Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Ionawr 2024

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Adnewyddu a gwella cynlluniau darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn y cynlluniau diweddaraf
  • Straeon gofalwyr maeth Caerdydd yn dangos bod gan bawb rywbeth i'w gynnig i gefnogi plant lleol mewn gofal
  • Rhaglen ôl-osod i arbed ynni gwerth £1.8 miliwn i leihau allyriadau carbon y Cyngor Caerdydd
  • Strategaeth Cyfranogiad Newydd i wella ymgysylltiad y cyhoedd â'r Cyngor

 

Adnewyddu a gwella cynlluniau darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn y cynlluniau diweddaraf

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell bod cynlluniau'n cael eu cymeradwyo i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.

Yn ei gyfarfod ddydd Iau 18 Ionawr 2024, bydd y Cabinet hefyd yn adolygu'r pum gwrthwynebiad a dderbyniwyd i'r hysbysiad statudol a gyhoeddwyd mewn perthynas â'r cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant yn gynharach eleni, mae'r cynigion diweddaraf wedi'u cynllunio i wella cyfleoedd dysgu a chefnogi ysgolion sy'n wynebu pwysau ariannol yn yr ardal ar hyn o bryd.

"Os cytunir arnynt, bydd ad-drefnu pedair ysgol gynradd hefyd yn helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol."

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Uno Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Gynradd Gladstone i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda dosbarth meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
  • Trosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.
  • Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
  • Trosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan gan alluogi'r ysgol i gael darpariaeth feithrin, yn dilyn cytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.

 

Byddai'r dosbarth ymyrraeth gynnar lleferydd ac iaith a gynhelir ar hyn o bryd gan Ysgol Allensbank yn parhau a gallai drosglwyddo i'r ysgol newydd, yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu'r ysgol newydd, neu gallai drosglwyddo i ysgol arall ym mis Medi 2025.

Darllenwch fwy yma

 

Straeon gofalwyr maeth Caerdydd yn dangos bod gan bawb rywbeth i'w gynnig i gefnogi plant lleol mewn gofal

Nod yr ymgyrch newydd yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gyda'u Cyngor lleol.

Mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Yng Nghaerdydd, mae 400 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd. Mae 105 o ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Caerdydd (eu Cyngor lleol), ond mae angen llawer mwy arnom yn y ddinas.

Heddiw, nododd Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru - nod beiddgar o recriwtio mwy nag 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru Caerdydd wedi ymuno â'r ymgyrch newydd, sy'n dangos bod gan bawb rywbeth i'w gynnig, gan ddefnyddio eu hased gorau - gofalwyr maeth cyfredol - i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio'r priodoleddau dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â mwy na 100 o bobl i ddatblygu'r ymgyrch - gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau o'r cyhoedd a phobl sy'n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol sy'n atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

 

Gyda'r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon gwirioneddol gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda'ch Cyngor lleol yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn dod â chyfleoedd hyfforddiant a datblygu proffesiynol helaeth, ynghyd â ffioedd a lwfansau hael.

Darllenwch fwy yma

 

Rhaglen ôl-osod i arbed ynni gwerth £1.8 miliwn i leihau allyriadau carbon y Cyngor Caerdydd

Mae cynlluniau wedi cael eu datgelu i 23 o adeiladau Cyngor Caerdydd i ddechrau elwa o raglen ôl-osod i arbed ynni gwerth £1.8 miliwn, fyddai'n arbed arian ac yn lleihau allyriadau carbon, wrth i'r awdurdod lleol barhau â'i waith Caerdydd Un Blaned i ddod yn garbon niwtral.

Mae trydan gwyrdd, lleol eisoes yn darparu'r pŵer ar gyfer adeiladau'r cyngor lle bynnag y bo modd, ond mae'r 22 adeilad ysgol a nodwyd dros dro ar gyfer rownd gyntaf y rhaglen ochr yn ochr â Chanolfan Hamdden Channel View, yn dal i gynhyrchu 1595.7 tunnell o CO2e bob blwyddyn, ar gost o fwy nag £1.1 miliwn ar gyfer 7.7miliwn kWh o ynni.

Byddai'r rhaglen Re:Fit sy'n cael ei rheoli a'i rhedeg trwy Bartneriaethau Lleol, menter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn gwarantu arbedion ynni, carbon a chost o 15% leiaf.

Y bwriad yw y byddai'r gwaith yn cael ei ariannu gan 'Raglen Ariannu Cymru' a reolir gan SALIX, sy'n caniatáu i gyrff sector cyhoeddus wneud cais am fenthyciadau di-log hyblyg ar gyfer prosiectau arbed ynni.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r rhaglen Re:Fit yn cynnig cyfle i ni leihau costau, arbed ynni a pharhau â'r gwaith da sydd wedi cyfrannu at ostyngiad o 12.3% mewn allyriadau carbon o ystâd y Cyngor ers lansio ein hymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd."

Disgwylir i'r cynlluniau gael eu trafod mewn cyfarfod o'r Cabinet ddydd Iau 18 Ionawr ac, os caiff ei gymeradwyo, byddai darparwr gwasanaeth Re:Fit yn cael ei benodi am gyfnod o bedair blynedd, gyda mesurau ôl-osod yn cael eu cyflwyno yn yr haen gyntaf o adeiladau a gynhelir yn 2024/25. Yna bydd haenau canlynol yn dilyn dros y pedair blynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Strategaeth Cyfranogiad Newydd i wella ymgysylltiad y cyhoedd â'r Cyngor

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad cynhwysfawr i sut mae'n ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r adolygiad o'i Strategaeth Cyfranogiad yn cyd-fynd â dyletswydd y Cyngor i annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a hyrwyddo ymwybyddiaeth o brif swyddogaethau'r Cyngor.

Dros 11 wythnos, rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref y llynedd, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad i fesur barn y cyhoedd ar berfformiad y Cyngor wrth ymgysylltu â nhw.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae'r Cyngor bellach yn cynnig nifer o newidiadau i'w Strategaeth Cyfranogiad 2023-27, gan gynnwys:

  • Mwy o gyfleoedd ymgysylltu wyneb yn wyneb â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Dull mwy targedig o ymgysylltu, er mwyn osgoi 'blinder ymgynghori'
  • Datblygu rhaglen adborth i rannu canfyddiadau a chanlyniadau gyda'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy
  • Datblygu rhaglen ymgysylltu rheolaidd gyda'r gymuned Fyddar a'r rhai sydd â nam ar eu golwg.
  • Defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol presennol y Cyngor i hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a rhannu eu barn gyda'r Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, Aelod Cabinet y Cyngor dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd a chefnogwr allweddol y Strategaeth Cyfranogiad, fod canlyniadau'r arolwg yn dangos bod y cyhoedd yn awyddus i gymryd mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac ymgysylltu mwy â'r Cyngor trwy'r holl sianeli sydd ar gael.

"Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnwys y cyhoedd ers blynyddoedd lawer wrth drafod polisi a phob agwedd ar fywyd yng Nghaerdydd," ychwanegodd. 

"Mae hyrwyddo cyfranogiad dinesig a rhoi llais i'r bobl wrth lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob amser wedi bod yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor hwn ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn clywed nid yn unig eu barn, ond hefyd eu barn ar sut y caiff eu sylwadau eu mesur."

Darllenwch fwy yma