Back
Trac Motocross yn helpu pobl ifanc yng Nghaerdydd i ddatgloi eu potensial

23.1.24

 

Nid yw bywyd bob amser yn hawdd i bobl ifanc ac i rai o bobl ifanc Caerdydd, nid yw amgylchedd traddodiadol yr ysgol yn gweithio - ond mae beiciau modur, injans, ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol Foreshore MXC, sy'n gyfleuster motocross ar Rover Way, yn gallu newid bywydau.

"Mae'n bendant wedi fy nghadw i allan o drwbl," meddai Jae. "Fi wedi cael trwbl gyda phob math o bethau yn ystod fy mhlentyndod yn fy ardal leol, felly dw i'n falch o le ydw i heddiw.

Atgyfeiriwyd Jae (24) sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADCG) at raglen addysg alwedigaethol y trac gan ei ysgol yn 2013. "Doeddwn i ddim yn dda gyda gwaith ysgrifenedig," eglurodd ar ddiwrnod heulog o aeaf yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd ar Rover Way, "ac roedd yr athrawon yn gwybod hynny".

A child in red overalls standing next to a motorcycleDescription automatically generated

Jae yn ei arddegau yn gweithio ar feic modur yn Foreshore MXC. 

"O'ch chi'n gweld yn syth fod e'n mwynhau bod yn y Trac," dwedodd Mark Thomas, sy'n arwain tîm Addysg Alwedigaethol Cyngor Caerdydd, "felly buon ni'n gweithio gyda'i ysgol i ddatblygu rhaglen oedd yn rhoi cydbwysedd rhwng ei gyfrifoldebau academaidd ac amser yn y trac yn reidio ac yn dysgu sgiliau mechanyddol ymarferol, hynny yw trio rhoi system gymorth iddo, i roi hwb i'w hyder, a thalodd hynny ar ei ganfed."

Gwellodd presenoldeb a chyfranogiad Jae yn yr ysgol ac wrth i'w hyder dyfu, rhoddodd y Tîm Addysg Alwedigaethol brofiad gwaith ymarferol iddo'n gwasanaethu beiciau modur yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu ei sgiliau arwain. Yn y pen draw, mae'r sgiliau hynny'n ei arwain at gefnogi a mentora ei gyfoedion ac erbyn hyn, ychydig dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'n cael ei gyflogi ar y trac, gan helpu'r genhedlaeth nesaf.

"Mae llawer o bethau a ddysgais yma," meddai Jae, "adeiladu olwynion, sut i ffitio cadwyn, newid sbrocedi, ffitio hidlwyr aer a nawr fi'n gweithio yma, mae popeth a ddysgais yn ifancach yn ddefnyddiol a fi'n ei ddefnyddio bob dydd ac yn ceisio dysgu'r plant hyn beth ddysgais i, felly rwy'n eu rhoi nhw ar ben ffordd ac yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw mewn bywyd."

Two men sitting on dirt bikesDescription automatically generated

Jae (chwith) gyda Mark Thomas o dîm Addysg Alwedigaethol Cyngor Caerdydd (dde) 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae stori Jae wir yn ysbrydoliaeth ac mae'n un o'r nifer fawr o bobl ifanc sydd wedi elwa o'r rhaglen addysgol unigryw ac ymarferol yng nghyfleuster Motocross, gyda llawer yn ennill cymwysterau a chyflogaeth werthfawr o ganlyniad.

"Nawr, gydag ystod ehangach o raglenni ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phlant iau, yn cwmpasu gofal anifeiliaid, cerddoriaeth a thechnoleg fideo, gweithgareddau antur awyr agored a gwaith chwarae i enwi ond ychydig, mae'r tîm yn gallu helpu i ddatgloi potensial hyd yn oed mwy o bobl ifanc o Gaerdydd a thu hwnt."

Mae tîm Addysg Alwedigaethol Caerdydd yn rhedeg ystod o wahanol raglenni mewn cyfleusterau gan gynnwys Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ysgol Farchogaeth Caerdydd a Splott Play, yn ogystal â trac MXC blaendraeth. 

Mae'r rhain yn cynnwys:  

  • Rhaglen Camau Iau -  y nod yw annog, ymgysylltu a chefnogi plant oedran cynradd.  Mae'r cyrsiau'n hyblyg ac mae disgyblion yn dysgu ac yn datblygu sgiliau a phrofiadau newydd mewn pynciau gan gynnwys gweithgareddau antur ar y tir a dŵr, gwaith chwarae, gofal anifeiliaid, cerddoriaeth a symud.  Cynhelir sesiynau un diwrnod yr wythnos mewn sawl lleoliad gwahanol ledled y ddinas drwy gydol y flwyddyn ysgol.
  • Rhaglen Cam Wrth Gam - yn rhoi cyfle i bobl ifanc 11-13 oed gael mewnwelediad i hyfforddiant galwedigaethol ac, ar ôl ei gwblhau, gellir symud ymlaen at gwrs Galwedigaethol manylach o 14 oed.Cynhelir sesiynau un diwrnod yr wythnos mewn sawl lleoliad gwahanol ledled y ddinas drwy gydol y flwyddyn ysgol. Mae'r rhaglen hefyd yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd, sgiliau bywyd, gweithdai ABCh yn ogystal â phwnc galwedigaethol o ddewis y myfyriwr.
  • Addysg Alwedigaethol​​ - Mae'r cyrsiau achrededig Addysg Alwedigaethol BTEC (Chwaraeon, Hamdden a Datblygu) yn agored i bobl ifanc 14 - 16 oed. Mae'r rhaglen strwythuredig hon yn cynnig cyrsiau BTEC achrededig mewn:Technoleg Cerddoriaeth a Fideo, Mecaneg a Pheirianneg, Gofal Anifeiliaid, Astudiaethau Tir, Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus yn ogystal ag Iechyd, Ffitrwydd a Maeth (BTEC).

I weld mwy o wybodaeth am Addysg Alwedigaethol ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/addysg-galwedigaethol/Pages/default.aspx