Back
Cloc y Pierhead wedi'i adfer i'w hen ogoniant

18/03/24


Mae Cloc y Pierhead, un o dirnodau enwog Caerdydd, wedi cael ei adfer yn llawn ac mae'n cael ei ailosod yn ei flwch gwydr amddiffynnol ar Heol Eglwys Fair Isaf yn ddiweddarach heddiw (18 Mawrth).

Bydd casin y cloc hefyd yn cynnwys goleuadau newydd i’w oleuo gyda’r nos fel y gall pawb ei fwynhau.

Adeiladwyd y cloc ym 1896 ar gyfer Adeilad Dociau Bute ym Mae Caerdydd, a elwir bellach yn Adeilad y Pierhead, a gwblhawyd ym 1897. Cafodd y gloch yn y cloc ei chreu gan y Whitechapel Bell Foundry, yr un cwmni a greodd y Liberty Bell hanesyddol yn Efrog Newydd.

Wedi'i ddylunio gan y pensaer enwog Williams Fame, Adeilad y Pierhead oedd pencadlys Cwmni Dociau Bute, a chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad Dociau Caerdydd, lle allforiwyd glo o Gymoedd De Cymru i gyrchfannau ledled y byd.

Roedd Adeilad y Pierhead yn dirnod enwog i Forwyr a wyddent eu bod wedi cyrraedd adref yn ddiogel ar ôl gweld y twr.

Yn fwy diweddar, prynwyd y cloc, a elwir hefyd yn Gloc y Mwnci, gan gasglwr Americanaidd, Alan Heldman, a gadwodd y cloc yn ei weithdy am 30 mlynedd nes i'r Cyngor ddod â’r cloc yn ôl i Gaerdydd yn 2005.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:  "Mae Cloc y Pierhead yn symbol o dreftadaeth Caerdydd a’i gorffennol hanesyddol cyfoethog pan oedd y ddinas yn un o brif ddosbarthwyr glo ar draws y byd ac mae’n ein hatgoffa o'i hetifeddiaeth barhaus fel porthladd a chanolfan ddiwydiannol sylweddol yn y Deyrnas Unedig.

"Dros y blynyddoedd, mae'r Cyngor wedi derbyn sawl cais am adfer y cloc ac rwy'n falch bod y broses hon bellach wedi'i chwblhau, fel y gellir ailosod y cloc yn ei holl ogoniant ar Heol Eglwys Fair i'r cyhoedd ei fwynhau."

Disgwylir i Smith a Derby,a gynhaliodd y gwaith atgyweirio ar y cloc, gwblhau’r gwaith o’i ailosod erbyn dydd Mawrth 19 Mawrth.