Back
Datgelu cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' ar fuddsoddiad Ynni Gwyrdd

24.4.24

Mae cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' i archwilio cyfleoedd buddsoddi o ran y trawsnewidiad i ynni gwyrdd sy'n gysylltiedig ag ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd a thargedau carbon niwtral wedi cael eu datgelu.

Nod y Papur Gwyrdd yw rhoi darlun cliriach o:

  • raddfa'r cyllid sydd ei angen i gyrraedd targedau carbon niwtral;
  • cyfleoedd economaidd y trawsnewidiad i ynni gwyrdd; ac
  • effaith polisïau a mentrau cenedlaethol.

Mae allyriadau carbon a gynhyrchir yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi gostwng 11.7% ers i waith ddechrau ar ei strategaeth Caerdydd Un Blaned mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn 2019/20, ond mae adroddiad i'w drafod mewn cyfarfod Cabinet ar 21 Mawrth yn amlinellu nifer o heriau sylweddol sy'n dod i'r amlwg.

Dwedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cymryd camau lleol pwysig iawn ar newid hinsawdd. Er enghraifft, rydym wedi adeiladu fferm solar dan berchnogaeth gyhoeddus a gynhyrchodd elw o £600,000 i bwrs y wlad, rydym wedi plannu bron i 80,000 o goed newydd - mae hynny'n bron i 24 hectar, sy'n cyfateb i ychydig yn fwy na 25 o gaeau Stadiwm Principality - mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu ein Rhwydwaith Gwres Ardal carbon-isel gael ei gwblhau eleni, rydym wedi lansio addewid Ysgolion Un Blaned newydd i adeiladu newid hinsawdd i mewn i'r cwricwlwm ac annog newid ymddygiadol, cyflwyno rhwydwaith cynyddol o lwybrau beicio ar wahân, cartrefi Cyngor newydd carbon-isel a Passivhaus, a dechrau datgarboneiddio adeiladau cyngor presennol. Mae'n hanfodol bod y cynnydd yn parhau."

Ymhlith yr uchafbwyntiau o'r flwyddyn ddiwethaf mae:

  • Uwchgynhadledd Hinsawddlwyddiannus a ddaeth â sefydliadau sector preifat a chymunedol ynghyd yn y ddinas i rannu camau gweithredu, arfer gorau a heriau hinsawdd.
  • Lansiad einHaddewid Ysgolion Un Blanedmewn digwyddiad deuddydd lle cyflwynwyd ysgolion a disgyblion i ystod eang o adnoddau i'w helpu i gynllunio eu cynlluniau gweithredu hinsawdd eu hunain yn yr ysgol ac integreiddio dysgu cysylltiedig i mewn i'r cwricwlwm.
  • Cynnydd sylweddol i ddatblyguCynllun Ynni Ardal Leolar gyfer y ddinas, gyda'r nod o nodi a mesur gofynion ynni'r dyfodol a chyfateb y rhain â chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd a chynhyrchu ynni glân lleol.
  • Cyflwyno modiwl hyfforddiantLlythrennedd Carbonar gyfer staff y Cyngor.
  • Sicrhau cyllid Innovate UK ar gyfer swyddi Rheolwr Gweithredol a phrentisiaid newydd y bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar ymchwilio a chynnig methodoleg iymgorffori ystyriaethau carbon a hinsawddi mewn i systemau llywodraethu a phenderfyniadau'r Cyngor.
  • Cynnydd sylweddol ar adeiladuRhwydwaith Gwres Caerdydd, a fydd yn darparu gwres carbon isel i adeiladau a datblygiadau mawr yn y Bae.
  • Cwblhau astudiaeth fawr i ddeall ac ymchwilio i'r costau a'r heriau posibl o gyflawni sero-net ynystâd adeiledigy Cyngor.
  • Cwblhautendr "Ôl-ffitio" ynnii sicrhau cam nesaf ein gwaith o ddatgarboneiddio adeiladu.
  • Gosod llwyth osynwyryddion a chasglwyr dataar draws ein hystâd i ddatblygu dealltwriaeth a fonitrir yn ofalus o ddefnydd ynni a chyfleoedd i wneud arbedion.
  • Datblygumenter ôl-ffitio domestignewydd o'r enw "LA Flex" sy'n cysylltu cyllid Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gyda deiliaid cartrefi sy'n wynebu tlodi tanwydd i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Bydd hyn yn dechrau yn gynnar yn 2024.
  • Cynnydd ar welliannau ynni pellach i stoc dai'r Cyngor drwy fenter ôl-ffitio fflatiau isel a Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ardai ffrâm ddur anodd eu trin.
  • Cynnydd ar bartneriaethTai Cyngor newyddsy'n darparu cartrefi fforddiadwy carbon isel.
  • Cynnal ac ehangu'r"Bwrdd Argyfwng Hinsawdd"sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sector cyhoeddus, academaidd a chyfleustodau yn y ddinas i rannu arfer gorau ar ddatgarboneiddio a datblygu gweithredoedd datgarboneiddio a newid ymddygiad cydweithredol.
  • Dyluniadau manwl ar gyfer adeiladuysgol uwchradd carbon isel newyddfel llwybr braenaru ar gyfer adeiladau'r dyfodol.
  • Llwyddo i gael cyllid grant i dreialu a gosodpympiau gwres ffynhonnell aeryn rhai o adeiladau'r cyngor.
  • Sicrhau dros £2m o gyllid grant gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy, i ymchwilio a noddi ffyrdd newydd arloesol o ddarparudatrysiadau bwyd carbon isel ac iachlleol.
  • Plannu 58,000 o goed hyd yn hyn, fel rhan o'r fenterCoed Caerdydd.
  • Mae perfformiad Fferm Solar Ffordd Lamby yn well na'r disgwyl eleni.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Er gwaethaf y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud, mae cyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral yn her enfawr.  Rydym bob amser wedi bod yn agored am y ffaith na allwn gyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral ar ein pen ein hunain. Ond mae wedi dod yn fwyfwy amlwg, yn ogystal â ffocws parhaus gan bob unigolyn a phob sefydliad yng Nghaerdydd, fod hefyd angen newidiadau sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol, gwelliannau i seilwaith y grid cenedlaethol, ailsgilio'r gweithlu'n gyflym, a ffocws ar newid hinsawdd ar bob lefel o lywodraeth os ydym am gyflawni'r hyn sy'n angenrheidiol a dod yn Gaerdydd Un Blaned.

"Un o'r pryderon arbennig yw'r gost o ddod â phob un o'r 240 o adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor at safonau sero-net. Rydym wedi cyfrifo y byddai hynny'n gofyn am fuddsoddiad o tua £860 miliwn, sy'n amlwg yn rhy ddrud heb fuddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth.

"Nawr ein bod yn deall maint yr her yn llawn, dyma'r amser cywir i gyflwyno'r papur gwyrdd hwn ac ymgysylltu ac ymgynghori â'r ddinas a'n partneriaid, fel y gallwn gyda'n gilydd barhau i symud ymlaen mor gyflym â phosibl tuag at sero-net."

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y risg i Gaerdydd o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ar wahân i ymdrechion y ddinas i leihau allyriadau. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae'r Cyngor wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau atal llifogydd gan gynnwycynllun amddiffyn llifogydd arfordirol mawr ar 1.5 cilomedr o flaendraeth.

Creffir ar yr adroddiad 'Caerdydd Un Blaned - Adolygiad Blynyddol' gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn ei gyfarfod am 4.30pm ar 14 Mawrth 2024. Bydd yr holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael yma, ynghyd â ffrwd fyw o'r cyfarfod: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=8224&LLL=1

Yna bydd yr adroddiad yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet cyhoeddus am 2pm ar 21 Mawrth 2024. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld yn nes at y dyddiad yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8215&LLL=1 lle bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hefyd ar gael ar y diwrnod.