Back
Datgelu cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i’r Awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m

21.2.24

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac yn amddiffyn y bobl sydd mwyaf agored i niwed, wedi ei ddatgelu gan Gyngor Caerdydd wrth iddo wynebu 'argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus' sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ym mhob rhan o'r DU.

Mae costau cynyddol a'r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol yn golygu bod gan y Cyngor 'benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud' os am gau'r bwlch o £30.3 miliwn yn ei gyllideb.

Yn gynharach eleni ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ledled y ddinas a gofynnwyd iddynt am eu barn ar nifer o gynigion i arbed arian a syniadau i gynhyrchu arian.

Cymerodd dros 9,000 o bobl - y nifer uchaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad pedair wythnos ar y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau.

Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r Cyngor yn cyflwyno cynigion i ddiogelu gwasanaethau allweddol tra'n cau'r bwlch yn y gyllideb.

Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad y Dreth Gyngor ar 6% - tua £1.60 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Byddai hyn ymhlith y cynnydd isaf yn y Dreth Gyngor a welwyd yng Nghymru eleni a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal rhai o'r gwasanaethau y gofynnodd preswylwyr iddynt gael eu diogelu neu eu harbed rhag toriadau.

Mae'r rhain yn cynnwys: 

Rhoi codiad o 4.3% i ysgolion, gwerth £12.8 miliwn y flwyddyn i helpu i ddelio â chostau cynyddol sy'n cyfateb i gynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru i'r Cyngor, a chael gwared ar unrhyw ofyniad am arbedion effeithlonrwydd. Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant hefyd yn derbyn £26.3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae cynigion eraill yn cynnwys:

  • Dim toriadau i wasanaethau ieuenctid
  • Gwario £6.7m ar barciau'r ddinas gan wella a diogelu ein statws Baner Werdd
  • Gwario £7.1m ar atgyweirio priffyrdd
  • £308m ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion y flwyddyn nesaf 

Bydd ffioedd yn cynyddu ar gyfer rhai gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Cynyddu cost llogi meysydd chwarae - cynnydd o 10%
  • Cynyddu pris claddedigaethau (+10.6%) a'r gwasanaeth amlosgi (+6.1%)
  • Cynyddu cost prydau ysgol gan 10c, er y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei gymorthdalu
  • Cynyddu rhai costau parcio.

Mae sawl ffactor gan gynnwys chwyddiant, prisiau ynni, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio dros £57 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2024 - Mawrth 2025) nag eleni.

Bydd cynnydd grant Llywodraeth Cymru o 4.3% i Gaerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dod â £27 miliwn yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd angen i'r Cyngor ddod o hyd i £30.3 miliwn. Bydd hyn yn gofyn am doriadau i wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, a chynyddu ffioedd.

Disgwylir colli oddeutu 160 o swyddi yn y Cyngor - nifer o'r rheiny drwy beidio â phenodi i swyddi gwag.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd nawr yn ystyried Adroddiad y Gyllideb ddydd Iau 29 Chwefror, a fydd - os caiff ei gytuno gan y Cabinet - yn mynd i'r Cyngor Llawn ar 7 Mawrth i'w gymeradwyo.

Byddwch yn gallu gweld yr adroddiad llawn yma, yn hwyr ar ddydd Gwener: Agenda Cabinet ar Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Yn yr ymgynghoriad, dywedwyd wrth drigolion fod dwy draean (66.4%) o gyllideb flynyddol y Cyngor, sef £804 miliwn, yn cael eu gwario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Sy'n gadael dim ond £176 miliwn i dalu am wasanaethau eraill fel casgliadau ailgylchu a gwastraff, priffyrdd, goleuadau stryd, llyfrgelloedd a hybiau, ac adfywio economaidd. Mae tua £57 miliwn o'r gyllideb yn mynd tuag at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, rhyddhad ardrethi ac ardollau eraill sy'n cael eu talu i sefydliadau fel y gwasanaeth tân; tra bod £37 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer cyllid cyfalaf i ad-dalu llog ar phrosiectau fel ysgolion newydd ac Arena Caerdydd, sydd wedi'i gynllunio mewn modd fydd yn ad-dalu'n llawn dros gyfnod ei les.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn. Mae toriadau termau real i gyllid dros y 14 mlynedd diwethaf, chwyddiant, a phwysau galw cynyddol o ran gofal plant, gofal i'r henoed, a digartrefedd - yn enwedig mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd - yn cynyddu costau cynghorau ym mhobman.

"Mae'r darlun hwn yn gyffredin ar draws y DU - yn Lloegr mae'r darlun hyd yn oed yn waeth nag ydyw yng Nghymru. Credaf fod angen cael sgwrs onest gyda'r llywodraeth ynglŷn â gwir werth y sector cyhoeddus a llywodraeth leol i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os bydd llywodraeth leol yn parhau i wynebu'r toriadau di-baid hyn, yna byddwn yn cael ein dal yn y cylch hwn tan fod dim ar ôl i'w dorri."

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Ar ddechrau'r ymgynghoriad, dywedais ein bod yn wynebu argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus a'i bod yn bwysig bod trigolion yn rhannu eu barn gyda ni ar gynigion y gyllideb. Mae'r ffaith bod y nifer uchaf erioed o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn dangos bod ein trigolion yn pryderu am y toriadau di-baid hyn i'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt a'r difrod sy'n cael ei wneud i'r sector cyhoeddus, nid yn unig yma, ond ledled Cymru a gweddill y DU.

"Heb godi'r dreth gyngor, ni fyddem yn gallu diogelu rhai o'r gwasanaethau sy'n bwysig i'n trigolion. Bydd y cynnydd hwn ymhlith yr isaf yng Nghymru, ond bydd yn dod â £10.4 miliwn yn ychwanegol a bydd yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt. Yr un mor bwysig, bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac sy'n gymwys yn gallu cael cymorth drwy gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

"Wrth gwrs, nid yw'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor yn golygu na fydd yn rhaid i ni wneud arbedion. Yn y flwyddyn ariannol nesaf byddwn yn gwneud £15.8 miliwn o arbedion swyddfa gefn a mesurau corfforaethol eraill, ynghyd â'r £4.1 miliwn o arbedion gwasanaeth rheng flaen yn seiliedig ar yr ymgynghoriad. Daw'r arbedion hyn ar ben y £250 miliwn yr ydym wedi'i dorri o'n cyllideb dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn anffodus, bydd tua 160 o swyddi'n cael eu colli ar draws y Cyngor. Y llynedd, collwyd tua 172 o swyddi. Byddwn bob amser yn ceisio gwneud arbedion effeithlonrwydd a newid y ffordd rydym yn gweithio cyn newid gwasanaethau rheng flaen, ond mae graddfa'r gostyngiad i'n cyllideb yn rhy fawr i osgoi rhai newidiadau eleni.

"Rwyf am i drigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu barn, ac rydym yn cyflwyno cynigion fydd yn diogelu'r gwasanaethau sy'n golygu y mwyaf iddyn nhw - addysg, diogelu pobl agored i niwed, a gofal cymdeithasol."

Bwriedir i'r cynnig i gasglu biniau/bagiau du bob tair wythnos ddod i rym yn ddiweddarach eleni. Dewis Llywodraeth Cymru ar gyfer y math hwn o wastraff yw casgliadau bob tair wythnos er mwyn gwella'r cyfraddau ailgylchu. Os na fydd Caerdydd yn gwella ei chyfradd ailgylchu gallai wynebu dirwy gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ar ffioedd Gwastraff Gardd felly bydd y casgliadau hyn yn parhau am ddim pan fyddant yn dechrau eto yn y gwanwyn. Bydd penderfyniad ynghylch a fydd angen cyflwyno taliadau yn y dyfodol yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni.

Bydd Cyngor Caerdydd nawr yn cyflwyno'r set lawn o gynigion cyllideb, ond cyn hynny bydd nifer o Bwyllgorau Craffu'r cyngor yn craffu arnynt yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, Chwefror 26.Bydd modd gwylio ffrwd fyw o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr o gyfarfodydd sydd ar gael i'w gweld yma Calendr cyfarfodydd misol - Chwefror 2024: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor unigol, yna'r agenda lle cewch hyd i'r ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo fyw.

Bydd y cynigion wedyn yn mynd i'r Cabinet i'w cymeradwyo brynhawn Iau, 29 Chwefror. Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ymAgenda ar gyfer y Cabinet Dydd Iau, 29 Chwefror 2024, 2.00pm: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)  

Os bydd y Cabinet yn cytuno arno, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y cynigion ddydd Iau 7 Mawrth, o 4.30pm a fydd hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw yma Agenda ar gyfer y Cyngor ddydd Iau 7 Mawrth 2024, 4.30pm: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)  

Fel rhan o'r Gyllideb, bydd y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i'w raglen gwariant cyfalaf 5 mlynedd 2023/24 - 2027/28. Bwriad y rhaglen yw creu swyddi, adeiladu mwy o gartrefi cyngor a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â llu o fesurau eraill i wella'r ddinas.

