Back
Bydd 40 o brosiectau’n derbyn cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

10.01.24


Mae cyfanswm o 40 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae hyn yn dilyn 'galwad agored' am arian grant a gyhoeddwyd yn haf 2023 pan ddaeth dros 100 o geisiadau i law.

O'r 40 cais llwyddiannus, derbyniodd saith o'r sefydliadau hyn gadarnhad o'u cyllid fis diwethaf, gyda gwaith ar y gweill gyda'r sefydliadau eraill, fel y gellir cwblhau'r cytundebau grant a chytuno arnynt yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y saith sefydliad sydd wedi derbyn cyllid yn darparu amrywiaeth o brosiectau ledled Caerdydd i gefnogi twf a hyfforddiant swyddi, gwella diogelwch cymunedol, ysgogi'r economi gylchol a gwella'r cynnig creadigol yn y ddinas.

Y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid ym mis Tachwedd 2023 yw:

Gweithredu dros BlantBydd yn darparu Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddusa fydd yn cyflawni Cynllun Cymunedol ar gyfer Trelái a Chaerau

Ymddiriedolaeth y Tywysogsy'n rhoi cymorth hunangyflogaeth i bobl ifanc sy'n economaidd anweithgar neu nad ydynt yn y system addysg

Busnes mewn ffocwssy'n ymgysylltu yn y gymuned a chymorth busnes i entrepreneuriaid

Prifysgol Metropolitan Caerdyddsy'n cefnogi busnesau a'r trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon, ailgynllunio eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff

National Theatre Walesa fydd yn penodi tri aelod o staff yng Nghaerdydd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i weithwyr llawrydd a chynyddu mynediad pobl ifanc at hyfforddiant a datblygiad.

Canolfan Mileniwm Cymrufydd yn trawsnewid ardal nad yw'n cael ei defnyddio yn y Ganolfan Greadigol a Chymdeithasol sydd wedi'i hanelu at gymunedau a phobl ifanc.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyllid gan Lywodraeth y DU a roddwyd ar waith ym mis Ebrill 2022 fel cyllid newydd i'r Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yna dyrannwyd cyllid i ranbarth de-ddwyrain Cymru ym mis Rhagfyr 2022 a sefydlwyd y trefniadau llywodraethu angenrheidiol rhwng y cyngor dan sylw i redeg a gweinyddu'r cynllun.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'n dda gweld bod y cyllid hwn bellach yn cael ei ddarparu ar gyfer y prosiectau hyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar economi leol Caerdydd, yn rhoi hyfforddiant a chymorth i bobl ifanc ac yn gwella lles cymunedol mewn rhannau o'r ddinas.

"Roedd pob un o'r prosiectau'n gallu gwneud cais am hyd at £250,000 o gyllid a bydd yr holl geisiadau llwyddiannus yn cefnogi adfywio economaidd a datblygu cymunedol yn y ddinas, sef yr egwyddor allweddol ar gyfer y cyllid hwn."

Cyflwynir yr adroddiad i Bwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant ddydd Mawrth 16 Ionawr 2024 am 4.00pm. Gellir gweld yr adroddiad yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=142

Bydd adroddiad yn amlinellu'r cynigwyr llwyddiannus yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024. Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod ar gael yma:Pori cyfarfodydd - Cabinet : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Gellir gweld y cyfarfod yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home