Back
Ysgol Gynradd 'hynod gynhwysol a chefnogol' Caerdydd yn cael ei chanmol gan Estyn


27/2/2024

Mae Ysgol Mynydd Bychan, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, wedi cael ei chanmol yn ei hadroddiad Estyn diweddaraf am ethos gofalgar a pherthynas waith agos rhwng disgyblion a staff.

Roedd gan yr ysgol ar Heol Seland Newydd, Gabalfa, 237 o blant ar y gofrestr adeg yr arolygiad ac mae wedi cael ei hystyried yn gadarnhaol iawn gan arolygwyr, sydd wedi canmol ei 'chymuned hynod gynhwysol a chefnogol'.

Mae canlyniadau disgyblion yn dda, meddai'r adroddiad, ac mae'r addysgu a'r adborth ar waith y disgyblion yn heriol ac yn gyson. Mae cymorth i hyrwyddo dysgu a lles a'u gallu i ddefnyddio'r cymorth hwn yn ystyrlon yn nodwedd gref o'r ysgol. O ganlyniad, mae eu hymddygiad yn ardderchog.

Canfuwyd bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu, yn gwrando'n astud ar oedolion ac ar ei gilydd, ac mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn meistroli'r Gymraeg ac yn ymfalchïo yn eu defnydd o'r iaith.

Mae bron pob disgybl yn gwrtais iawn ac yn barchus, yn ymddwyn yn rhagorol ac yn ofalgar iawn tuag at ei gilydd. Mae presenoldeb disgyblion yn dda ac yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ac maent yn datblygu'n dda fel unigolion iach a hyderus ac yn deall sut i wneud dewisiadau priodol mewn perthynas â deiet a gweithgaredd corfforol.

Mae gan dri y cant o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae'r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion hyn yn gadarn iawn. Maent yn elwa ar gymorth ychwanegol ac yn gwneud cynnydd da mewn perthynas â'u cam datblygu a'u man cychwyn.

Yn dilyn adroddiad cadarnhaol, bydd yr ysgol yn mynd i'r afael bellach ag argymhellion Estyn drwy ei chynllun gweithredu. Maent yn cynnwys; Cryfhau'r cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu sgiliau rhifedd yn fwy rheolaidd ar draws y cwricwlwm a sicrhau bod ansawdd yr adborth gan athrawon yn gyson i dargedu'r camau nesaf yn nysgu disgyblion yn effeithiol

Dywedodd y Pennaeth Sian Evans, a ddechreuodd yn y swydd yn 2007: "Rwy'n falch iawn bod adroddiad Estyn wedi cydnabod bod y sgiliau addysgu yn gadarn iawn a bod y disgyblion yn cael eu herio i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

"Mae ein disgyblion yn mwynhau dysgu ac yn frwdfrydig iawn yn ystod gwersi. Maent yn cael cyfleoedd effeithiol iawn i gyfrannu at benderfyniadau i wella eu profiadau megis gwaith ein Senedd ysgol sydd wedi'i gydnabod am fod yn arloesol. Mae'r berthynas waith gadarnhaol rhwng staff, disgyblion a rhieni yn gryfder ar draws yr ysgol.  Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu cyfraniad gwerthfawr i Ysgol Mynydd Bychan."

Ychwanegodd Mrs Jenny Williams, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol: "Rwy'n falch iawn bod adroddiad Estyn yn cydnabod y gymuned ysgol hynod gynhwysol a chefnogol lle mae disgyblion yn mwynhau dysgu ac yn dod yn ddysgwyr hyderus ac uchelgeisiol.

"Mae'r pennaeth a'r staff i'w llongyfarch am greu'r amgylchedd dysgu hwn ac am y gofal a ddangosir i'r holl ddysgwyr.  Mae'r arweinyddiaeth gref o fewn yr ysgol yn hanfodol i'w llwyddiant a'i chynnydd. Mae'n braf bod rôl a chyfraniadau Llywodraethwyr fel cyfaill beirniadol wedi cael eu cydnabod."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, ei llongyfarchiadau i'r ysgol yn sgil yr adroddiad. "Mae'n amlwg bod Ysgol Mynydd Bychan yn ysgol hapus lle mae plant yn awyddus i ddysgu," meddai.

"Mae Sian wedi gwneud gwaith gwych yn yr 17 mlynedd y mae hi wedi bod yn yr ysgol ac rwy'n cytuno â sylwadau'r arolygwyr ei bod yn arwain yn fedrus iawn ac yn ysbrydoli'r staff i sicrhau bod dysgu a lles disgyblion yn flaenoriaethau rheolaidd."

Ni fydd dull Estyn o arolygu ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru yn cynnwys sgoriau crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') mwyach a bydd bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.

I weld adroddiad llawn Estyn, dilynwch y ddolen hon: *Adroddiad arolygiad Ysgol Mynydd Bychan 2023 (llyw.cymru)