Back
Disgyblion wedi'u hysbrydoli gan berfformwyr cerddoriaeth Cymraeg mwyaf gwefreiddiol yn perfformio yn eu hysgol

17.01.24
Mae'r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn fywiog, gyda'r ddinas yn lleoliad ar gyfer gwyliau cyffrous a llu o leoliadau, stiwdios recordio ac ystafelloedd ymarfer sy'n darparu ar gyfer pob arddull gerddorol – o gerddoriaeth glasurol i jazz, hip hop ac electronica.

Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r sîn drwy Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd, sy'n rhoi cerddoriaeth wrth wraidd y ddinas, gan gefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth fel offeryn ar gyfer twf, yn hytrach na’i bod yn sgil-gynnyrch ohono.  

Mae annog pobl ifanc i groesawu cerddoriaeth, yn unol â Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth Llywodraeth Cymru, yn allweddol i hyn, a heddiw lansiodd y cyngor Gigs Bach yn swyddogol - rhaglen sy'n dod â cherddoriaeth a cherddorion i ganol ysgolion. 

Ysgol Uwchradd Llanisien oedd lleoliad lansiad swyddogol y prosiect newydd cyffrous hwn heddiw a chafwyd perfformiadau gan ddau o fandiau Cymreig mwyaf gwefreiddiol y sîn – Chroma (llun) a Maditronique, a berfformiodd setiau byr o ganeuon o flaen disgyblion. 

Roedd dros 100 o ddisgyblion yn bresennol yn y gynulleidfa ar gyfer y 'gig bach' awr o hyd, yr oedd pob un ohonynt wedi mynegi diddordeb mewn dysgu rhagor am y busnes cerddoriaeth, gan gynnwys bod yn rhan o fand, ysgrifennu ar gyfer y wasg gerddoriaeth neu fod yn un o’r technegwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gofalu am oleuadau a sain. 

"Er mai heddiw oedd y lansiad swyddogol, mae nifer o ysgolion uwchradd wedi cynnal eu Gigs Bach eu hunain dros dymor yr hydref yn barod.   Catalydd yn unig yw'r gigs hyn; bydd dysgwyr ysbrydoledig nawr yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer rhaglen Gigs Bach o fentoriaeth, hyfforddiant a chefnogaeth gan bartneriaid y diwydiant," meddai Rhian Boyce, athrawes arweiniol y prosiect ar gyfer tîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd. 

"Mae'r gigs wedi bod mor anhygoel o ysbrydoledig, o bobl ifanc yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn a oedd am ddechrau cyfansoddi eu caneuon eu hunain i berfformiad hynod drawiadol gan y rapiwr, DFlexx, yn ei hen ysgol uwchradd ei hun, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.    

"Alla’ i ddim aros i weld sut mae ein partneriaid yn CF Music, Anthem, Sound Progression a'r sîn gerddoriaeth yn gyffredinol, yn cefnogi'r bobl ifanc i ddod o hyd i'w lleisiau eu hunain yn y sîn gerddoriaeth."

Roedd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, ymhlith y rheini a oedd yn mwynhau'r perfformiadau yn Ysgol Uwchradd Llanisien heddiw.   "Roedd hi'n hyfryd gweld y bobl ifanc yn mwynhau cerddoriaeth fyw - rhai am y tro cyntaf, rwy'n meddwl.  

"Mae Gigs Bach yn ganlyniad uniongyrchol i'r adroddiad Sound Diplomacy a gomisiynwyd gennym i 'ecosystem' cerddoriaeth Caerdydd a argymhellodd adeiladu partneriaethau gyda gweithwyr proffesiynol i ddarparu addysg gerddorol yn y ddinas.   I'r perwyl hwnnw, rydym wedi ymuno â sefydliadau gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Music Box Studios a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd."

Dywedodd ei chydweithiwr, y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Bydd y Gigs Bach hyn yn helpu i feithrin cenhedlaeth newydd o bobl sy'n hoff o gerddoriaeth ond, gan fynd ymhellach na hynny, bydd y gweithdai a'r cyfleoedd mentora sy'n gysylltiedig â'r gigs hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu'r ffynhonnell o dalent - ar y llwyfan a thu ôl i'r llenni - sydd ei hangen i sicrhau bod sector cerddoriaeth Caerdydd yn parhau i ffynnu yn y dyfodol."   

Wedi'r gig awr o hyd, dywedodd Maddie Jones, a elwir hefyd yn Maditronique, a phrif leisydd Chroma, Katie Hall, eu bod wrth eu boddau o gael y cyfle i ddiddanu ac ysbrydoli eu cynulleidfa ifanc.  "Pe bawn i wedi cael rhywbeth fel hyn pan oeddwn yn yr ysgol, byddai wedi bod yn anhygoel," meddai Katie, y mae ei band wedi'i drefnu i gefnogi'r Foo Fighters eleni.

Un o'r rheini a ysbrydolwyd oedd Eleanor Maizey, myfyrwraig technoleg cerdd ym Mlwyddyn 12. "Roeddwn i wrth fy modd yn llwyr.  Rwy’n dwlu ar fandiau fel Chroma ac, ar ôl eu clywed, roeddwn i am godi fy ngitâr bas eto a dechrau cyfansoddi caneuon."

Dywedodd Pennaeth Cerddoriaeth Llanisien High, Matt Grimstead:  "I ni, mae manteision Gigs Bach yn ddeublyg - mae'n rhoi cyfle i ddisgyblion, na fyddai fel arfer yn cael cyfle i fynd i gyngerdd, weld cerddoriaeth fyw yn agos, a bydd y potensial ar gyfer cymryd rhan mewn mentora a gweithdai yn rhoi cefnogaeth wych i'n myfyrwyr cerddoriaeth."