Back
Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog yn cael cydnabyddiaeth gan Estyn yn ei gweledigaeth i gefnogi canlyniadau disgy


11/1/2024 


Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog wedi derbyn canmoliaeth uchel yn dilyn arolwg gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.  

 

Mae'r adroddiad yn cymeradwyo dull yr ysgol o leihau effaith tlodi ar ganlyniadau disgyblion, ei hamgylchedd dysgu cynnes a chynhwysol, cefnogaeth gref i les a'i model Dysgu Proffesiynol a'i harweinyddiaeth hynod effeithiol ar bob lefel. 

Amlygodd yr arolwg nifer o agweddau cadarnhaol Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog: 

  • Lleihau effaith tlodi ar ganlyniadau:Trwy weledigaeth strategol a phatrwm clir o gefnogaeth mewn sawl maes, mae disgyblion yn cyflawni ar lefel uchel er eu bod, efallai, yn wynebu heriau. Mae'r ysgol yn nodi ac yn dileu'r rhwystrau hyn i ddysgu yn effeithiol.
  • Lles a Chynhwysiant:Mae'r ysgol yn cael ei disgrifio fel cymuned ddysgu gynnes a chynhwysol lle mae disgyblion a staff yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi. Trwy Ddarpariaeth Amgen y Bont ystyriol, a phartneriaethau gydag asiantaethau allanol, mae'r ysgol yn darparu cefnogaeth gref i les disgyblion. 
  • Arweinyddiaeth EffeithiolMae'r pennaeth, yr uwch dîm, y staff a'r llywodraethwyr yn eiriolwyr angerddol dros yr ysgol a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad twymgalon i degwch, gan alluogi pob disgybl i gymryd rhan a llwyddo, waeth beth fo'u cefndir neu eu cyd-destun cymdeithasol. 
  • Cwricwlwm sy'n Ymgysylltu:Mae staff, disgyblion a rhieni wedi cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm sy'n ymgysylltu ym Mlynyddoedd 7 ac 8. 

Mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaethau achos ar ei gwaith i'w lledaenu ar wefan Estyn mewn perthynas â: dull haenog effeithiol o ymdrin â dysgu proffesiynol a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol drwy ffocws strategol ysgol gyfan ar gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.

Wrth ddathlu llwyddiannau'r ysgol, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd penodol i'w gwella, fydd yn cael sylw drwy gynllun gweithredu'r ysgol.  

  • Sgiliau'r Gymraeg:Cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. 
  • Hunanwerthuso a Chynllunio Gwelliant:Anogir yr ysgol i barhau i gryfhau prosesau ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, gan ganolbwyntio ar effaith gwaith yr ysgol ar ddysgu'r disgyblion. 
  • Ansawdd a Chysondeb Asesu:Cynghorir yr ysgol i wella ansawdd a chysondeb arferion asesu. 

Dywedodd Huw Powell, Pennaeth Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog: "Mae hwn yn adroddiad hynod gadarnhaol sy'n cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac angerdd cymuned gyfan yr ysgol.  Rwy'n arbennig o falch bod yr holl staff, o'r uwch dîm arwain, athrawon ystafell ddosbarth a'n holl staff ysgol wedi cael eu canmol gan Estyn am eu hymdrechion.   Yn Ysgol Mair Ddihalog, ein nod yw cyflawni'r gorau i bawb, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos mai dyna'n union yr ydym i gyd yn ymdrechu i'w wneud bob dydd.

"Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad gan Estyn i baratoi dwy astudiaeth achos - rhywbeth y gofynnir i ychydig iawn o ysgolion i'w wneud."

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r arolwg diweddar hwn gan Estyn yn amlygu ymroddiad yr ysgol i ddarparu amgylchedd dysgu cynnes a chynhwysol i'w disgyblion gyda ffocws cryf ar les.  

"Mae'n braf clywed bod disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau arwain ac yn chwarae rhan weithredol ym mywyd yr ysgol, er enghraifft drwy gyfrannu at benderfyniadau yn y senedd disgyblion ar newidiadau i wisg ysgol a'r amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon sydd ar gael. Yn ogystal, maent yn llywio gweithgareddau a diddordebau disgyblion, er enghraifft fel Arweinwyr Digidol, Swyddogion y Bont neu mewn grwpiau fel yr eco-glwb. 

"Hoffwn longyfarch yr ysgol ar ei harweinyddiaeth effeithiol, ac ymgysylltu â'r gymuned sy'n cael effaith gadarnhaol ar bawb sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog."  

Ar adeg yr arolwg, roedd gan yr ysgol 815 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys y rhai yn y chweched dosbarth. Roedd 39.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a nododd 14.2% fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Saesneg yw'r brif iaith i fyfyrwyr, gydag 8.5% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.  Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu. 

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad. 

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.