Back
Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio

23/2/2023

Gallai dull newydd o ddarparu addysg yng Nghaerdydd olygu bod mwy o ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd drwy drefniadau cydweithredu a ffedereiddio ffurfiol, i ddarparu system addysg hynod effeithiol a chynaliadwy.

Os caiff ei gytuno gan Gabinet Cyngor Caerdydd, byddaiStrategaeth Gydweithredu a Ffedereiddioyn darparu fframwaith i annog mwy o ysgolion i ddod at ei gilydd drwy gydweithredu, gan adeiladu ar gyflawniadau a llwyddiant trefniadau partneriaeth a ffedereiddio ffurfiol sydd eisoes yn gweithredu'n effeithiol ar draws y ddinas.

Mae ymchwil ac ymarfer wedi dangos manteision cydweithredu, ffedereiddio a threfniadau eraill lle mae ysgolion yn cael eu dwyn ynghyd i ddarparu addysg.  Mae hyn wedi cynnwys adolygiad thematig ESTYN (2019) a Chanllawiau ar gyfer Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (2023) sydd wedi ystyried yr ymchwil yn feirniadol a nodwyd y manteision allweddol canlynol fel rhan o'u casgliad: 

  • Strwythurau arweinyddiaeth strategol, llywodraethu a rheoli cryf i ganolbwyntio ar ddysgu, addysgu a chodi safonau 
  • Dysgu ehangach a phrofiadau cymdeithasol i ddysgwyr
  • Cyfleoedd recriwtio deniadol a chadw staff
  • Cyfleoedd newydd i staff gydweithio, cynyddu cymhelliant, lleihau llwyth gwaith drwy gynllunio a gweithgareddau ar y cyd
  • Rhannu adnoddau
  • Cyfrifoldebau ac atebolrwydd ar y cyd i blant ar draws cymunedau
  • Gwasanaethau estynedig ar draws ysgolion ac amrywiaeth o weithgareddau, gofal plant, cymorth i rieni a mynediad cymunedol gan gefnogi cydlyniant cymunedol a helpu i gynnal darpariaeth addysg  

ByddaiStrategaeth Gydweithredu a Ffedereiddioyn adeiladu ar y dystiolaeth hon gan ddefnyddio profiad a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol Cyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De (CCD), a phenaethiaid sy'n fedrus wrth gydweithio ac sydd â gallu amlwg i arwain sefydliadau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel sy'n cynnwys dwy ysgol neu fwy. Mae'n cydnabod rôl arweinyddiaeth a llywodraethu cryf wrth hyrwyddo canlyniadau addysg i blant a theuluoedd, gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a phrofiad arweinwyr addysg mwyaf dawnus Caerdydd a llywodraethwyr hynod o alluog.

Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor ac yn bodloni'r dyheadau a nodir yng ngweledigaeth Caerdydd 2030, lle mae pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd yn cael addysg o ansawdd uchel ac yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r rhinweddau sy'n eu galluogi i ddod yn ddinasyddion sy'n llwyddiannus yn bersonol ac sy'n ymgysylltu â'r byd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Rydym eisoes yn gweithio'n helaeth gyda phartneriaid ledled Caerdydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn elwa ar y manteision y gall tyfu i fyny mewn prifddinas yn unig eu cynnig, gan gynnwys mynediad at ystod eang o gyfleoedd hamdden, chwaraeon a diwylliannol ar draws ein dinas.

"Mae'r strategaeth hon yn nodi ffurf addysg yn y dyfodol a byddai'n cyflawni egwyddorion Caerdydd 2030. Rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at gynnig addysg sy'n sicrhau'r ansawdd gorau posibl o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion trwy batrwm cyson a chynaliadwy o ysgolion addas at y diben sy'n rhoi'r cyfle i bob dysgwr gyrraedd safonau uchel a chyfrannu at ddatblygu cymunedol, cynhwysiant cymdeithasol a ffyniant economaidd ledled y ddinas."

