Back
Deugain o brosiectau i dderbyn cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

22.01.24


Mae cyfanswm o 40 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae hyn yn dilyn 'galwad agored' am gyllid grant a gyhoeddwyd yn haf 2023 pan ddaeth dros 100 o geisiadau i law.

O'r 40 cais llwyddiannus, derbyniodd saith o'r sefydliadau hyn gadarnhad o'u cyllid fis diwethaf, gyda gwaith ar y gweill gyda'r sefydliadau eraill er mwyn gallu cwblhau'r cytundebau grant a chytuno arnynt yn gynnar eleni.

Bydd y saith sefydliad sydd wedi derbyn cyllid yn darparu amrywiaeth o brosiectau ledled Caerdydd i gefnogi twf swyddi a hyfforddiant, gwella diogelwch cymunedol, ysgogi'r economi gylchol a gwella cynnig creadigol y ddinas.

Y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid ym mis Tachwedd 2023 yw: 

Gweithredu Dros Blanta fydd yn darparu Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddusa fydd yn cyflawni Cynllun Cymunedol ar gyfer Trelái a Chaerau

Ymddiriedolaeth y Tywysoga fydd yn rhoi cymorth hunangyflogaeth i bobl ifanc sy'n economaidd anweithgar neu sydd ddim yn y system addysg

Busnes mewn Ffocwsa fydd yn ymgysylltu yn y gymuned ac yn cynnig cymorth busnes i entrepreneuriaid

Prifysgol Metropolitan Caerdydda fydd yn cefnogi busnesau a'r trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon, ailgynllunio eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff

Theatr GenedlaetholCymrua fydd yn penodi tri aelod o staff yng Nghaerdydd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i weithwyr llawrydd a chynyddu mynediad pobl ifanc at hyfforddiant a datblygiad.

Canolfan Mileniwm Cymrua fydd yn trawsnewid ardal sy'n cael ei thanddefnyddio yn CMC yn Ganolfan Greadigol a Chymdeithasol wedi'i hanelu at gymunedau a phobl ifanc.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyllid gan Lywodraeth y DU a roddwyd ar waith ym mis Ebrill 2022 i gymryd lle'r Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yna dyrannwyd cyllid i ranbarth de-ddwyrain Cymru ym mis Rhagfyr 2022 a sefydlwyd y trefniadau llywodraethu angenrheidiol rhwng y cynghorau dan sylw i redeg a gweinyddu'r cynllun.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'n dda gweld bod y cyllid hwn bellach yn cael ei ddarparu ar gyfer y prosiectau hyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar economi leol Caerdydd, yn rhoi hyfforddiant a chymorth i bobl ifanc ac yn gwella lles cymunedol mewn rhannau o'r ddinas.

"Llwyddodd pob un o'r prosiectau i wneud cais am hyd at £250,000 o gyllid a bydd yr holl geisiadau llwyddiannus yn cefnogi adfywiad economaidd a datblygiad cymunedol yn y ddinas, sef yr egwyddor allweddol ar gyfer y cyllid hwn."

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r cynigwyr llwyddiannus i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024 pan gymeradwywyd yr argymhellion i fwrw ymlaen â'r cyllid.