Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Ionawr 2024

Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Bydd 40 o brosiectau'n derbyn cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • Gwaith Ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd yn Cymryd Cam Ymlaen
  • Cynnig chwe pharc sglefrio newydd ar gyfer Caerdydd
  • Mecanyddion ifanc yn sbardun go iawn mewn depo trafnidiaeth

 

Bydd 40 o brosiectau'n derbyn cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae cyfanswm o 40 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae hyn yn dilyn 'galwad agored' am arian grant a gyhoeddwyd yn haf 2023 pan ddaeth dros 100 o geisiadau i law.

O'r 40 cais llwyddiannus, derbyniodd saith o'r sefydliadau hyn gadarnhad o'u cyllid fis diwethaf, gyda gwaith ar y gweill gyda'r sefydliadau eraill, fel y gellir cwblhau'r cytundebau grant a chytuno arnynt yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y saith sefydliad sydd wedi derbyn cyllid yn darparu amrywiaeth o brosiectau ledled Caerdydd i gefnogi twf a hyfforddiant swyddi, gwella diogelwch cymunedol, ysgogi'r economi gylchol a gwella'r cynnig creadigol yn y ddinas.

Y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid ym mis Tachwedd 2023 yw:

 

  • Gweithredu dros Blant Bydd yn darparu Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol.
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fydd yn cyflawni Cynllun Cymunedol ar gyfer Trelái a Chaerau.
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog sy'n rhoi cymorth hunangyflogaeth i bobl ifanc sy'n economaidd anweithgar neu nad ydynt yn y system addysg.
  • Busnes mewn ffocws sy'n ymgysylltu yn y gymuned a chymorth busnes i entrepreneuriaid.
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cefnogi busnesau a'r trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon, ailgynllunio eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff
  • National Theatre WALES a fydd yn penodi tri aelod o staff yng Nghaerdydd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i weithwyr llawrydd a chynyddu mynediad pobl ifanc at hyfforddiant a datblygiad.
  • Canolfan Mileniwm Cymru fydd yn trawsnewid ardal nad yw'n cael ei defnyddio yn y Ganolfan Greadigol a Chymdeithasol sydd wedi'i hanelu at gymunedau a phobl ifanc.

 

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyllid gan Lywodraeth y DU a roddwyd ar waith ym mis Ebrill 2022 fel cyllid newydd i'r Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Darllenwch fwy yma

 

Gwaith Ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd yn Cymryd Cam Ymlaen

Cymerodd y cynllun i adfywio Glanfa'r Iwerydd gam arall ymlaen heddiw, gydag adroddiad newydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig i ailddatblygu safle Red Dragon sydd - ynghyd â'r arena dan do newydd - yn brosiect allweddol i ysgogi adfywiad cam nesaf Bae Caerdydd.

Ym mis Ionawr 2020, daeth safle Red Dragon yn eiddo i Gyngor Caerdydd fel bod gan y Cyngor reolaeth lawn ar y tir y mae ei angen i alluogi datblygu arena dan do newydd â lle i 15,000 o bobl, ac i hwyluso'r buddsoddiad i safle ehangach Glanfa'r Iwerydd. Mae'r safle 30 erw, sy'n cynnwys safle Red Dragon a safle Neuadd y Sir, wedi'i rannu'n ddwy ardal ddatblygu ac ym mis Medi 2023, rhoddwyd y cyfleoedd adfywio i'r farchnad.

Yn dilyn y broses farchnata wyth wythnos, derbyniwyd dau gynnig manwl ar gyfer safle Red Dragon, sy'n 11.3 erw o dir i'r de o Heol Hemingway, gydag Aviva Capital Consortium (ACC) yn cael ei nodi fel y 'Cynnig a Ffefrir'. Cynnig ACC yw cyflawni datblygiad preswyl a arweinir gan ddefnydd cymysg a fydd yn darparu cartrefi, swyddfeydd, gwestai, lleoliadau bwyd a diod a chyfleusterau hamdden newydd. Bydd y cyngor bellach yn gweithio gydag ACC i ddatblygu ei gynnig ac i baratoi Cytundeb Dewisiadau a fydd yn cael ei adrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn yr haf i'w gymeradwyo.

