Back
Annog preswylwyr Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb

02/01/24 

Mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb a allai weld gwasanaethau'n cael eu cwtogi a thaliadau'n cael eu cynyddu wrth i'r cyngor geisio dod o hyd i £30.5m i fantoli'r gyllideb yn 2024/25 yng nghanol argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus. 

A close-up of a screenDescription automatically generated

Mae sawl ffactor gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £56m yn fwy'r flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Bydd cynnydd grant o 4.1% Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Caerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y cyngor ar gyfer cyllideb y flwyddyn bresennol - yn dod â £25.5m ychwanegol i mewn, gan adael bwlch o £30.5m yn y gyllideb.  Bydd angen llenwi'r bwlch hwn nawr drwy doriadau i wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, a chynnydd mewn taliadau fel y Dreth Gyngor. 

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chynyddu incwm yn agor ddydd Llun, 8 Ionawr ac yn para am tua phedair wythnos tan hanner nos, nos Sul, 4 Chwefror.  Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i breswylwyr roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i bontio'r bwlch.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver:  "Mae'r cynnydd yn y setliad a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn doriad enfawr ar y flwyddyn flaenorol, mae'r gostyngiad yn golygu ein bod bron £30m yn waeth ein byd.   Gwyddom nad yw Caerdydd ar ei phen ei hun yn hyn o beth.  Mae argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus ar draws y DU sy'n effeithio ar bob elfen o gymdeithas.    Bydd yn golygu toriadau i wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt a chynnydd mewn taliadau ar adeg pan fo'r wlad gyfan yn wynebu argyfwng costau byw.

"Mae'n rhaid i ni fantoli'r gyllideb a gwneud hynny ar ôl degawd o gyni, a welodd wasanaethau'r cyngor yn cael eu cwtogi'n sylweddol, ac yna ymdrin â'r pandemig a'r argyfwng costau byw a ddilynodd, sy'n golygu bod rhai dewisiadau anodd iawn o'n blaenau.   Yr ymgynghoriad cyllideb hwn fydd yr un pwysicaf yr ydym erioed wedi'i gynnal.   Bydd yn rhaid i'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac yn eu disgwyl, newid neu fynd, a bydd yn rhaid i daliadau gynyddu er mwyn cynnal gwasanaethau eraill.    Rwy'n annog preswylwyr Caerdydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.  Rydym am i chi ddweud wrthym pa wasanaethau sydd bwysicaf i chi.  Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ysgolion, gofal cymdeithasol, a gwasanaethau rheng flaen fel gwasanaethau ieuenctid - ond mae dewisiadau anodd yn ein hwynebu i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn, ac mae Cynghorau mewn sefyllfa lle gallai rhai gwasanaethau ddiflannu am byth." 

Ers yr argyfwng costau byw, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth.  Mae hyn yn golygu bod y galw am wasanaethau yn cynyddu.  Er enghraifft:

 

  • Y galw am ofal cymdeithasol yw sbardun mwyaf y bwlch yn y gyllideb y mae'r cyngor yn ei wynebu;
  • Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cynghori'r Cyngor wedi dyblu ers cyn y pandemig; 
  • Mae rhestrau aros am lety dros dro ar lefelau hanesyddol o uchel, ar ôl cynyddu 150% dros y ddwy flynedd diwethaf; 
  • Mae nifer y bobl sy'n cysgu allan wedi mwy na threblu ers 2022/23; 
  • Mae'r gwaith a wnaed gan dîm cyngor i mewn i waith y Cyngor wedi cynyddu 75% rhwng nawr a'r un cyfnod yn 2019/20; a
  • Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth i gael Credyd Cynhwysol.

 

Mae popeth sydd angen i'r cyngor ei brynu i ddarparu ei wasanaethau yn costio mwy.  Bu cynnydd arbennig o uchel yng nghost gofal y mae'n rhaid i'r Cyngor ei gomisiynu i ofalu am bobl sy'n agored i niwed, ac yn y swm y mae'n ei dalu i helpu i gludo plant sydd angen cymorth i'r ysgol. 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cyngor wedi gorfod ymateb i bandemig Covid-19, ac argyfwng costau byw ac ynni sydd wedi bod yn ergyd drom i wasanaethau cyhoeddus.  

Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth, boed hynny ar gyfer tai, ar gyfer cyflogaeth, am ofal ar gyfer perthnasau hŷn neu am gefnogaeth deuluol.   Ond mae'r amodau economaidd presennol a phenderfyniadau gwariant y llywodraeth yn golygu nad oes gan y cyngor yr arian sydd ei angen arno i ymateb.    

Mae ymgynghoriad y gyllideb yn nodi'r newidiadau i wasanaethau'r cyngor sy'n cael eu hystyried i fantoli'r gyllideb yn 2024/25, gan gynnwys:

 

  • Ystyried codi tâl am gasglu gwastraff gardd fel y mae'r rhan fwyaf o gynghorau eraill Cymru'n ei wneud.
  • Arbed arian drwy gasglu gwastraff biniau/bagiau du unwaith bob tair wythnos yn lle bob pythefnos.  Dylai hyn hefyd helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu.
  • Cyfyngu ar amserau agor Hybiau a llyfrgelloedd a defnyddio mwy o wirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth - ond heb gau unrhyw lyfrgell yn gyfan gwbl.
  • Cynyddu taliadau parcio i breswylwyr ac i dalu ac arddangos.
  • Cynyddu cost llogi caeau chwaraeon.
  • Cynyddu pris y gwasanaeth claddu ac amlosgi.
  • Newid y ffyrdd y caiff parciau eu rheoli, gan gynnwys lleihau'r gwaith cynnal a chadw ar rannau o barciau a mannau gwyrdd, lleihau nifer yr arddangosfeydd blodau ac ail-wylltio rhai ardaloedd plannu.
  • Cynyddu cost prydau ysgol, er y byddwn yn parhau i roi cymhorthdal i'r gwasanaeth hwn.

 

Bydd y manylion llawn ar gael i breswylwyr pan fydd yr ymgynghoriad yn agor ar-lein ar 8 Ionawr.   Bydd copïau wedi eu hargraffu o'r ymgynghoriad mewn sawl iaith hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd, Hybiau ac adeiladau'r cyngor yn y flwyddyn newydd ar gyfer unrhyw un sy'n methu cymryd rhan yn ddigidol. 

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor Llawn i'w ystyried ddydd Iau, 7 Mawrth. 

Mae'r rhan fwyaf o gyllideb flynyddol bresennol y cyngor o £804m - tua 70% - yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae pob 1% o'r cynnydd yn y dreth gyngor yn creu tua £1.7m o incwm.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver:  "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o grantiau gan Lywodraeth Cymru. Dim ond tua 26% sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Mae dros ddwy ran o dair yn cael ei wario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.   Heb y dreth gyngor, gallai llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol.    Bydd unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn mynd tuag at ein helpu i gynnal gwasanaethau pwysig y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer yr argyfwng hwn.

"Rydym yn bwriadu diogelu ysgolion cystal ag y gallwn rhag toriadau ac rydym wedi ceisio sicrhau ein bod ni'n cynnal gwasanaethau allweddol ledled y ddinas cystal ag y gallwn, er y gall rhai gwasanaethau gael eu cwtogi neu rai taliadau gynyddu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.   

"O ystyried hyn i gyd, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy'n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth yr ydym erioed wedi'i wynebu.

"Y llynedd, cafodd y cyngor gynnydd o 9% yn ei grant gan Lywodraeth Cymru, eleni mae'r ffigur hwnnw wedi mwy na haneru. Roedd Llywodraeth Cymru yn wynebu dewisiadau anodd iawn eu hunain gan nad oes digon o gyllid i Gymru i gynnal gwasanaethau fel y maent, ond mae'n amlwg yn ein gadael â bwlch sylweddol yn ein cyllid y mae angen i ni ei ddatrys. 

"Mae angen i ni ddod o hyd i £30.5m - swm enfawr o arian - yn enwedig ar ôl torri tua chwarter biliwn o'n cyllideb dros y deng mlynedd diwethaf. 

"Rydym eisoes wedi bod yn gwneud arbedion effeithlonrwydd drwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y storm ariannol yr oeddem yn gwybod oedd o'n blaenau.  Rydym yn gwybod bod argyfwng costau byw ond does dim amheuaeth y bydd yn rhaid i'r dreth gyngor gynyddu i helpu i gau'r bwlch.   Ni allwn ddweud beth fydd y cynnydd, eto. Mae angen i ni ddeall y gwasanaethau y mae pobl am eu gweld yn cael eu darparu yn y dyfodol a'r hyn y maent yn barod i dalu mwy amdano, a dyna pam mae'r ymgynghoriad hwn mor bwysig.  

Mae pob cynnydd canrannol yn y Dreth Gyngor ond yn dod â £1.7 miliwn i mewn, felly i osod cyllideb gytbwys bydd angen i ni wneud arbedion sylweddol o wasanaethau a thaliadau incwm.

"Bydd y cynnydd o 4.1% yn y gyllideb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i geisio diogelu gwasanaethau pwysig fel cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol.  Rydym yn ystyried cynyddu cyllidebau ysgolion 4.1% sy'n cyfateb i'r arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

"Ond does dim amheuaeth bod angen i ni nawr edrych ar rai opsiynau anoddach eu hwynebu i bontio'r bwlch.   Mae rhai dewisiadau anodd iawn y bydd angen eu gwneud, a dyna pam ei bod mor bwysig bod preswylwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb ac yn dweud wrthym am yr hyn sydd wir yn bwysig iddyn nhw."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y gyllideb  yma 

Canllaw i Gyllideb 2024/25 y Cyngor  yma 

Bydd nifer o Bwyllgorau Craffu'r cyngor yn craffu ar gynigion y Gyllideb yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 8 Ionawr.

Bydd modd gwylio ffrwd fyw o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr o gyfarfodydd sydd ar gael i'w gweld  yma. Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor unigol, yna'r agenda lle cewch hyd i'r ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo fyw.

Bydd y cynigion yn mynd gerbron y Cabinet i'w cymeradwyo ddydd Llun, 8 Ionawr. Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw  yma.

Os bydd y Cabinet yn cytuno,  bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y cynigion ddydd Iau, 7 Mawrth, o 4.30pm.