30/01/24
Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Cyhoeddi cadeirydd newydd i archwilio potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren
Mae arloeswr blaenllaw yn niwydiant ynni gwynt y byd wedi'i benodi i arwain ymdrech drawsffiniol i archwilio potensial ynni cynaliadwy Aber Afon Hafren.
Mae gan Aber Afon Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd ac amcangyfrifir bod ganddi'r potensial i ddarparu hyd at 7% o gyfanswm ynni'r DU.
Mae lansiad swyddogol a chyfarfod cyntaf y comisiwn wedi'u trefnu ar gyfer y mis nesaf.
Mae Dr Andrew Garrad CBE, arloeswr blaenllaw yn y diwydiant ynni gwynt modern, wedi'i benodi'n Gadeirydd comisiwn annibynnol newydd Porth y Gorllewin i archwilio potensial Aber Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy.
Gydag un o'r ystodau llanw uchaf yn y byd, mae Aber Afon Hafren wedi cael ei ystyried ers amser fel ffynhonnell bosibl o ynni llanw. Bydd y comisiwn newydd hwn yn dwyn ynghyd ystod o arbenigwyr i benderfynu a oes opsiwn hyfyw bellach ar gyfer defnyddio Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy i'r DU.
Mae Dr Garrad yn dod â phrofiad sylweddol o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy arloesol ar raddfa fawr i'r comisiwn - gyda gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen er mwyn i'r rhain fod yn llwyddiannus.
Arweinwyr dinesig yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni ddwys
Daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol ynghyd yng Nghaerdydd y bore yma i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, y coffâd rhyngwladol i gofio'r miliynau a fu farw yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau dilynol ledled y byd.
Y thema eleni yw 'Bregusrwydd Rhyddid'. Daw 30 mlynedd ers hil-laddiad Rwanda lle lladdwyd miliwn o Dwtsïaid a Hutus modern. Roedd y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol ac Wcráin, a'r miloedd o fywydau a gollwyd, hefyd yn flaenllaw ym meddyliau'r rheini a oedd yn bresennol.
Mewn gwasanaeth dwys yn y Deml Heddwch, yn Cathays, ymunodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, â'r Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, i anrhydeddu'r meirw a goroeswyr pob hil-laddiad.
Meddai'r Cynghorydd Thomas, a ddarllenodd ddarn o Eseia yn y seremoni: "Eleni daethom at ein gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig i goffáu'r diwrnod arbennig hwn. Mae'n bwysig ein bod yn nodi'r achlysur blynyddol hwn a'r garreg filltir ingol hon ac i fyfyrio ar y ffordd y gallwn ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn."
Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2024 ar agor nawr
Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2024.
Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 91 o ddosbarthiadau meithrin mewn 88 o ysgolion ledled y ddinas, gan gynnwys tair ysgol sydd â chynnig dwy ffrwd. Anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau sef dydd Llun 26 Chwefror 2024 am y siawns orau o gael cynnig lle meithrin o'u dewis.
I wneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol gymunedol ewch i Derbyniadau i ysgolion meithrin (caerdydd.gov.uk).Gall teuluoedd sy'n ffafrio lle dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd ffydd wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hyn.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan blant 3-4 oed hawl i gael lle meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
"Yng Nghaerdydd mae gennym dros 5,000 o leoedd meithrin ar draws y ddinas sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a Saesneg felly mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt, ond anogir teuluoedd i gyflwyno eu ceisiadau ar amser i helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i gael cynnig lle mewn dosbarth meithrin o'u dewis."