Mae'n cynnwys y canlynol:

  • Buddsoddiad o £716.3 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd
  • £234 miliwn ar adeiladau ysgol newydd
  • £129.8 miliwn i ddatblygu Cledrau Croesi Caerdydd, llwybrau beicio strategol, gwella'r seilwaith trafnidiaeth ac annog teithio llesol, yn amodol ar gyllid grant
  • Buddsoddiad o £41 miliwn mewn seilwaith ysgolion presennol
  • Buddsoddiad o £32.7 miliwn mewn seilwaith priffyrdd
  • £215.5 miliwnar fentrau datblygu economaidd, gan gynnwys y pentref chwaraeon rhyngwladol ac Arena Dan Do newydd (sy'n cael ei ariannu gan ddatblygwyr yn bennaf)
  • £47.3 miliwn i wneud addasiadau i bobl anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • £34.9 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol
  • Buddsoddi £19.9 miliwn mewn parciau, meysydd chwarae, mannau agored a seilwaith yr harbwr
  • £14.2 miliwn i gefnogi gweithgareddau casglu ac ailgylchu gwastraff
  • £20.7 miliwn ar gyfer gwella cymdogaethau
  • Buddsoddi £4.6 miliwn mewn canolfannau hamdden
  • Buddsoddi £4.8 miliwn yn y Strategaeth Cartrefi Cywir, Cymorth Cywir i blant, darpariaeth seibiant plant a llety porth i bobl ifanc.

Cymerodd dros 9,000 o drigolion - y nifer uchaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad ar gyllideb Cyngor Caerdydd.

Helpodd eu barn i lunio'r gyllideb ar gyfer 2024/25, gan gynnwys.

  • Roedd 81.6% yn cytuno i gau amgueddfa Caerdydd ar un diwrnod yr wythnos
  • Roedd 81% yn cytuno â throsglwyddo asedau caeau chwarae a chyfleusterau newid
  • Roedd 78.1% o blaid dod o hyd i bartneriaid i gefnogi Planhigfa Parc Bute a Tŷ Gwydr Parc y Rhath
  • Roedd 76.7% yn cytuno i ddod o hyd i weithredwr amgen ar gyfer Ysgol Farchogaeth Caerdydd
  • Roedd 76.2% yn cytuno i ddileu'r tâl fesul awr am wasanaethau gofal cartref yn raddol
  • Roedd 69.3% yn cytuno i gael gwared ar gopïau caled o bapurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion
  • Roedd 67.7% yn cytuno y dylid blaenoriaethu cyllidebau ysgolion
  • Roedd 67.1% yn cytuno y dylid codi tâl am gasgliadau gwastraff swmpus
  • Roedd 66.3% yn cytuno i gynyddu ffioedd claddu ac amlosgi
  • Roedd 63.8% yn cytuno i gymhwyso cap Llywodraeth Cymru ar gyfer ffioedd gwasanaethau gofal cartref
  • Roedd 61.8% yn cytuno i gynyddu ffioedd i oedolion sy'n llogi caeau chwarae a chyfleusterau newid
  • Roedd 56.6% yn cytuno i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr mewn Hybiau a Llyfrgelloedd
  • Roedd 50.7% eisiau cadw biniau mewn ardaloedd preswyl.

Yn seiliedig ar yr ymgynghoriad â phreswylwyr, mae'r Cabinet bellach yn cyflwyno nifer o gynigion cyllidebol, gan gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Codi'r Dreth Gyngor gan 6% i helpu i dalu am wasanaethau y mae preswylwyr eu heisiau
  • Bydd glanhau strydoedd yn cael ei ddiogelu a bydd biniau mewn ardaloedd preswyl yn cael eu cadw
  • Cynyddu'r gost o logi caeau chwaraeon gan 10% yn hytrach na 30%
  • Hybiau/Llyfrgelloedd - lleihau oriau yn hytrach na'u cau am ddiwrnod yr wythnos.
  • Ceidwaid Parciau Cymunedol - 2 weithiwr llawn amser yn llai yn hytrach na 4 yn llai. Bydd hyn yn golygu bod gan y gwasanaeth dri cheidwad yn fwy na phum mlynedd yn ôl.
  • Ffioedd uwch ar gyfer claddu y tu allan i oriau - i'w osod ar 10% yn hytrach nag adennill costau llawn
  • Toriadau cyfyngedig i Dimau Gweithredu Lleol sy'n helpu i wella amgylchedd ein hystadau tai - gan flaenoriaethu ardaloedd â'r angen mwyaf.
  • Cynyddu pris prydau ysgol gan 10c yn hytrach na 30c

Gallwch ddarllen mwy am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio a pham mae bwlch yn y gyllideb ymCyllideb Cyngor Caerdydd 2024/25 - esboniwr (newyddioncaerdydd.co.uk)