Back
Y Cyngor yn cyhoeddi polisi diwygiedig ar dderbyn i ysgolion

15/3/2024

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig gwneud newidiadau i'w bolisi derbyn i ysgolion yn dilyn proses ymgynghori gyhoeddus a gynhaliwyd ar drothwy'r flwyddyn.

Mae rhaid i'r awdurdod adolygu ei bolisi derbyn yn flynyddol ac mae wedi gofyn am farn gan benaethiaid, cyrff llywodraethu, cynrychiolwyr eglwysi ac awdurdodau addysg cyfagos.

Cafodd yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Ionawr, nifer o ymatebion sydd bellach wedi cael sylw mewn adroddiad newydd i'w drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Iau 21 Mawrth.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'n bwysig iawn ein bod yn adolygu ein polisi derbyn bob blwyddyn oherwydd bod y tirlun addysg yn esblygu'n gyson ac mae angen i rieni wybod, er enghraifft, ym mha ddalgylchoedd ysgol y maent yn byw.

"Mae pob rhiant eisiau'r ysgol orau i'w plentyn, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd yn cael ei chefnogi'n llawn gan y Cyngor ac yn ymdrechu'n gyson am ragoriaeth."

Er mwyn helpu i lunio'r polisi derbyn, mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Fforwm Derbyn, sy'n cynnwys cynrychiolwyr ysgolion cymunedol, gwirfoddol a reolir, ysgolion sylfaen a gwirfoddol a gynorthwyir, rhiant-lywodraethwyr a chynrychiolwyr cymunedol lleol.

Ymhlith yr ymatebion a gafwyd gofynnwyd bod nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i ddalgylchoedd ysgolion.Er na chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2025/26, byddai unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn digwydd dim ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ddalgylchoedd ysgolion gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau lleol, ysgolion a rhieni plant y gallai unrhyw newidiadau effeithio arnynt.

Mae newidiadau arfaethedig eraill yn cynnwys:

  • Newid adran yn y polisi derbyn ar blant gyda datganiadau o anghenion addysgol arbennig gydag adran ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd â chynllun datblygu unigol.
  • Eglurhad ar newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
  • Eglurhad ar gyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â chyfeiriad cartref plentyn.

Bydd yr adroddiad yn cael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Caerdydd ddydd Mercher 20 Mawrth. I weld yr adroddiad llawn ewch i Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)