Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 23 Ionawr 2024

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Gofyn y cyhoedd am farn ar barcio newydd i Gaerdydd
  • Rhaglen ôl-osod arbedion ynni i arbed arian a lleihau allyriadau carbon
  • Ysgol Gynradd Trelái yn dathlu arolwg Estyn cadarnhaol yn nodi amgylchedd dysgu tawel a meithringar
  • Trac Motocross yn helpu pobl ifanc yng Nghaerdydd i ddatgloi eu potensial

 

Gofyn y cyhoedd am farn ar barcio newydd i Gaerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar gynllun parcio newydd ar y stryd i Gaerdydd wedi'i gymeradwyo a bydd yn cael ei lansio yn gynnar eleni, yn dilyn cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, Ionawr 18fed.

Gallai'r cynigion - i gyflwyno ‘parthau parcio' o fewn Ardaloedd Rheoli Parcio - roi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos yn agos at eu cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd i gymudwyr barcio.

Yn ogystal â chynyddu nifer y lleoedd parcio sydd ar gael i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, beiciau a chlybiau ceir, gallai busnesau lleol elwa o'r cynllun hefyd.

O dan y cynllun arfaethedig newydd, gellid rhannu'r holl fannau parcio ar y stryd o fewn yr ardaloedd i'r de o'r A48, i'r gorllewin o Afon Rhymni, i'r gogledd o Fae Caerdydd ac i'r dwyrain o Afon Elái yn bedair ardal rheoli parcio benodol gyda chyfyngiadau gwahanol ar waith ar gyfer pob un.

Mae'r cynigion presennol yn disgrifio'r rhain fel Canol y Ddinas, Bae Caerdydd. Ardaloedd Rheoli Parcio Mewnol ac Allanol. Bydd pob ardal yn cynnwys nifer o barthau parcio.

Pe cytunir arno yn dilyn ymgynghoriad, byddai'r cynllun yn dod â Chaerdydd yn unol â'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y DU. Mae disgwyl i ymgynghoriad 6 wythnos ddechrau yn gynnar eleni.

Darllenwch fwy yma

 

Rhaglen ôl-osod arbedion ynni i arbed arian a lleihau allyriadau carbon

Cytunwyd ar gynlluniau i 23 i ddechrau o adeiladau Cyngor Caerdydd elwa o raglen ôl-osod arbedion ynni a fyddai'n arbed arian ac yn lleihau allyriadau carbon wrth i'r awdurdod lleol barhau â'i waith Caerdydd Un Blaned i ddod yn garbon niwtral.

Mae trydan gwyrdd, lleol eisoes yn darparu'r pŵer ar gyfer adeiladau'r cyngor lle bynnag y bo modd, ond mae'r 22 adeilad ysgol a nodwyd dros dro ar gyfer rownd gyntaf y rhaglen ochr yn ochr â Chanolfan Hamdden Channel View, yn dal i gynhyrchu 1595.7 tunnell o CO2e bob blwyddyn, ar gost o fwy nag £1.1 miliwn ar gyfer 7.7miliwn kWh o ynni.

Bydd y rhaglen Re:Fit sy'n cael ei rheoli a'i rhedeg trwy Local Partnerships (LP), menter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn gwarantu arbedion ynni, carbon a chost o 15% o leiaf.

Y bwriad yw i'r gwaith gael ei ariannu gan 'Raglen Ariannu Cymru', a reolir gan SALIX, sy'n caniatáu i gyrff sector cyhoeddus wneud cais am fenthyciadau di-log hyblyg ar gyfer prosiectau arbed ynni.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Trelái yn dathlu arolwg Estyn cadarnhaol yn nodi amgylchedd dysgu tawel a meithringar

Mae Ysgol Gynradd Trelái yng Nghaerau wedi derbyn asesiad cadarnhaol gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Yn ystod ymweliad diweddar, tynnodd arolygwyr sylw at ymrwymiad yr ysgol i greu amgylchedd tawel a hapus sy'n meithrin dysgu a datblygiad llwyddiannus.  Nodwyd sawl prif gryfder, gan gynnwys:

Amgylchedd Tawel a Hapus:  Disgrifir Ysgol Gynradd Trelái fel lle tawel a hapus i ddisgyblion ddysgu a datblygu'n ddiogel ac yn llwyddiannus. Mae'r adroddiad yn cydnabod ffocws yr ysgol ar feithrin unigolion er mwyn gwneud eu gorau.

