Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Mawrth 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cynllun cladin newydd gwerth £25m ar gyfer blociau fflatiau uchel Butetown
  • Cynyddu addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Newidiadau i'r polisi derbyn i ysgolion
  • Radyr Rangers yn cael cymorth i wella cyfleusterau

 

Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn blociau fflatiau uchel yn Butetown

Mae cynlluniau am fuddsoddiad o £25m mewn dau floc o fflatiau yn y ddinas ar y gweill fel rhan o gynllun ailgladio blociau fflatiau uchel y cyngor.

Nelson House a Loudoun House yn Butetown yw'r nesaf o flociau'r Cyngor i gael eu hailgladio a'u gwella yng ngham dau y rhaglen.

Cafodd cladin ei dynnu oddi ar bum bloc fflatiau uchel y Cyngor yn sgil trasiedi Tŵr Grenfell. Er nad oedd y cladin allanol ar flociau uchel y Cyngor yr un fath â'r math ACM hynod fflamadwy a ddefnyddiwyd yn Grenfell, nid oedd yn bodloni'r safonau diogelwch tân presennol ac felly gallai beri risg ychwanegol yn ystod tân. 

Ni chafodd cladin ei dynnu oddi ar Loudoun House bryd hynny oherwydd ystyriwyd bod yr adeilad yn un risg is gyda dwy set o risiau a goruchwylydd tân 24/7, sy'n parhau i fod mewn lle.

Gan fod gwaith ailgladio a gwella, gan gynnwys ffenestri a balconïau newydd, yn y tri bloc yn Fflatiau Lydstep, yn agosáu at gael ei gwblhau, mae cynigion ar gyfer ail gam y prosiect yn Nelson House a Loudoun House bellach yn cael eu dwyn ymlaen a byddant yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Mawrth.

Mae'r gwaith yn cynnwys cael gwared ar gladin o Loudoun House, gosod system gladin newydd ar y ddau floc, ffenestri newydd, gorchudd to newydd ar floc y gofalwyr a disodli boeleri a gwaith nwy.

Darllenwch fwy yma

 

Cynlluniau ar draws y ddinas i gynyddu ac ailalinio'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae cynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd yn cael eu cynnig o fis Medi 2024, yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Ionawr.

Yn cynnig mwy na 100 o leoedd newydd ar draws y ddinas, mae'r amrywiaeth o gynigion yn cydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd emosiynol a lles a'i nod yw mynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol i ddysgwyr cynradd ac uwchradd. 

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Mawrth, bydd y Cabinet yn clywed barn aelodau'r cyhoedd, disgyblion a rhanddeiliaid yr ysgolion sy'n rhan o'r cynlluniau a bydd yn cael ei argymell i gymeradwyo'r canlynol:

 

  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) 8 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
  • sefydlu CAA 16 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.
  • sefydlu CAA 16 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. 
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Coed Glas o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Greenway o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Severn o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  

O'r 87 ymateb a gafwyd ar draws y ddau ymgynghoriad, roedd pobl yn gefnogol ar y cyfan o'r cynnig i sefydlu darpariaeth CAA sy'n cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth, a dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol.

Darllenwch fwy yma

 

Y Cyngor yn cyhoeddi polisi diwygiedig ar dderbyn i ysgolion

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig gwneud newidiadau i'w bolisi derbyn i ysgolion yn dilyn proses ymgynghori gyhoeddus a gynhaliwyd ar drothwy'r flwyddyn.

Mae rhaid i'r awdurdod adolygu ei bolisi derbyn yn flynyddol ac mae wedi gofyn am farn gan benaethiaid, cyrff llywodraethu, cynrychiolwyr eglwysi ac awdurdodau addysg cyfagos.

Cafodd yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Ionawr, nifer o ymatebion sydd bellach wedi cael sylw mewn adroddiad newydd i'w drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Iau 21 Mawrth.

Er mwyn helpu i lunio'r polisi derbyn, mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Fforwm Derbyn, sy'n cynnwys cynrychiolwyr ysgolion cymunedol, gwirfoddol a reolir, ysgolion sylfaen a gwirfoddol a gynorthwyir, rhiant-lywodraethwyr a chynrychiolwyr cymunedol lleol.

Ymhlith yr ymatebion a gafwyd gofynnwyd bod nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i ddalgylchoedd ysgolion.  Er na chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2025/26, byddai unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn digwydd dim ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ddalgylchoedd ysgolion gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau lleol, ysgolion a rhieni plant y gallai unrhyw newidiadau effeithio arnynt.

Mae newidiadau arfaethedig eraill yn cynnwys:

  • Newid adran yn y polisi derbyn ar blant gyda datganiadau o anghenion addysgol arbennig gydag adran ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd â chynllun datblygu unigol.
  • Eglurhad ar newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
  • Eglurhad ar gyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â chyfeiriad cartref plentyn.

Darllenwch fwy yma

 

Cynlluniau i helpu Radyr Rangers i wella cyfleusterau i'w cytuno

Mae disgwyl i gynlluniau fydd yn helpu'r clwb chwaraeon Radyr Rangers i wella eu cyfleusterau ar Dir Hamdden Pentre-poeth gael eu cytuno gyda Chyngor Caerdydd.

Dyma'r clwb chwaraeon cymunedol diweddaraf yng Nghaerdydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli a chynnal a chadw cyfleusterau a chaeau yn y parc lle maent yn chwarae.

Mae'r trefniadau newydd, a gynigir am dymor o 25 mlynedd, yn cynnwys yr ystafelloedd newid presennol a byddant yn caniatáu defnydd ffafriol i'r clwb o'r caeau chwaraeon cyfagos. Bydd y trefniant yn galluogi'r clwb i ddefnyddio ffrydiau ariannu newydd nad ydynt ar gael i awdurdodau lleol, a bydd yn galluogi'r clwb i symud ymlaen gyda chynigion i godi ystafelloedd newid newydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

O ganlyniad i'r cynlluniau, cyhoeddwyd hysbysiadau cyfreithiol yn hysbysebu 'gweinyddu' 2,995 metr sgwâr o dir yn Gelynis Terrace, Pentre-poeth, Caerdydd.

Mae 'gweinyddu' yn derm cyfreithiol sydd, yn yr achos hwn, yn cyfeirio at roi prydles. Bydd yr holl dir yn parhau ym mherchnogaeth Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma