Back
Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen yn helpu i lansio menter fwyd newydd ac ysbrydoledig.

7/3/2024

Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect peilot rhyngwladol sy'n ceisioannog plant i ymgysylltu â chynnyrch lleol a'u helpu i archwilio eu diwylliant a'u treftadaeth bwyd unigryw.

A child eating a sandwichDescription automatically generated

Wedi'i chyd-gynhyrchu gan Synnwyr Bwyd Cymru a'rInstituto Maniva ymMrasil, mae'rLeekitwedi cael ei hysbrydoli gan y Tapiokit, gweithdy addysg a ddatblygwyd gan Sefydliad Maniva sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant bwyd casafa. 

Gan ganolbwyntio ar gennin, mae'r plant wedi dysgu coginio gyda'r llysieuyn, dysgu mwy am ei werth maethol a'i fuddion iechyd ac archwilio ei hanes cyfoethog a'i gysylltiadau dwfn â Chymru. 

A child cutting leeks on a green tableDescription automatically generated

 

Mae'rLeekityn cynnig cyfle i ddysgu o ychydig o'r gwaith arloesol sy'n cael ei weithredu ym Mrasil ac archwilio a allai Cymru edrych ar fwyd mewn ffordd debyg, yn benodol trwy harneisio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae pen-cogydd, actifydd bwyd ac academydd o'r sefydliad,Teresa Corção, wedi gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i helpu i gyflwyno gweithdai i athrawon a disgyblionYsgol Gynradd Pentre-baen gydablas Cymreig nodweddiadol, gan gynnwys mewnbwn gan yr hanesyddbwydCarwyn Gravesa'rTîm Deietegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghyd â chymorth gan Arlwyo Addysg yng Nghyngor Caerdydd sydd wedi darparu cynhwysion i wneud cawl cennin a thatws.

A group of children in a classroomDescription automatically generated

Dywedodd Mrs Prescott, Pennaeth yr ysgol: "Mae'rLeekityn cynnig cyfle i blant ddeall diwylliant bwyd Cymru yn well a dechrau meddwl am y bwyd y maent yn ei fwyta, sut mae wedi cael ei dyfu a sut mae'n faethlon iddynt. Rydym wedi bod yn falch o fod yn rhan o'r cynllun peilot sy'n cynnal gweithdai i gyflwyno plant i'w diwylliant bwyd, gan eu trochi yn eu straeon bwyd eu hunain a'u cysylltu â tharddiad eu bwyd."

Dywedodd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru: "Gall Cymru ddysgu cymaint gan Frasil a'r gwaith sy'n cael ei wneud gydag ysgolion ledled y wlad.  "Mae'rLeekityn cynnig cyfle i blant ddeall diwylliant bwyd Cymru yn well a dechrau meddwl am y bwyd y maent yn ei fwyta, sut mae wedi cael ei dyfu a sut mae'n faethlon iddynt.

A child sitting at a tableDescription automatically generated

Dywedodd Emma Holmes,Arweinydd Strategol ar gyfer Deieteg Gymunedol ymMwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae Deietegwyr Caerdydd a'r Fro yn falch o gael y cyfle i weithio gyda'n partneriaid newydd o'r Instituto Maniva ym Mrasil yn ogystal â phartneriaeth barhaus â'r system addysg leol a Synnwyr Bwyd Cymru. Mae wedi ein galluogi i adeiladu ar ein gwaith da presennol mewn ysgolion ledled Caerdydd a'r Fro, ac mae wedi gwella ffocws ar ddiwylliant bwyd, cynnyrch lleol a chynaliadwyedd, sy'n cefnogi elfennau newydd y Cwricwlwm i Gymru, wrth annog deiet iach a chytbwys i blant a'u teuluoedd."

Ym Mrasil, mae'r Rhaglen Genedlaethol Bwydo Ysgolion (Programa Nacional de Alimentação Escolar neu PNAE) yn darparu bwyd maethlon, iach a lleol i filiynau o fyfyrwyr ledled y wlad ynghyd ag addysg maeth.  Mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu gan y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Datblygu Addysg, corff annibynnol o fewn Weinyddiaeth Addysg Brasil. 

Ychwanegodd TeresaCorção o Sefydliad Maniva:"I ni ym Mrasil, mae'n anrhydedd creu'r bartneriaeth hon â Synnwyr Bwyd Cymru a'r holl dîm yng Nghymru. Rydym wedi dysgu cymaint eisoes, gan rannu gwybodaeth am ein diwylliant bwyd brodorol sy'n seiliedig ar y casafa, a'u bwyd brodorol nhw, sy'n seiliedig ar y genhinen.  Rwy'n siŵr y bydd llawer o bethau da yn dod o hyn yn y dyfodol."

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru:Synnwyr Bwyd Cymru: Cyd-greu system fwyd i Gymru sy'n dda i bobl a'r blaned - synnwyrbwydcymru.org.uk