Back
Cerddoriaeth fyw i ddarparu trac sain y ddinas y penwythnos hwn

20.3.24

Dychmygwch glywed trac sain cerddoriaeth ar draws y ddinas. Dinas lle mae sŵn hip-hop a drwm a bas yn rymblan dros waliau castell 2,000 o flynyddoedd oed, lle mae jazz sipsiwn i'w glywed o falconi arcedau Fictoraidd, a siopwyr yn cael eu serenadu gan bedwarawdau llinynnol a cherddoriaeth werin hamddenol Americanaidd. Caerdydd yw'r ddinas honno, y penwythnos hwn.

Bydd artistiaid lleol gan gynnwys Rona Mac, Pigeon Wigs, Keys Collective, Kitty, Junior Bill a Siglo 6 i gyd yn perfformio ar lwyfannau dros dro ledled canol y ddinas, ynghyd â bandiau pres, perfformwyr gwerin a chlasurol Cymraeg, fel rhan o ddigwyddiad 'Trac Sain y Ddinas' a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

A person singing into a microphoneDescription automatically generated

Mirari

 

Mae'r digwyddiad, a gynhelir o hanner dydd i 4pm ddydd Sadwrn, 23 Mawrth a dydd Sul, 24 Mawrth,yn rhan o waith datblygu strategaeth gerdd Caerdydd.

Trac Sain y Ddinas yw'r digwyddiad cerddorol cyntaf o lawer sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, y mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio i arddangos rhai o'r cerddorion dawnus sy'n byw yng Nghaerdydd, ac yn rhoi cerddoriaeth wrth wraidd datblygiad Caerdydd.

A group of people sitting on the floorDescription automatically generated

Pigeon Wigs

Cynhelir perfformiadau yng Nghastell Caerdydd, Ffordd Churchill, Arcêd y Castell, Marchnad Caerdydd (mynedfa Heol Eglwys Fair), Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog a'r Ais/Lôn y Barri.

 

Dydd Sadwrn, 23 Mawrth:

Castell Caerdydd

12pm -Keyz Collective- Perfformwyr drwm a bas newydd, llawn hwyl o Gaerdydd sy'n defnyddio offeryniaeth fyw, lleisiau llyfn a digonedd o egni.

1pm - 3pm -Eden Roots Afro Reggae- mae Eden Roots yn cyfuno arddulliau cerddoriaeth Affricanaidd o gartref brodorol yr arweinydd, Alex, yn Sierra Leone a reggae dyrchafol hamddenol, ac yn gymysgedd llawen ac amrywiol sy'n perfformio caneuon poblogaidd a chaneuon gwreiddiol.

2pm -Mirari- cerddor amlddisgyblaethol a rapiwr gyda band byw llawn sy'n taro "cydbwysedd rhwng neges ac alaw" ac yn cymysgugrime, hip-hop a cherddoriaeth rhythm a bas gydag arddulliau eraill.  

 

Ffordd Churchill

12.30pm -Jump.sturdy- cerddoriaeth hip-hop fywiog, wedi ei thrwytho â ffync pres, sy'n cynnwys golwg ffres ar glasuron y 90au a'r 00au.  

1.30pm -Kitty- mae Kitty, sy'n wreiddiol o Ffrainc ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn artist hyper-pop wedi'i dylanwadu gan Lady Gaga a Charli XCX sydd wedi ennill clod rhyngwladol ac mae ei cherddoriaeth wedi'i darlledu'n rhyngwladol. 

2.30pm -The St Mellonians- mae The St Mellonians, sydd wedi curo pob cystadleuaeth chwyrn, wedi dod yn driawd acwstig, comedi calypso a bysgio ska blaenllaw Caerdydd. 

 

Balconi Arcêd y Castell

12pm - 2pm- Xenia Porteous- Mae Xenia, chwaraewr ffidl Hot Club Gallois, yn dod â'i harddull ffidl Jazz Sipsiwn i Arcêd y Castell.

1pm - 3pm- Omega 2- mae llais gwych Jane Williams a gitâr arbennig y gitarydd chwedlonol, Pete Mathison, yn cyfuno â repertoire wedi'i ddewis yn dda o fersiynau poblogaidd gwych.

 

Mynedfa Marchnad Caerdydd (Heol Eglwys Fair)

12.30pm - 1.30pm-The Box Band- triawd sy'n cynnwys bas, gitâr a ffidl, yn perfformio alawon gwerin a gweithiau gwreiddiol bywiog. 

1.30pm -The St Mellonians- mae The St Mellonians, sydd wedi curo pob cystadleuaeth chwyrn, wedi dod yn driawd acwstig, comedi calypso a bysgio ska blaenllaw Caerdydd.  

