Back
Dadorchuddio portread yn y Plasty o bencampwr manwerthu Caerdydd

26.02.24
Am fwy na 150 mlynedd, roedd siop adrannol James Howell ar Heol Eglwys Fair gyfystyr â'r profiad manwerthu gorau y gallai Caerdydd ei gynnig.

Sefydlodd y dilledydd o Sir Benfro ei fusnes yn y ddinas ym 1865, gan ei adeiladu i fod yn fusnes teuluol helaeth wedi'i leoli mewn adeilad godidog a allai gystadlu ag unrhyw beth oedd gan Lundain i'w gynnig.

Ond a wyddech chi fod Howell wedi gwneud ei farc ar Gaerdydd mewn modd arall? Adeiladodd dŷ ffrynt dwbl godidog ar Heol Richmond fel cartref teuluol, i'w wraig a'i blant. The Grove oedd yr enw gwreiddiol arno, ac fe'i prynwyd gan yr hen Gorfforaeth Caerdydd ym 1912 a flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei agor yn swyddogol fel y Plasty - preswylfa swyddogol Arglwydd Faer y ddinas.

Er bod y Plasty heddiw yn cael ei ddefnyddio gan yr Arglwydd Faer i gynnal swyddogaethau dinesig, mae cysylltiad James Howell â'r eiddo rhestredig Gradd II bellach wedi'i gydnabod yn swyddogol diolch i’r rhodd o bortread ohono.

Arferai’r paentiad, gan yr artist nodedig o oes Fictoria, Parker Hagarty, hongian yn swyddfeydd siop Howell ond pan gaeodd y siop - erbyn hynny wedi ei ailfrandio fel yr House of Fraser - ym mis Mawrth 2023 fe'i rhoddwyd i'r cyngor yn y gobaith y byddai'n cael lle yn ei hen gartref.

Heddiw, roedd dau gyn-weithiwr yn y siop - Martin Hunt a Susan Trepleton – wrth law i weld y darlun yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol gan yr Arglwydd Faer presennol, y Cynghorydd Bablin Molik, a ddwedodd: "Rwyf wrth fy modd bod y paentiad hwn gennym i'w hongian yn y Plasty i'n hatgoffa o gyflawniadau James Howell – nid yn unig wrth sefydlu siop adrannol wych yr ydym i gyd yn ei chofio'n annwyl ond hefyd wrth adeiladu'r plasty gwych hwn yng nghanol Caerdydd.

"Mae'n amlwg o siarad â'r rhai a oedd yn gweithio yn Howell’s sut mae pobl yn cofio eu hamser braf yno a bod yr ethos a grëwyd gan James Howell wedi gadael argraff ar staff yno tan i’r siop  gau'r llynedd."

Mae Susan Trepleton, a fu'n gweithio fel cynorthwyydd gwerthu yn y siop am 17 mlynedd ac a fyddai’n mynd â staff ar deithiau cerdded hanesyddol o amgylch yr adeilad, wedi ysgrifennu llyfr am y siop a'r perchennog. "Pan adeiladodd James Howell y siop yn y 1860au roedd y staff yn byw mewn llety ar y lloriau uchaf," meddai.  "Roedd rhaid iddyn nhw fyw yn ôl rheolau llym - roedd rhaid iddyn nhw fod i mewn erbyn 9pm bob nos, doedd dim ysmygu i fod yn yr ystafelloedd, doedden nhw methu glanhau eu hesgidiau yn yr ystafelloedd na gadael y goleuadau nwy ymlaen.

"Yn sicr roedd e'n ddisgyblwr ond yn garedig iawn hefyd," ychwanegodd. "Roedd ei wraig, Fanny Logan, yn ferch siop y cyfarfu â hi tra roedd yn adeiladu ei yrfa a gyda'i gilydd fe wnaethon nhw adeiladu The Grove ym 1896 a, gyda chymorth gosgordd o weision, magu teulu yno.

"Roedd y portread hwn yn dal yn y siop pan gaeodd yn 2023 ac rwyf wrth fy modd ei fod bellach yn hongian yn y Plasty a gall pawb sy'n ei weld werthfawrogi'r hyn a wnaeth dros Gaerdydd."