Back
Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau yn serennu yn Arolwg Estyn

3/1/2024

 

Mae Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau, sydd wedi'i lleoli ar Michaelston Road yn Nhrelái, wedi derbyn canmoliaeth yn ei harolwg diweddar a gynhaliwyd gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 

Amlygodd arolygwyr ymrwymiad y ganolfan i ddarparu amgylchedd diogel, ysbrydoledig a meithringar i blant ifanc.

Mae uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys;

Hafan ddiogel ar gyfer dysgu a chwarae; Mae'r adroddiad yn pwysleisio llwyddiant y ganolfan wrth greu cyfnod pontio hwylus i blant o sesiynau teulu cymunedol a gofal plant hyd at y feithrinfa. Mae'r tîm arweinyddiaeth yn angerddol am addysg plentyndod cynnar ac mae wedi dod â phob agwedd ar y ddarpariaeth ynghyd, i feithrin amgylchedd lle gall plant archwilio, dysgu a datblygu sgiliau hanfodol.

Hyrwyddo Datblygiad Cyfannol; Canfuwyd bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth dda o ddatblygiad plant, gan sicrhau sylw unigol i anghenion a diddordebau pob plentyn. Mae ffocws y ganolfan ar les a chynnydd plant yn amlwg yn y pwyslais cryf ar sgiliau corfforol, creadigol a meddwl yn feirniadol. Mae'r profiadau awyr agored helaeth, gan gynnwys Ysgol Goedwig ac Ysgol Traeth, yn cyfrannu'n sylweddol at eu datblygiad.

Cameo - Adlewyrchu Cynnydd trwy Gyfnodolion Dysgu; Mae'r ganolfan yn defnyddio cyfnodolion dysgu i ddogfennu cynnydd pob plentyn, gan ymgorffori arsylwadau ysgrifenedig, nodiadau maes, ffotograffau a fideos. Mae'r dull hwn yn cyfoethogi'r profiad dysgu ac hefyd yn meithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn y blynyddoedd cynnar. 

Amgylchedd cefnogol a chynhwysol; Adlewyrchir ymrwymiad y ganolfan i gynwysoldeb yn ei dathliad o hunaniaeth a phrofiadau plant ac ymarferwyr trwy ffotograffau ac arddangosfeydd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynhesrwydd a'r ymddiriedaeth sydd rhwng ymarferwyr a phlant, gan gyfrannu at ymdeimlad cryf o berthyn. 

Cydymffurfiaeth Statudol; Canfu'r arolwg fod y ganolfan yn cydymffurfio'n llawn â threfniadau diogelu, arferion bwyta ac yfed yn iach, cyllid ysgolion, ac iechyd a diogelwch (diogelwch safle).   

Heb unrhyw argymhellion penodol, mae'r adroddiad yn annog y ganolfan i barhau â'i thaith wella, gan adeiladu ar y sylfaen sydd eisoes yn drawiadol. 

Dywedodd Pennaeth y Ganolfan, Annamaria Bevan: "Rydyn ni wrth ein boddau â chanlyniad ein harolwg diweddar. Mae'r athrawon a'r ymarferwyr yn y ganolfan yn ymroddedig i'w proffesiwn ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod anghenion unigol plant a theuluoedd yn cael eu diwallu.  

"Rydym yn falch o ddweud ein bod yn defnyddio chwarae ac archwilio fel cyfrwng ar gyfer dysgu, gan gefnogi plant drwy ddull rhyddid gyda chanllawiau, gan alluogi pob plentyn i wneud cynnydd o'u man cychwyn." 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau yn dyst i ymroddiad a rhagoriaeth ei harweinyddiaeth a'i staff wrth ddarparu amgylchedd meithringar ar gyfer datblygiad cyfannol plant ifanc.

 

"Hoffwn longyfarch y staff ar yr adroddiad cadarnhaol hwn." 

Ar adeg yr arolwg, roedd gan Ganolfan Blant Trelái a Chaerau 69 o blant ar y gofrestr gyda 7% yn cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.