Back
Cynlluniau ar draws y ddinas i gynyddu ac ailalinio'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol



15/3/2024

 
Mae cynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd yn cael eu cynnig o fis Medi 2024, yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Ionawr.

Yn cynnig mwy na 100 o leoedd newydd ar draws y ddinas, mae'r amrywiaeth o gynigion yn cydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd emosiynol a lles a'i nod yw mynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol i ddysgwyr cynradd ac uwchradd. 

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Mawrth, bydd y Cabinet yn clywed barn aelodau'r cyhoedd, disgyblion a rhanddeiliaid yr ysgolion sy'n rhan o'r cynlluniau a bydd yn cael ei argymell i gymeradwyo'r canlynol;

  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) 8 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
  • sefydlu CAA 16 lle newydd ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.
  • sefydlu CAA 16 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. 
  • sefydlu CAA 8 lle ar gyfer Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Coed Glas o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Greenway o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu CAA 20 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Severn o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  

O'r 87 ymateb a gafwyd ar draws y ddau ymgynghoriad, roedd pobl yn gefnogol ar y cyfan o'r cynnig i sefydlu darpariaeth CAA sy'n cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth, a dysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol. Gofynnodd rhai ymatebwyr am fanylion pellach o ran sefydlu a rhedeg darpariaeth arbenigol o fewn ysgol brif ffrwd a'r goblygiadau i bob dysgwr, aelodau o staff a'u rhieni, gan gynnwys adnoddau, staff a chyllid ychwanegol sy'n ofynnol gan ysgolion.

Codwyd nifer o faterion gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Pwll Coch mewn perthynas â sefydlu CAA wyth lle yn yr ysgol, gan ffurfioli ei darpariaeth Dosbarth Lles presennol. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r ysgol i gefnogi dysgwyr sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi'u lleoli yn y Dosbarth Lles, a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud cyn y bydd y cynigion diwygiedig ar gyfer darparu lleoedd ysgol gynradd iechyd a lles emosiynol cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyflwyno.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Bydd y cynigion hyn yn cynnig cynnydd graddol mewn lleoedd gyda'r nod o feithrin ymagwedd cynhwysol sy'n mynd i'r afael â gofynion unigryw dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ganolbwyntio ar wella capasiti a chyflwyno cwricwlwm arloesol trwy ddarpariaeth addas.

"Mae'n braf gweld, o'r 87 ymateb a gafwyd ar draws y ddau ymgynghoriad, bod pobl yn gefnogol ar y cyfan o'r cynnig i sefydlu darpariaeth CAA ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth ac Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol.

"Ymdrinnir â rhai pryderon a godwyd ynghylch y manylion o ran sefydlu a rhedeg darpariaeth arbenigol o fewn ysgol brif ffrwd a'r goblygiadau i bob dysgwr, staff a'u rhieni, gan gynnwys adnoddau, staff a chyllid ychwanegol sy'n ofynnol gan ysgolion drwy'r ystod o gymorth arbenigol i ysgolion gan gynnwys staff arbenigol, cymorth i ddatblygu staff, fforymau Cydlynydd ADY a seicolegydd addysg ac athrawon arbenigol sy'n gweithio'n agos gyda'r ystafell ddosbarth a staff, yn cynghori, hyfforddi a chefnogi.

"Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar y gwaith o arwain a llywodraethu'r ysgol, a bydd cymarebau, sgiliau a phrofiad staff yn cael eu hadolygu ym mhob lleoliad. Rydym wedi llunio manyleb ar gyfer canolfannau adnoddau y gellir ei haddasu ar gyfer gwahanol leoliadau a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i nodi mannau priodol yn yr adeiladau presennol gyda buddsoddiad priodol i sicrhau bod cyfleusterau'n addas at y diben.

"Yn ogystal, mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynnig i ehangu Ysgol Cynefin a fydd yn cefnogi rhai o ddysgwyr mwyaf agored i niwed 4-11 oed Caerdydd ac a fydd yn lleihau'r pwysau ar Ddosbarthiadau Lles a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol Caerdydd.  Bydd ehangu Uned Cyfeirio Disgyblion Caerdydd hefyd yn darparu 180 o leoedd i gefnogi dysgwyr ag ystod o anghenion iechyd a lles emosiynol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Y consensws gan ysgolion sy'n cynnal canolfannau adnoddau ar hyn o bryd yw bod y profiad yn gwella'r dysgu i bob disgybl, ac yn cryfhau ethos cynhwysol yr ysgol a'r gymuned ymhellach.  Rhoddir pwysigrwydd ar adnabod yn gynnar, ymyrraeth ar sail ymchwil, adeiladau ysgol hygyrch a phartneriaethau amlasiantaethol cryf, a all gyda'i gilydd sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl ac yn derbyn cyfle cyfartal i ffynnu." 

Cyn rhoi'r cynigion ar waith bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i'r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd, yr ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i roi'r cynigion ar waith neu fel arall.

Mae'r Uned Cyfeirio Disgyblion yn cael ei ehangu fel un sefydliad ar gyfer dysgwyr 11-18 oed ar draws dwy safle gan gynnwys safle presennol Heol Cefn ym Mynachdy ac am gyfnod dros dro, ar ran o'r safle a arferai gael ei feddiannu gan Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Bydd yr adroddiad yn cael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Caerdydd ddydd Mercher 20 Mawrth. I weld yr adroddiad llawn ewch i Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)