10/01/24
Cymerodd y cynllun i adfywio Glanfa'r Iwerydd gam arall ymlaen heddiw, gydag adroddiad newydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig i ailddatblygu safle Red Dragon sydd - ynghyd â'r arena dan do newydd - yn brosiect allweddol i ysgogi adfywiad cam nesaf Bae Caerdydd.
Ym mis Ionawr 2020, daeth safle Red Dragon yn eiddo i Gyngor Caerdydd fel bod gan y Cyngor reolaeth lawn ar y tir y mae ei angen i alluogi datblygu arena dan do newydd â lle i 15,000 o bobl, ac i hwyluso'r buddsoddiad i safle ehangach Glanfa'r Iwerydd. Mae'r safle 30 erw, sy'n cynnwys safle Red Dragon a safle Neuadd y Sir, wedi'i rannu'n ddwy ardal ddatblygu ac ym mis Medi 2023, rhoddwyd y cyfleoedd adfywio i'r farchnad.
Yn dilyn y broses farchnata wyth wythnos, derbyniwyd dau gynnig manwl ar gyfer safle Red Dragon, sy'n 11.3 erw o dir i'r de o Heol Hemingway, gydag Aviva Capital Consortium (ACC) yn cael ei nodi fel y 'Cynnig a Ffefrir'. Cynnig ACC yw cyflawni datblygiad preswyl a arweinir gan ddefnydd cymysg a fydd yn darparu cartrefi, swyddfeydd, gwestai, lleoliadau bwyd a diod a chyfleusterau hamdden newydd. Bydd y cyngor bellach yn gweithio gydag ACC i ddatblygu ei gynnig ac i baratoi Cytundeb Dewisiadau a fydd yn cael ei adrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn yr haf i'w gymeradwyo.
Yn ogystal, mae'r cyngor yn ceisio newid ei strategaeth parcio ceir ar gyfer safle Glanfa'r Iwerydd trwy gaffael Maes Parcio Aml-lawr Q-Parks ar Stryd Pen y Lanfa, a fydd yn galluogi'r Cyngor i adeiladu maes parcio aml-lawr newydd llai o 900 o leoedd yn hytrach na 1300 o leoedd, yr oedd eu hangen yn y gorffennol. Gellir caffael maes parcio Stryd Pen y Lanfa heb fod angen unrhyw gyllideb bellach trwy leihau maint y maes parcio aml-lawr newydd. Bydd y caffaeliad yn rhoi rheolaeth i'r Cyngor ar 2119 o leoedd am yr un gost â 1300 o leoedd a bydd yn helpu i liniaru'r risg byrdymor a nodwyd mewn adroddiad gan y Cabinet ym mis Tachwedd pan gymeradwywyd y pecyn cyllido ar gyfer yr arena a'r ddarpariaeth parcio ceir.
Fel rhan o'r cynllun ailddatblygu, mae'r Cyngor hefyd yn ceisio gwella'r llwybrau cerdded a beicio ar hyd Rhodfa Lloyd George. Mae trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal â Llywodraeth Cymru a allai arwain at y Cyngor yn mabwysiadu'r ffordd unwaith y bydd y contract PFI yn dod i ben yn 2025. Mae'r Cyngor yn awyddus i ymgynghori â'r gymuned leol ar sut y gellir ailfodelu'r lôn gerbydau i wella llwybrau teithio llesol i ategu'r llinell Metro newydd ac i gynyddu swm y mannau gwyrdd a thirlunio.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Gyda'r gwaith tir cychwynnol yn dechrau ar y safle ar gyfer yr arena dan do y mis hwn, mae'r blynyddoedd o gynllunio i adfywio'r rhan hon o Fae Caerdydd bellach yn dwyn ffrwyth. Roedd marchnata safle Red Dragon yn galonogol iawn, ac rwy'n falch bod 'Cynnig a Ffefrir' wedi'i nodi. Ceisir awdurdod gan y Cabinet yn awr i ddatblygu Cytundeb Dewisiadau gydag ACC i adfywio'r safle hwn.
"Bydd y strategaeth barcio newydd yn galluogi'r cyngor i ddal mwy o incwm a grëir gan bobl yn parcio ar gyfer digwyddiadau yn yr arena, a fydd yn lliniaru rhai o'r risgiau ariannol yn y blynyddoedd cynnar a amlygwyd yn y pecyn cyllido ar gyfer yr arena newydd.
"Mae'r arena a'r uwchgynllun ehangach yn fuddsoddiad sylweddol i'r economi leol, gan roi hwb i gam nesaf y gwaith i adfywio Bae Caerdydd a chreu swyddi a chyfleoedd i bobl leol wrth sbarduno buddsoddi pellach yn y rhan hanesyddol hon o'r ddinas. Mae hefyd yn rhan goll o'r jig-so yng nghynnig cerddoriaeth Caerdydd, fel y nodwyd yn ein Strategaeth Cerddoriaeth.
"Bydd yr arena'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â Chaerdydd ar gyfer digwyddiadau a chyngherddau yn sylweddol, gydalleoliadau lletygarwch presennol yn elwa yn ogystal â'r datblygiadau newydd a fydd yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun adfywio hwn. Bydd nifer cynyddol yr ymwelwyr hefyd yn amserol wrth i'r gwasanaeth METRO newydd ddod i Fae Caerdydd, yn ogystal â gwella cymwysterau Caerdydd i ddenu mwy a mwy o ddigwyddiadau i'r ddinas.
"Mae'r weinyddiaeth bresennol wedi'i gwneud hi'n glir o'r cychwyn cyntaf bod y Cyngorwedi ymrwymo i drawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn un o leoliadau blaenllaw'r DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan ddenu mwy o bobl i ymweld â'r ddinas a fydd, gobeithio, yn aros am gyfnod hirach."
Cyflwynir yr adroddiad i Bwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant ddydd Mawrth 16 Ionawr 2024 am 4.00pm. Gellir gweld yr adroddiad yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=142
Bydd adroddiad yn amlinellu'r cynigwyr llwyddiannus yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024. Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod ar gael yma:Pori cyfarfodydd - Cabinet : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)
Gellir gweld y cyfarfod yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home