Back
Y newyddion gennym ni - 29/01/24

Image

29/01/24 - Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2024 ar agor nawr

Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2024.

Darllenwch fwy yma

 

Image

26/01/24 - Arweinwyr dinesig yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni ddwys

Daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol ynghyd yng Nghaerdydd y bore yma i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, y coffâd rhyngwladol i gofio'r miliynau a fu farw yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau dilynol ledled y byd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/01/24 - Cyhoeddi cadeirydd newydd i archwilio potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren

Mae Dr Andrew Garrad CBE, arloeswr blaenllaw yn y diwydiant ynni gwynt modern, wedi'i benodi'n Gadeirydd comisiwn annibynnol newydd Porth y Gorllewin i archwilio potensial Aber Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/01/24 - Trac Motocross yn helpu pobl ifanc yng Nghaerdydd i ddatgloi eu potensial

Nid yw bywyd bob amser yn hawdd i bobl ifanc ac i rai o bobl ifanc Caerdydd, nid yw amgylchedd traddodiadol yr ysgol yn gweithio - ond mae beiciau modur, injans, ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol Foreshore MXC, sy'n gyfleuster motocross ar Rover Way, yn gallu newid bywydau.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/01/24 - Cynnig chwe pharc sglefrio newydd ar gyfer Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar gynllun i fuddsoddi yn seilwaith parciau sglefrio Caerdydd a allai weld chwe pharc sglefrio newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2032 a nifer o barciau sglefrio presennol yn cael eu troi'n gyfleusterau concrit modern.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/01/24 - Rhaglen ôl-osod arbedion ynni i arbed arian a lleihau allyriadau carbon

Cytunwyd ar gynlluniau i 23 i ddechrau o adeiladau Cyngor Caerdydd elwa o raglen ôl-osod arbedion ynni a fyddai'n arbed arian ac yn lleihau allyriadau carbon wrth i'r awdurdod lleol barhau â'i waith Caerdydd Un Blaned i ddod yn garbon niwtral.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/01/24 - Gwaith Ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd yn Cymryd Cam Ymlaen

Cymerodd y cynllun i adfywio Glanfa'r Iwerydd gam arall ymlaen heddiw, gydag adroddiad newydd yn rhoi diweddariad ar y cynnig i ailddatblygu'r safle Red Dragon sydd - ynghyd â'r arena dan do newydd - yn brosiect allweddol i ysgogi cam nesaf adfywiad Bae Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/01/24 - Deugain o brosiectau i dderbyn cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae cyfanswm o 40 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Darllenwch fwy yma