Back
Gwaith yn dechrau'n swyddogol ar gampws addysg arloesol newydd yn y Tyllgoed

9/2/2024

Mae seremoni arbennig sy'n torri tir newydd wedi nodi dechrau'r gwaith adeiladu campws addysg ar y cyd arloesol newydd, i'w leoli yn ardal y Tyllgoed o'r ddinas.

Y prosiect sy'n werth £110m yw'r mwyaf o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Bydd y datblygiad yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar un safle.

Torrwyd y tir ar y safle gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.

Ymunodd Pennaeth yr Ysgol yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Geraint Jones â nhwa Chadeirydd y Llywodraethwyr Barbara Connell ynghyd â'r Pennaeth Gweithredol, Wayne Murphy a Chadeirydd y Llywodraethwyr Bianca Rees o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, y mae Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ill dau yn rhan o hyn.

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o HLM Architects ac ISG, y contractwr a ddewiswyd i ymgymryd â dyluniad manwl a'r gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun.

Bydd y datblygiad yn un Carbon Sero-net yn unol â safonau Llywodraeth Cymru a bydd yn gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion Caerdydd yn y dyfodol. Bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd i weithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas i liniaru newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae'n wych gweld y gwaith o adeiladu'r campws newydd yn mynd rhagddo, a fydd yn darparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a modern i bobl ifanc o Ysgol Cantonian, Woodlands a Riverbank. Yn ogystal â bod yn garbon sero-net, bydd y campws yn darparu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned yn y rhan hon o Gaerdydd am flynyddoedd i ddod.

 

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r datblygiad newydd, drwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ac edrychaf ymlaen at ymweld eto pan fydd y campws wedi'i gwblhau."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ar ôl ei gwblhau, y campws addysg ar y cyd hwn fydd y cyntaf o'i fath i Gaerdydd a bydd yn un o'r sefydliadau mwyaf datblygedig yn addysgol yn y DU. Bydd dod ag Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank ynghyd ar un safle fel rhan o'r cynllun unigryw ac uchelgeisiol hwn, yn darparu cyfuniad unigryw o ddysgu.  Bydd pob ysgol yn gallu cadw ei hunaniaeth ac yn elwa ar gyfleusterau a rennir, arbenigedd a chyfleoedd addysgu i ddarparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'u cymunedau.

"Hon fydd ein hysgol Garbon Sero-net gyntaf, ac mae'r prosiect hwn yn cefnogi ein hymateb i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn cyd-fynd â gweledigaeth Un Blaned Caerdydd i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg Caerdydd "Mae'r torri tir yn garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank sydd wedi bod yn rhan annatod o'r cynllunio a'r weledigaeth ar gyfer y campws newydd. Mae disgyblion, staff, rhieni a'r gymuned leol wedi helpu i lunio'r cynlluniau dylunio ac wedi meddwl am yr ystod amrywiol o anghenion dysgwyr fel eu bod yn teimlo'n ddiogel gydag ymdeimlad clir o unigolrwydd, a'u bod yn gallu cydnabod pwysigrwydd perthyn nid yn unig i'w hysgol unigol ond hefyd i'r campws ehangach.

"Ystyrir cwricwla ac adeiladau ysgol i gefnogi disgyblion i fod yn uchelgeisiol, galluog a pharod i ddysgu drwy gydol eu hoes wrth hyrwyddo unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas. Yn ogystal â darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a'r amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf i ddisgyblion, mae'r cynllun hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Tyllgoed, gan sicrhau y bydd y gymuned leol hefyd yn elwa ar amwynderau modern rhagorol."

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd mai ISG oedd y cynigydd a ffefrir ar gyfer dylunio ac adeiladu'r campws addysg ar y cyd newydd, i'w leoli yn ardal Tyllgoed y ddinas.

Mae ISG wedi ymgymryd â'r broses ddylunio fanwl ar gyfer y cynllun, a darparu'r llety dros dro sy'n gysylltiedig â'r gwaith, cyn y gwaith adeiladu. Bydd bellach yn adeiladu gweddill y campws Carbon Sero-Net, a fydd yn targedu gostyngiad sylweddol mewn carbon gweithredol ac ymgorfforedig. Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd i weithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas i liniaru newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Richard Skone, cyfarwyddwr rhanbarthol busnes Adeiladu ISG yng Nghymru: "Mynegodd Richard Skone, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Busnes Adeiladu ISG yng Nghymru, ei feddyliau am y torri tir newydd ar gampws y Tyllgoed heddiw: "Mae'r fenter hon yn arwyddocaol i'r gymuned leol, Caerdydd a Chymru yn gyffredinol. Mae'r pwyslais ar safle Sero-Net yn cyd-fynd â phwysigrwydd cynyddol datrysiadau cynaliadwy mewn ysgolion i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r targedau a osodwyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn atseinio ag ymrwymiad ISG, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio cryf wrth gyflawni'r nodau cyffredin hyn."

Bydd y campws newydd yn cynnwys:

  • Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion.
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol.
  • Adleoli Ysgol Arbennig Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

Bydd y campws hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau'r ysgol. 

Rhagwelir y bydd gwaith ar y campws yn cael ei gwblhau erbyn hydref 2026 gyda gwaith ar Ysgol Uwchradd Cantonian yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025.

I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch i Ddogfen weledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)