Back
Ysgol Gynradd Trelái yn dathlu arolwg Estyn cadarnhaol yn nodi amgylchedd dysgu tawel a meithringar

  

16/1/2024

Mae Ysgol Gynradd Trelái yng Nghaerau wedi derbyn asesiad cadarnhaol gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Yn ystod ymweliad diweddar, tynnodd arolygwyr sylw at ymrwymiad yr ysgol i greu amgylchedd tawel a hapus sy'n meithrin dysgu a datblygiad llwyddiannus.  Nodwyd sawl prif gryfder, gan gynnwys; 

  • Amgylchedd Tawel a Hapus: Disgrifir Ysgol Gynradd Trelái fel lle tawel a hapus i ddisgyblion ddysgu a datblygu'n ddiogel ac yn llwyddiannus. Mae'r adroddiad yn cydnabod ffocws yr ysgol ar feithrin unigolion er mwyn gwneud eu gorau.
  • Dealltwriaeth Gymunedol:  Mae staff yr ysgol yn deall yr heriau sy'n wynebu'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu ac yn cynnig ystod eang o brofiadau diddorol i ddisgyblion ddatblygu sgiliau hanfodol, gwybodaeth, dealltwriaeth a gwytnwch.
  • Arwain a Rheoli: Mae'r pennaeth a'r uwch arweinwyr yn ffurfio tîm cryf sy'n ysgogi gwelliant.  Mae dull yr ysgol o hunanwerthuso wedi arwain at gynnydd sylweddol, gyda hanes o wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Gwahoddwyd yr ysgol gan Estyn i baratoi astudiaeth achos ar o'i thaith yn gwella i'w chyhoeddi ar wefan Estyn.

Wrth ddathlu llwyddiannau Ysgol Gynradd Trelái, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd penodol i'w gwella, fydd yn cael sylw drwy gynllun gweithredu'r ysgol.

  • Dealltwriaeth Fathemategol: Mae'r ysgol yn cael ei hannog i sicrhau datblygiad parhaus dealltwriaeth fathemategol disgyblion er mwyn galluogi cymhwyso sgiliau rhifedd yn hyderus mewn cyd-destunau amrywiol.
  • Blaenoriaethau Gwella Ysgolion: Mae angen mireinio ffocws blaenoriaethau gwella ysgolion, gan fod cwmpasu gormod o feysydd yn ei gwneud hi'n anodd i staff ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.
  • Gwella Presenoldeb: Anogir yr ysgol i barhau â'i hymdrechion trylwyr i gynyddu presenoldeb, gan gydnabod ei bod yn her barhaus.

Wrth fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd Carolyn Mason, Pennaeth yr ysgol:  "Rwy'n falch iawn bod arolygwyr Estyn wedi cydnabod cyflawniadau ein disgyblion.  Trwy ein gweledigaeth o 'Rydyn ni'n dangos parch, rydyn ni'n ymddwyn yn gyfrifol, rydyn ni'n gweithio'n galed' Mae disgyblion yn mwynhau ac yn cymryd rhan mewn dysgu drwy ein cwricwlwm cynlluniedig y mae'r holl staff wedi gweithio mor galed i'w gyflawni.

"Rhaid canmol rhieni am eu diddordeb, eu cefnogaeth a'u cyfranogiad gyda'u plant, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth ar gymaint o wahanol lefelau, mae hyn yn nodwedd gref o'n hysgol."

Dywedodd Alex Jackson, Cadeirydd y Llywodraethwyr:  "Ar ran Llywodraethwyr yr ysgol roeddwn hefyd wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod cyflawniadau ein disgyblion.  Yn ogystal, cydnabuwyd gwaith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd cymuned gyfan yr ysgol yn glir. 

"Mae'n amlwg iawn bod gweledigaeth yr ysgol wrth wraidd datblygiad pwrpasol yr ysgol.  Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn falch o weld y gwaith dychmygus a diwyd i ddatblygu cwricwlwm pwrpasol ar gyfer Trelái. Rydym hefyd wedi gweld ymgysylltiad cynyddol â'r gymuned, rhieni sy'n ymwneud yn weithredol ag addysg eu plant. 

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r cynnydd mewn ysgolion wrth i ni fynd i'r afael ag argymhellion yr Arolygiadau."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Trelái am ei hymroddiad i ddarparu amgylchedd dysgu tawel, maethlon a chynhwysol i'w disgyblion.

"Yn bwysig, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod hanes rhagorol yr ysgolion o wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'i gyflawni trwy ddull trylwyr o hunanwerthuso fel bod arweinwyr a llywodraethwyr yn gwybod cryfderau a meysydd datblygu'r ysgol yn dda.  Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn llawer o feysydd pwysig a bydd Estyn nawr yn ei ddefnyddio fel enghraifft o arfer gorau. 

"Llongyfarchiadau i'r pennaeth, staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol." 

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Trelái 371 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Roedd 69.6% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac roedd 15.1% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae'r adroddiad arolygu yn nodi bod gan 14.4% o ddisgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.  Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.