04.04.24
Daeth dros
180 o bobl i sesiwn galw heibio ddeuddydd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf i
archwilio cynlluniau a rhoi eu barn ar waith adnewyddu arfaethedig ac ailagor
Canolfan Hamdden Pentwyn.
Roedd y
sesiynau'n gyfle i bobl leol drafod gyda swyddogion y cyngor fanylion y gwaith
adnewyddu, sydd wedi ei gynllunio i ddigwydd pan fydd Clwb Rygbi Caerdydd, sydd
wedi bod yn defnyddio'r ganolfan ar gyfer ei sesiynau hyfforddi, yn gadael yr
adeilad ym mis Mai.
Ymhlith y
cyfleusterau newydd sydd wedi'u cynllunio mae:
Dywedodd
llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Roeddem yn falch bod cymaint o bobl
wedi dod a'n bod ni wedi gallu gwrando ar eu barn nhw ac esbonio'r cynlluniau
newydd ar gyfer y ganolfan. Cawsom adborth cadarnhaol ar ein penderfyniad i
newid dyluniad y pwll ac i gynyddu maint a dyfnder y pwll newydd. Rydym yn
gobeithio bod ar y safle’n fuan i ddechrau ar y gwaith."
Yn y
sesiynau, datgelodd y Cyngor y byddai GLL, gweithredwyr y ganolfan, yn ail-agor
rhannau o'r ganolfan, gan gynnwys y gampfa, ganol mis Mehefin gyda gwaith ar y
pwll yn dechrau tua'r un pryd. Mae disgwyl i'r gwaith ar y pwll gael ei gwblhau
erbyn y flwyddyn nesaf.
Bydd GLL
hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau rhoi cynnig arni a sesiynau blasu yn yr haf i
hyrwyddo'r cyfleusterau a chael barn y gymuned.
Os hoffech roi eich barn ar ddyfodol y ganolfan, neu os hoffech fwy o fanylion ar y cynlluniau, e-bostiwch ymgynghoriad@caerdydd.gov.uk