Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 5 Ionawr 2024

05/01/24

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

 

  • Annog preswylwyr Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb
  • Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd
  • Cynllun parcio newydd i Gaerdydd
  • Caerdydd yn dathlu sioe radio 6 Music newydd Huw Stephens yn darlledu o Gymru gyda gig am ddim yng Nghlwb Ifor Bach

Annog preswylwyr Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb

Mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb a allai weld gwasanaethau'n cael eu cwtogi a thaliadau'n cael eu cynyddu wrth i'r cyngor geisio dod o hyd i £30.5m i fantoli'r gyllideb yn 2024/25 yng nghanol argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus. 

Mae sawl ffactor gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £56m yn fwy'r flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Bydd cynnydd grant o 4.1% Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Caerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y cyngor ar gyfer cyllideb y flwyddyn bresennol - yn dod â £25.5m ychwanegol i mewn, gan adael bwlch o £30.5m yn y gyllideb. Bydd angen llenwi'r bwlch hwn nawr drwy doriadau i wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, a chynnydd mewn taliadau fel y Dreth Gyngor. 

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chynyddu incwm yn agor ddydd Llun, 8 Ionawr ac yn para am tua phedair wythnos tan hanner nos, nos Sul, 4 Chwefror. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i breswylwyr roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i bontio'r bwlch.

Darllenwch fwy yma

Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd

Mae'n debygol yr effeithir ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn dilyn penderfyniad Unite i streicio rhwng dydd Iau, 28 Rhagfyr a dydd Iau, 25 Ionawr.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi cynllun ar waith i gynnal gwasanaethau ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw i drigolion am unrhyw anghyfleustra.

Yn anffodus, oherwydd y streic ni fydd y cyngor yn gallu casglu coed Nadolig eleni.

I helpu trigolion i gael gwared ar eu coed, bydd pwynt gollwng coed Nadolig ar gael ym Mharc y Mynydd Bychan ddydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Ionawr 2024, rhwng 10am a 4pm.

Fel arall, gall preswylwyr hefyd ddod â'u coeden Nadolig i Ganolfannau Ailgylchu Ffordd Lamby neu Clos Bessemer - heb archebu drwy'r system ar-lein.

Darllenwch fwy yma 

Cynllun parcio newydd i Gaerdydd

Gallai parcio ar y stryd ledled Caerdydd newid os bydd cynllun parcio newydd ar gyfer y ddinas yn cael sêl bendith yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd.

Byddai'r cynnig - i gyflwyno 'parthau parcio' o fewn Ardaloedd Rheoli Parcio - yn rhoi gwell cyfle i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos yn agos i'w cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd ar gyfer parcio i gymudwyr.

Yn ogystal â chynyddu nifer y lleoedd parcio sydd ar gael i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, beiciau a chlybiau ceir, gallai busnesau lleol elwa o'r cynllun hefyd.

O dan y cynllun newydd, byddai pob maes parcio ar y stryd sydd wedi'i ffinio o fewn yr ardaloedd i'r de o'r A48, i'r gorllewin o Afon Rhymni, i'r gogledd o Fae Caerdydd ac i'r dwyrain o Afon Elái yn cael ei rannu'n bedair ardal rheoli parcio arbennig gyda chyfyngiadau gwahanol ar waith ar gyfer pob un.

Nhw fydd Canol y Ddinas, Bae Caerdydd, Ardaloedd Rheoli Parcio Mewnol ac Allanol. Bydd pob ardal yn cynnwys nifer o barthau parcio.

Byddai'r cynigion yn dod â Chaerdydd yn unol â'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y DU, ac os yw Cabinet Cyngor Caerdydd yn rhoi sêl bendith yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr bydd ymgynghoriad 6 wythnos yn cael ei gynnal gyda'r cyhoedd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Darllenwch fwy yma

Caerdydd yn dathlu sioe radio 6 Music newydd Huw Stephens yn darlledu o Gymru gyda gig am ddim yng Nghlwb Ifor Bach

I ddathlu lansio sioe newydd Huw Stephens yn ystod yr wythnos ar BBC Radio 6 Music, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn cefnogi gig am ddim yng Nghlwb Ifor Bach, gyda CVC, y rocwyr seic sy'n prysur ennill enw iddynt eu hunain.

Gyda'u halbwm a enwebwyd am Wobr Gerddoriaeth Gymreig, a ddisgrifiwyd gan yr NME fel "albwm gyntaf anhygoel o drysorau hollol retro" a chan The Times fel un "hynod o gyflawn," roedd CVC yn un o berfformwyr arloesol 2023.

Bydd y gydweithfa gerddorol chwe darn o Bentre'r Eglwys, y tu allan i Gaerdydd, yn chwarae Clwb Ifor Bach ddydd Iau 11 Ionawr, ynghyd â dau artist arall o Gaerdydd, a enwyd gan Huw Stephens fel artistiaid addawol ar gyfer 2024.

Mae'r tocynnau am ddim ac ond ar gael wrth y drws, felly dewch yn gynnar er mwyn osgoi colli'r cyfle.

Darllenwch fwy yma