Byddai'r strategaeth, pe bai'n cael ei chytuno, yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ysgolion yn yr hinsawdd sydd ohoni ac ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys;

  • Heriau recriwtio a chadw staff
  •  
  • Y galw o ran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Anghydraddoldeb darpariaeth - gan gynnwys mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac ôl-16
  • Lles ac iechyd meddwl pobl ifanc
  • Ansefydlogrwydd ariannol gyda nifer gynyddol o ysgolion yn wynebu heriau'r gyllideb Defnydd annigonol o gyfleusterau ar draws yr ystâd addysg
  • Newidiadau demograffig
  • Ystâd addysg - sydd mewn cyflwr gwael ac aneffeithlon ac yn defnyddio llawer o garbon

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas; "Mae Caerdydd yn glir bod arweinyddiaeth a llywodraethu cryf yn hanfodol i warchod a hyrwyddo deilliannau addysg i blant a bod uwch arweinwyr a llywodraethwyr yn cyfrannu at wreiddio diwylliannau ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion trwy weledigaeth a gwerthoedd a rennir.  Rydym yn ffodus o gael amrywiaeth o arweinwyr a llywodraethwyr hynod alluog ynghyd â thalent gref sy'n dod i'r amlwg ar draws ein gweithlu addysg, ac mae pob un ohonynt wedi dangos y gallu i gyflawni deilliannau cadarnhaol i'n dysgwyr ynghyd ag ymrwymiad cadarn i arfer cynhwysol."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:"Dros y degawd diwethaf mae Caerdydd wedi gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i wella'n barhaus ansawdd ac effeithiolrwydd ein system addysg. Rydym yn agosach nag erioed o'r blaen at wneud pob ysgol yn ysgol dda, gyda chanlyniadau arolygu cryf, cyrhaeddiad addysg sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, a chyflwyno'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy gan fuddsoddi miliynau mewn darparu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.

"Bellach wedi ei sefydlu'n gadarn a'i gefnogi gan ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i systemau ysgolion effeithiol ledled y byd, mae ysgolion cydweithredol Caerdydd wedi gweld manteision felcyfoethogi cyfleoedd dysgu,culhau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion difreintiedig,gwella datblygiad proffesiynol y gweithlu, gan wneud y mwyaf o arweinyddiaeth a llywodraethu cryf i wella canlyniadau i ddysgwyr a staff ysgolion.

"Rydym yn ymwybodol bod nifer o wahanol fodelau y gellir eu hystyried ar gyfer cydweithredu neu ffedereiddio yn dibynnu ar amgylchiadau lleol ac nid oes un model sy'n addas i bawb.  Byddai unrhyw gynnig lle gellid gweithredu newid sylweddol yn arwain at ganllawiau clir gan ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a byddai'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Consortiwm Canolbarth y De (CCD) ac ESTYN, i adolygu canlyniadau trefniadau cydweithredu a ffedereiddio pe bai'r cynigion yn cael eu gweithredu."

Wrth ddatblygu cydweithredu a ffedereiddio, bydd y sector ysgolion cynradd yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth cyn ysgolion arbennig ac uwchradd, a fyddai'n cael eu hystyried fesul achos.

Byddai pob ysgol yn cael ei gwahodd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan a byddai pecyn cymorth yn cael ei ddarparu i wella gwybodaeth a sgiliau darpar lywodraethwyr ysgolion sy'n cydweithredu/ffedereiddio.             

Ar ôl sefydlu cydweithrediadau a ffederasiynau, byddai prosesau gwerthuso yn cael eu cynnal ar y cyd ag ysgolion a phartneriaid yn unol â'r prosesau adolygu a myfyrio arferol gan gynnwys adborth.   Bydd canlyniad y prosesau hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio prif ffrydio arfer da, llywio esblygiad y modelau, a nodi mentoriaid i ddarparu cefnogaeth i ysgolion newydd wrth iddynt ddechrau ar y broses.

Beth yw Ffederasiwn a sut mae'n wahanol i Gydweithrediad?

Mae ffederasiwn ysgol yn "ffordd fwy ffurfiol o ehangu cydweithrediad a hyrwyddo perthnasau gwaith agosach,a dyna yw'r brif fenter er mwyn cyflawni gweithio partneriaeth ffurfiol ymysg ysgolion i wella perfformiad a chulhau'r bwlch cyflawniad i ddisgyblion difreintiedig." (Llywodraeth Cymru 2022).

Gall cydweithrediad fod yn debyg i ffederasiwn ysgol, ond y prif wahaniaeth yw nad oes unrhyw newid i system llywodraethu pob ysgol.

Ategirgweledigaeth Caerdydd 2030gan ddwy thema, pum nod ac ymrwymiadau blaenoriaeth:

Themâu:

  • Cyfrifoldeb a rennir dros addysg a dysgu ym mhob cwr o'r ddinas, 
  • Cyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc

Amcanion:

  • Hawl i Ddysgu Iechyd a Lles Dysgwyr
  • Cyflawni Cwricwlwm i Gymru 2022 yng Nghaerdydd
  • Gweithlu addysg sydd gyda'r gorau yn y byd
  • Amgylcheddau dysgu o safon uchel

 

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Llun 26 Chwefror am 16.30.