Dealltwriaeth Gymunedol:  Mae staff yr ysgol yn deall yr heriau sy'n wynebu'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu ac yn cynnig ystod eang o brofiadau diddorol i ddisgyblion ddatblygu sgiliau hanfodol, gwybodaeth, dealltwriaeth a gwytnwch.

Arwain a Rheoli:  Mae'r pennaeth a'r uwch arweinwyr yn ffurfio tîm cryf sy'n ysgogi gwelliant.  Mae dull yr ysgol o hunanwerthuso wedi arwain at gynnydd sylweddol, gyda hanes o wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gwahoddwyd yr ysgol gan Estyn i baratoi astudiaeth achos ar o'i thaith yn gwella i'w chyhoeddi ar wefan Estyn.

Wrth ddathlu llwyddiannau Ysgol Gynradd Trelái, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd penodol i'w gwella, fydd yn cael sylw drwy gynllun gweithredu'r ysgol.

Dealltwriaeth Fathemategol:  Mae'r ysgol yn cael ei hannog i sicrhau datblygiad parhaus dealltwriaeth fathemategol disgyblion er mwyn galluogi cymhwyso sgiliau rhifedd yn hyderus mewn cyd-destunau amrywiol.

Blaenoriaethau Gwella Ysgolion: Mae angen mireinio ffocws blaenoriaethau gwella ysgolion, gan fod cwmpasu gormod o feysydd yn ei gwneud hi'n anodd i staff ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.

Gwella Presenoldeb:  Anogir yr ysgol i barhau â'i hymdrechion trylwyr i gynyddu presenoldeb, gan gydnabod ei bod yn her barhaus.

Darllenwch fwy yma

 

Trac Motocross yn helpu pobl ifanc yng Nghaerdydd i ddatgloi eu potensial

Nid yw bywyd bob amser yn hawdd i bobl ifanc ac i rai o bobl ifanc Caerdydd, nid yw amgylchedd traddodiadol yr ysgol yn gweithio - ond mae beiciau modur, injans, ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol Foreshore MXC, sy'n gyfleuster motocross ar Rover Way, yn gallu newid bywydau.

"Mae'n bendant wedi fy nghadw i allan o drwbl," meddai Jae. "Fi wedi cael trwbl gyda phob math o bethau yn ystod fy mhlentyndod yn fy ardal leol, felly dw i'n falch o le ydw i heddiw.

Atgyfeiriwyd Jae (24) sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADCG) at raglen addysg alwedigaethol y trac gan ei ysgol yn 2013. "Doeddwn i ddim yn dda gyda gwaith ysgrifenedig," eglurodd ar ddiwrnod heulog o aeaf yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd ar Rover Way, "ac roedd yr athrawon yn gwybod hynny."

"O'ch chi'n gweld yn syth fod e'n mwynhau bod yn y Trac," dwedodd Mark Thomas, sy'n arwain tîm Addysg Alwedigaethol Cyngor Caerdydd, "felly buon ni'n gweithio gyda'i ysgol i ddatblygu rhaglen oedd yn rhoi cydbwysedd rhwng ei gyfrifoldebau academaidd ac amser yn y trac yn reidio ac yn dysgu sgiliau mechanyddol ymarferol, hynny yw trio rhoi system gymorth iddo, i roi hwb i'w hyder, a thalodd hynny ar ei ganfed."

Gwellodd presenoldeb a chyfranogiad Jae yn yr ysgol ac wrth i'w hyder dyfu, rhoddodd y Tîm Addysg Alwedigaethol brofiad gwaith ymarferol iddo'n gwasanaethu beiciau modur yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu ei sgiliau arwain. Yn y pen draw, mae'r sgiliau hynny'n ei arwain at gefnogi a mentora ei gyfoedion ac erbyn hyn, ychydig dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'n cael ei gyflogi ar y trac, gan helpu'r genhedlaeth nesaf.

"Mae llawer o bethau a ddysgais yma," meddai Jae, "adeiladu olwynion, sut i ffitio cadwyn, newid sbrocedi, ffitio hidlwyr aer a nawr fi'n gweithio yma, mae popeth a ddysgais yn ifancach yn ddefnyddiol a fi'n ei ddefnyddio bob dydd ac yn ceisio dysgu'r plant hyn beth ddysgais i, felly rwy'n eu rhoi nhw ar ben ffordd ac yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw mewn bywyd."

Darllenwch fwy yma