 

Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog

12pm, 2pm a 3.30pm -Band Pres Melingriffith- band pres o Dde Cymru o safon byd eang sydd â 5 band anhygoel a thros 100 o aelodau, gan ddangos bod y byd o fandiau pres traddodiadol a ddechreuodd mewn cymunedau glofaol yn dal i ffynnu. Yn cynnwys y band M2 sydd wedi cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol.  

 

Yr Ais/Lôn y Barri

12.30pm a 2.30pm -Bowen-deuawd sy'n chwarae caneuon gwreiddiol gwerin yn Gymraeg a Saesneg.

1.30pm a 3.30pm -Pedwarawd Llinynnol Aderyn- Pedwarawd llinynnol clasurol eithriadol sy'n chwarae darnau clasurol a phop. 

 

Dydd Sul, 24 Mawrth:

Castell Caerdydd

12pm a 2pm -Junior Bill- bydd y grŵp yn ffarwelio â'r 'Wolves of Grangetown' gwreiddiol wrth i'r rogiaid, sydd wedi'u dylanwadu gan ska, fynd trwy'u pethau a pherfformio'u set ddigyffelyb o ganeuon am dyfu i fyny yn y ddinas, am y tro olaf ond un yng Nghaerdydd.    

1pm a 3pm -Pigeon Wigs- Roc a rôl arddull swnllyd a gormodol o'r 70au sy'n dwyn i gof Mott the Hoople a roc ‘glam' ond sydd hefyd â naws gyfoes. Peidiwch â herio'r cerddorion hyn. Maen nhw'n gwbl unigryw.

 

Ffordd Churchill

12.30pm a 2.30pm -Mantis- Mae brand dwyieithog Mantis o "cowboy psychedelia" yn cymysgu melodïau indie a psych cyfredol ac alawon cryf gydag arddull atseinio ar y gitâr, yn debyg i'r Shadows/Morricone.

1.30pm a 3.30pm -The Siglo 6- Dan arweiniad Loz Collier (Afrocluster) mae'r chwechawd gwych hwn yn cynnig fersiynau newydd a gwreiddiol o jazz clasurol a ffync.

 

Balconi Arcêd y Castell

12pm - 2pm -Omega 2- mae llais gwych Jane Williams a gitâr arbennig y gitarydd chwedlonol, Pete Mathison, yn cyfuno â repertoire wedi'i ddewis yn dda o fersiynau poblogaidd gwych.

1pm - 3pm- Xenia Porteous- Mae Xenia, chwaraewr ffidl Hot Club Gallois, yn dod â'i harddull ffidl Jazz Sipsiwn i Arcêd y Castell.

 

Mynedfa Marchnad Caerdydd (Heol Eglwys Fair)

12.30pm a 2.30pm -Taff Rapids Stringband- mae cerddoriaeth wreiddiol swynol wedi'i chyfuno â cherddoriaeth Bluegrass boblogaidd a chlasuron gwerin Cymraeg wrth i Taff Rapids gyfuno sŵn yr Appalachiaid gyda cherddoriaeth o Gymru.

1.30pm a 3.30pm -The Box Band- triawd sy'n cynnwys bas, gitâr a ffidl, yn perfformio alawon gwerin a gweithiau gwreiddiol bywiog.

 

Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog

12pm a 2pm -Band Pres Melingriffith- band pres o Dde Cymru o safon byd eang sydd â 5 band anhygoel a thros 100 o aelodau, gan ddangos bod y byd o fandiau pres traddodiadol a ddechreuodd mewn cymunedau glofaol yn dal i ffynnu. Yn cynnwys y band M2 sydd wedi cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol.  

1pm a 3pm -Wonderbrass- Mae offerynwyr pres cymunedol chwedlonol Caerdydd yn chwarae jazz, ska, hi-life a phop mewn ffordd gwbl unigryw.

 

Yr Ais/Lôn y Barri

12.30pm a 1.30pm -Rona Mac-Mae Rona wedi dod â'i cherddoriaeth werin indie lo-fi llawn awyrgylch, Americanaidd, o garafán yng Nghymru i donnau awyr Radio 1, 6 Music a thu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi cydweithio â Minas a Dan Betteridge. 

1.30pm a 3.30pm -Gitân- Mae Stacey a Rajesh, yn cyfuno cerddoriaeth Indiaidd a cherddoriaeth werin o Gymru, ynghyd â delyn a'r harmoniwm, canu caneuon Cymraeg a synau'r isgyfandir mewn cyfuniad bythgofiadwy ac unigryw gan ddau berfformiwr sy'n feistri ar eu crefft.