Back
BBC Crimewatch Live yn arddangos dull arloesol Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd o fynd i'r afael â throsedd ymhlith pobl

7/3/2024

Yr wythnos hon, ymddangosodd James Healan, Prif Swyddog Ieuenctid Caerdydd, ar BBC Crimewatch Live i siarad am yr effaith gadarnhaol y mae menter Realiti Rhithwir arloesol yn ei chael ar bobl ifanc ledled y ddinas.

Mae Virtual Decisions yn offeryn ataliol a grëwyd gan Round Midnight sy'n ceisio lleihau'r risg y bydd pobl ifanc yn dioddef trosedd a thrais.

Mae'n rhoi profiad trochol i bobl ifanc sy'n eu galluogi i lywio cyfres o sefyllfaoedd heriol a gwneud penderfyniadau allweddol mewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig.

Mae'r dull ymarferol hwn o archwilio pynciau fel gangiau, meithrin perthnasau amhriodol, pwysau cyfoedion, a chamddefnyddio sylweddau, yn arfogi'r cyfranogwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eu dyfodol, mewn sefyllfaoedd go iawn.

Hyd yma mae wedi cael ei gyflwyno i fwy na 200 o bobl ifanc ac fe'i cefnogir gan becyn cwricwlwm 12 sesiwn rhagorol sy'n galluogi pobl ifanc i ddysgu'n anffurfiol ar eu cyflymder eu hunain.

Rhoddodd cyflwynwyr Crimewatch Live, Rav Wilding a Michelle Ackerley gynnig ar y setiau pen Realiti Rhithwir a gwnaeth y dechnoleg ddeniadol argraff arnynt.

Wrth feddwl am y profiad, dywedodd James Healan: "Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn wasanaeth sy'n seiliedig ar hawliau plant ac rydym yn cael ein harwain gan anghenion pobl ifanc. Trwy ymgynghoriad ledled y ddinas gyda phobl ifanc roeddem yn gallu nodi ystod o faterion yr oeddent am eu harchwilio a oedd yn cynnwys meysydd fel pwysau cyfoedion, gangiau a meithrin perthynas amhriodol a sut y dylent drin y math hwn o ymddygiad pe baent yn ei weld yn eu hardaloedd a'u cymunedau lleol.


"Mae Virtual Decisions yn ein galluogi i ymgysylltu â phobl ifanc a'u haddysgu trwy brofiad trochol a all efelychu'r pwysau y gallent eu teimlo. Mae'n offeryn ataliol gwych sy'n eu galluogi i archwilio risg mewn amgylchedd lle nad oes unrhyw ganlyniadau ac er bod y profiad Realiti Rhithwir yn fachyn i ymgysylltu â phobl ifanc, mae'r gwaith go iawn yn digwydd wedyn yn ystod sesiynau'r cwricwlwm sy'n ein helpu i nodi a yw rhywun yn cael trafferth ac yn caniatáu i bobl ifanc ymgysylltu â ni mewn ffordd fwy agored.

 

"Mae cael gwahoddiad i arddangos y rhaglen ar BBC Crimewatch Live wedi bod yn gyfle gwych i daflu goleuni ar y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd."

Mae adborth cadarnhaol gan ysgolion uwchradd ar draws y ddinas wedi tynnu sylw at effeithiolrwydd y prosiect, sydd wedi'i lunio gan ddefnyddio barn pobl ifanc. Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau'r rhaglenni, gan ddweud eu bod yn bodloni eu hanghenion o roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o'r arwyddion o feithrin perthnasau amhriodol, camfanteisio a'r effaith y gallai eu gweithredoedd ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a chymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc: "Nod Virtual Decisions yw meithrin cymuned fwy diogel trwy rymuso unigolion ifanc i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd a herio dylanwadau dinistriol trosedd a thrais. Rydym wedi cael rhai canlyniadau cadarnhaol iawn gydag 85% o ddefnyddwyr yn dweud y byddai'n eu hannog i ystyried eu canlyniadau.

"Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr i bobl ifanc yn ein cymunedau ac mae mentrau arloesol fel hyn yn cryfhau ein penderfyniad ymhellach i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hieuenctid ac yn creu dyfodol mwy disglair a mwy diogel i bawb."

Am fwy o wybodaeth am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd gallwch ymweld â:Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd