Back
Buddsoddiad o £1bn i ddarparu cartrefi fforddiadwy i Gaerdydd

15/03/24

Mae adeiladu cartrefi cyngor newydd ar adeg o alw digynsail am dai a gwasanaethau digartrefedd yn parhau i fod yn hollbwysig i Gyngor Caerdydd dros y flwyddyn i ddod.

Yn ei Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25, mae'r awdurdod yn nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei ystod eang o wasanaethau Tai, gan helpu i gyflawni'r ymrwymiadau strategol a nodir yng ngweledigaeth 'Cryfach Tecach Gwyrddach' y Cyngor.

Yn dilyn blwyddyn hynod heriol pan ddatganodd y Cyngor argyfwng tai oherwyddpwysau eithriadol a galw di-ildio am wasanaethau digartrefedd,mae darparu mwy o dai fforddiadwy ar raddfa a chyflymder ar frig y rhestr er mwyn mynd i'r afael â'r lefelau sylweddol o angen.

Gwnaeth y rhaglen ddatblygu uchelgeisiol, a fydd yn y pen draw yn darparu mwy na 4,000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf, gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o gartrefi cyngor newydd yn 2023, gyda stoc y Cyngor bellach ar 14,000 o gartrefi ledled y ddinas.

Mae gwaith i gynyddu nifer y safleoedd o fewn y rhaglen ddatblygu yn parhau, er mwyn sicrhau y darperir 2,800 o gartrefi cyngor a 1,200 o gartrefi i'w gwerthu.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Ein rhaglen glodwiw, ar hyn o bryd, yw un o'r prosiectau adeiladu tai cyngor mwyaf yng Nghymru a bydd mwy na £1bn yn cael ei fuddsoddi i ddarparu cartrefi fforddiadwy yn y ddinas, sydd nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion llety ond sy'n gynaliadwy ac ynni-effeithlon hefyd - yn fforddiadwy i'w rhedeg i breswylwyr a hefyd yn garedig i'r blaned.

"Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma ond o ystyried yr amgylchiadau presennol lle rydym yn defnyddio gwestai yn y ddinas i sicrhau bod gan deuluoedd ac unigolion digartref do uwch eu pennau, mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach."

Mae delio â digartrefedd yn nodwedd bwysig yn y cynllun, o ran atal aelwydydd rhag colli eu cartref a lleddfu ar ddigartrefedd pan fydd yn digwydd. 

Mae'r broses gyflym o osod cartrefi modiwlar ar safle'r Gasworks yn Grangetown i gefnogi teuluoedd digartref yn dangos y datrysiadau arloesol y mae'r Cyngor yn eu defnyddio i gynyddu llety dros dro tra bod y gwaith o alinio gwasanaethau Datrysiadau Tai, Atal Digartrefedd a Chynghori bellach yn cynnig pecyn cyflawn o gymorth a chefnogaeth i bobl sy'n profi problemau digartrefedd.

Mae darparu tai sy'n bodloni anghenion a dyheadau pobl hŷn yn uchelgais allweddol. Fis Rhagfyr diwethaf, lansiwyd Tŷ Addison, y cyntaf o ddeg Cynllun Byw yn y Gymuned newydd gan y Cyngor sy'n cynrychioli buddsoddiad o £200m i adeiladu o leiaf 620 o fflatiau newydd ar gyfer pobl hŷn, gan hyrwyddo byw'n annibynnol a lleihau'r angen am leoliadau cartref gofal drud.

Er bod cynyddu'r cyflenwad o dai cyngor yng Nghaerdydd yn hanfodol, mae cynnal y stoc bresennol hefyd o'r pwys mwyaf fel bod eiddo'n ddiogel, yn gynnes ac yn gyfforddus i denantiaid.  Rhagwelir y bydd £14m wedi'i wario ar gartrefi presennol yn 2023/24 gan gynnwys toi newydd, ceginau a boeleri newydd, a gwelliannau diogelwch tân fel ailgladio blociau fflatiau uchel.

Dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt, bydd pwyslais cryf ar ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael â datgarboneiddio ei stoc i fodloni gofynion newydd Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

Mae'r cynllun hefyd yn amlinellu sut mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella cymdogaethau yn y ddinas drwy'r Rhaglen Adfywio Ystadau a darparu cymunedau diogel a chynhwysol.  Bydd tenantiaid yn parhau i gael eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw a chael mynediad at y gwasanaethau rhagorol sydd ar gael yn yr Hybiau, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a gwella eu hiechyd a'u lles. 

Bydd cynllun Caerdydd ar gyfer 2024/25 yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Iau 21 Mawrth.  Bydd papurau'r cyfarfod ar gael  yma.

Cyn y cyfarfod hwnnw, bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn trafod y cynllun ddydd Llun, 18 Mawrth am 4.30pm yn Neuadd y Sir. Bydd papurau ar gael  yma  a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu  yma.