwynhau'r Safle
o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol. Gyda chymorth yr
arbenigwyr bywyd gwyllt a'r wardeiniaid sy'n cynnal Ynys Echni, mae’r Cyngor
wedi cyhoeddi tymor o ddigwyddiadau dydd ac arosiadau preswyl byr i unigolion a
grwpiau.
Wedi'i ddisgrifio fel "profiad unigryw a
gwerth chweil os ydych yn barod am her ac antur bywyd ar ynys fach,
anghysbell", mae'r ymweliadau'n cynnwys llety hostel mewn ffermdy wedi'i
drosi a chyfle i ddysgu sgiliau newydd, creu atgofion arbennig a meithrin
cyfeillgarwch parhaol.
Yn ôl Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros
Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau, mae Ynys Echni yn un o'r
tlysau llai adnabyddus ymhlith mannau gwyrdd Caerdydd. "Mae'n lle mor
hardd a hanesyddol," meddai. "Fel gwarchodfa natur, mae'n rhaid i ni
ei gwarchod ond rwy'n falch iawn y gallwn ei hagor mewn modd cyfyngedig drwy'r
ymweliadau diwylliannol a lles hyn."
Mae ymweliadau, sy'n costio rhwng £100 a £260, yn
cynnwys cludiant cwch nôl a blaen, llety a hyfforddiant. Y rhaglen eleni yw:
- Anturiaethau ysgrifennu creadigol (Awst 23-25)
Cyfle i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu dan arweiniad yr artist a'r awdur
Sarah Featherstone
- Awyr a heli – gweithdy celf (Gorffennaf 5-7) Cwrs
sy'n addas i bawb sy'n frwdfrydig am gelf a natur – ac addas i bob gallu – gan
gynnwys ymgais i weld Ynys Echni drwy lygaid aderyn
- Brychau haul, machlud haul a syllu ar y sêr
(Gorffennaf 13-14) Ymhell o lygredd golau Caerdydd, mae Ynys Echni yn cynnig
cyfle i weld awyr y nos yn ei holl ogoniant, gan gynnwys y Llwybr Llaethog,
gyda chymorth telesgopau arbennig a ddarperir gan Gymdeithas Seryddol Caerdydd
- Penwythnos haf sgiliau ffotograffiaeth (Awst 2-4;
Hydref 4-6) Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddefnyddio amrywiaeth o wahanol
osodiadau a nodweddion camera i gael y gorau o'ch ffotograffiaeth.
- Profiad gwirfoddolwyr cadwraeth (Awst 26-30) Cyfle
i brofi byw a gweithio ar ynys a gwyliau ‘gwahanol’ lle gallwch roi rhywbeth yn
ôl i fyd natur, gan gynnwys cyflawni tasgau cadwraeth hanfodol a helpu i adfer
a chynnal adeiladau treftadaeth
- Adfer, ymlacio a chysylltu – encil llesiant (Awst
30-Medi 1; Medi 6-8) Cymerwch hoe o’ch dyddiau llawn prysurdeb ac ailwefru eich
batris trwy weithgareddau gan gynnwys ioga, Qigong a dawnsio Rhyddid
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.cardiffharbour.com/cy/ynys-echni/digwyddiadau-ynys-echni/
Ffeil Ffeithiau Ynys Echni
- Er ei bod ond ychydig dros ddegfed rhan o filltir
sgwâr o ran ei maint, mae gan Ynys Echni hanes mawr. Bu pobl yn byw yno gyntaf
yn ystod yr Oes Efydd (900-700CC) ac yn y 5ed-6ed Ganrif
OC roedd yn encil i Catwg Sant a fu’n feudwy ar yr ynys.
- Mae ganddi gysylltiadau â'r Eingl-Sacsoniaid a'r
Llychlynwyr, ac ym 1542 rhoddodd Harri’r VIII brydles i Edmund Tournor i
ffermio ar yr ynys
- Yn y 18fed Ganrif roedd yn safle
delfrydol i smyglo
- Er gwaethaf y goleudy a godwyd ym 1737, mae wedi
bod yn dyst i nifer o longddrylliadau. Ym 1817, suddodd y slŵp Brydeinig William
and Mary ar ôl taro’r creigiau oddi ar Ynys Echni pan gollwyd 54 o deithwyr
- 50 ohonynt wedi'u claddu ar yr ynys.
- Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd 350 o filwyr y
Magnelwyr Brenhinol ar yr ynys i amddiffyn llyngesau gosgordd rhwng Caerdydd, y
Barri ac Ynys Echni.
- Yn 2008, ym mhennod 'Adrift' chwaer-gynhyrchiad Dr
Who y BBC, sef Torchwood, cafodd yr ynys ei chynnwys fel cartref i gyfleuster
meddygol cyfrinachol.
- Ar hyn o bryd mae'r ynys yn cael ei rheoli gan
Gyngor Caerdydd, ac yn cael ei chefnogi gan Brosiect Ynys Echni, sy'n elusen
gofrestredig