Back
Canllaw newydd i helpu i leihau'r risg o ddementia


17/5/24

Mae adnodd newydd i helpu preswylwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall sut i leihau eu tebygolrwydd o ddatblygu dementia wedi cael ei lansio heddiw, yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia.

Mae'r canllaw - 'Lleihau'ch risg o ddatblygu dementia', yn rhoi gwybodaeth am rai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â datblygu dementia a sut y gall gwneud newidiadau nawr helpu i gadw'ch corff yn iach ac atal niwed i'ch ymennydd.

Lansiwyd y canllaw, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia, Y Fro Dementia-Gyfeillgar a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mewn Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia arbennig yn Neuadd Llanofer.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae ymchwil yn dangos ei bod hi'n bosibl lleihau eich tebygolrwydd o ddatblygu dementia ac nad yw hi byth yn rhy gynnar na'n rhy hwyr i weithredu.

"Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth y gall gwneud newidiadau bach i ffordd o fyw nawr gael effaith tymor hwy ar debygolrwydd pobl o ddatblygu dementia. Mae'r canllaw hefyd yn cyfeirio at gymorth a gwybodaeth leol a all helpu pobl i gymryd y camau gweithredu a awgrymir."

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae dementia yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ar draws y DU - gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg.

"Mae hwn yn adnodd gwych yr ydym wedi cydweithio arno ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn werthfawr i drigolion ledled Caerdydd a'r Fro wrth ddangos y gall hyd yn oed y newidiadau lleiaf mewn ffordd o fyw gael effaith fawr ar eich iechyd yn y dyfodol."

Bydd y canllaw ar gael mewn Hybiau a Llyfrgelloedd, yn ogystal â lleoliadau cymunedol eraill, ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Roedd amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yn yr Ŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia, gan gynnwys; Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor, Gwasanaeth Cymorth Lles a Theleofal/Pryd ar Glud, yn ogystal â'r Côr Nad Fi'n Angof a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Wythnos Gweithredu ar Ddementia (Mai 13 - 19) yw ymgyrch ymwybyddiaeth fwyaf a hiraf y Gymdeithas Alzheimer's. Bob blwyddyn, mae unigolion a sefydliadau ledled y DU yn cael eu hannog i 'weithredu ar ddementia'. 

 

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer's Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn gweithio i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n Deall Dementia.  Mae'r mudiad hwn yn annog ac yn cynorthwyo sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i ddeall dementia a chynnig cymorth gwell i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Mae'r adnodd hwn wedi bod yn bosibl drwy gyllid grant Llywodraeth Cymru a chefnogaeth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIP Caerdydd a'r Fro: "Mae mor bwysig gofalu am eich iechyd. Mae'r adnodd hwn yn tynnu sylw at sut y gallwn ni i gyd leihau ein risg o ddementia yn y dyfodol hyd at 40 y cant trwy gymryd y camau syml yn y canllaw hwn."

Mae gwefan Caerdydd sy'n Deall Dementiawww.caerdydddealldementia.co.ukyn adnodd defnyddiol arall sy'n rhoi manylion am ddigwyddiadau yn y gymuned leol a chyfoeth o gyngor ac adnoddau i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.