Darllenwch fwy yma

 

Cynnig chwe pharc sglefrio newydd ar gyfer Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynllun i fuddsoddi yn seilwaith parciau sglefrio Caerdydd a allai weld chwe pharc sglefrio newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2032 a nifer o barciau sglefrio presennol yn cael eu troi'n gyfleusterau sglefrio concrit modern.

Mae'r 'Strategaeth Amwynderau Sglefrfyrddio,' a ddatblygwyd gan Gyngor Caerdydd gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr rhyngwladol ar barciau sglefrio Van de Zalm a New Line Skate Parks, yn anelu at gefnogi a thyfu'r gymuned sglefrfyrddio, meithrin grŵp defnyddwyr amrywiol, a chreu amwynderau sglefrio sy'n cefnogi ystod eang o ddefnyddiau a lefelau sgiliau.

Sglefriwr ifanc yn mwynhau'r cyfleusterau 'man' a 'dot' newydd ym Mharc y Maltings yn y Sblot.

Os cytunir arni mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Caerdydd Ddydd Iau, 18 Ionawr, byddai'r strategaeth yn gweld pedwar parc sglefrio cyrchfan newydd yn cael eu codi, gan wasanaethu gogledd, dwyrain, gorllewin a chanol Caerdydd. Byddai pob cyfleuster yn fwy na 1,200m2. 

Byddai de'r ddinas, sydd eisoes yn gartref i unig barc sglefrio cyrchfan concrit presennol Caerdydd, yn elwa ar Barc sglefrio cymdogaeth newydd rhwng 600-1,200m2.

Mae'r strategaeth hefyd yn awgrymu y dylid ystyried datblygu cyfleuster parc sglefrio safonol Olympaidd yn y ddinas i hyrwyddo'r gamp yng Nghymru ar lefel gystadleuol.

Darllenwch fwy yma

 

Mecanyddion ifanc yn sbardun go iawn mewn depo trafnidiaeth

James Jelinski, 23, a Megan Colwill, 24, yw recriwtiaid diweddaraf adran Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog y Cyngor ac maent yn brawf byw o sut mae byd mecaneg modur yn newid.

Mae'r ddau yn angerddol am beiriannau ac yn cael digon o gyfleoedd i fynd i'r afael ag ystod eang o gerbydau. Maen nhw'n rhan o dîm o 36 sydd â'r dasg o drwsio a chynnal fflyd 1,000 a mwy y Cyngor, sy'n cynnwys lorïau, graeanwyr, cerbydau sbwriel, faniau dosbarthu pryd ar glud a bysus mini ysgolion, yn ogystal â holl gerbydau trydan a pheiriannau torri lawntiau yr adran Parciau a cherbydau amaethyddol ysgafn eraill.

Ymunodd Megan, o Gaerffili, â'r Cyngor fel prentis a hi yw'r fenyw gyntaf i gael ei chymryd yn y rôl hon. Yn wreiddiol roedd hi'n astudio peirianneg fecanyddol yn y coleg fel rhan o leoliad, ond pan fethodd hynny â digwydd, fe wnaeth gais am swydd yng Nghyngor Caerdydd a chafodd ei derbyn. Mae adborth y mentoriaid y mae hi'n gweithio gyda nhw hefyd wedi bod yn ardderchog.

"Dydw i ddim yn teimlo'n wahanol i fod yr unig fenyw ar y tîm," meddai. "Mae yna gyfeillgarwch da iawn yn y depo ac rydw i wrth fy modd yn gweithio yma. Rwy'n credu y dylai fod mwy o fenywod yn gweithio yn y maes hwn - yn draddodiadol mae wedi bod yn faes sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion."

Mae James, o'r Barri, wrth ei fodd â'r cyfle i weithio ar ystod eang o gerbydau ac mae am wneud mwy o gyrsiau nawr ei fod yn ffitiwr cerbydau nwyddau trwm cymwysedig. "Dwi eisiau gweithio tuag at fy nhrwydded yrru ar gyfer cerbydau nwyddau trwm - bydd hynny'n golygu fy mod i'n gallu profi'r cerbydau mwy o faint rydyn ni'n gweithio arnyn nhw ar y ffordd."

Darllenwch fwy yma