Back
Cynnig chwe pharc sglefrio newydd ar gyfer Caerdydd

22.1.24

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar gynllun i fuddsoddi yn seilwaith parciau sglefrio Caerdydd a allai weld chwe pharc sglefrio newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2032 a nifer o barciau sglefrio presennol yn cael eu troi'n gyfleusterau concrit modern.

Mae'r 'Strategaeth Amwynderau Sglefrfyrddio,' a ddatblygwyd gan Gyngor Caerdydd gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr rhyngwladol ar barciau sglefrio Van de Zalm a New Line Skate Parks, yn anelu at gefnogi a thyfu'r gymuned sglefrfyrddio, meithrin grŵp defnyddwyr amrywiol, a chreu amwynderau sglefrio sy'n cefnogi ystod eang o ddefnyddiau a lefelau sgiliau.

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a'r peth gwych am sglefrfyrddio yw, yn ogystal â bod yn chwaraeon â chost cymharol isel i gymryd rhan, ei fod hefyd yn apelio at bobl o bob oed - o blant a phobl ifanc, i sglefrwyr hŷn, rhai ohonynt bellach yn cyflwyno eu plant eu hunain i'r gamp."

"Mae parciau sglefrio concrit, modern, pwrpasol yn dawelach, o ansawdd uwch, ac mae angen llai o waith cynnal a chadw arnynt na chyfleusterau â ffrâm bren a dur a byddant yn sicrhau y gall cymuned sglefrfyrddio fywiog ac amrywiol Caerdydd barhau i dyfu a ffynnu."

A person riding a skateboardDescription automatically generated

Sglefriwr ifanc yn mwynhau'r cyfleusterau 'man' a 'dot' newydd ym Mharc y Maltings yn y Sblot.

Gallai'r strategaeth weld pedwar parc sglefrio cyrchfan newydd yn cael eu hadeiladu, gan wasanaethu gogledd, dwyrain, gorllewin a chanol Caerdydd. Byddai pob cyfleuster yn fwy na 1,200m2

Gallai de'r ddinas, sydd eisoes yn gartref i unig barc sglefrio cyrchfan concrit presennol Caerdydd, hefyd elwa o barc sglefrio cymdogaeth newydd rhwng 600-1,200m2.

Mae'r strategaeth hefyd yn awgrymu y dylid ystyried datblygu cyfleuster parc sglefrio safonol Olympaidd yn y ddinas i hyrwyddo'r gamp yng Nghymru ar lefel gystadleuol.

Mae fframwaith ar gyfer cyflwyno cyfleusterau â chysgod rhag glaw, a chyfleusterau sglefrio 'man' a 'dot' llai eu maint - fel y rhai ym Mharc y Maltings a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Sblot - i barciau sy'n bod eisoes hefyd wedi'i nodi yn y strategaeth.

Ystyrir yn y strategaeth hefyd sut y gellid annog gofodau sglefrio arloesol, lle caiff cyfleusterau eu hymgorffori yn ddiogel i'r parth cyhoeddus ehangach gan ddatblygwyr masnachol.

Trafododd y Cabinet y Strategaeth Sglefrfyrddio brynhawn dydd Iau, 18 Ionawr. Mae recordiad o'r cyfarfod hwnnw, a'r adroddiad cabinet llawn, ar gael i'w gweld yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8213&Ver=4&LLL=1