Back
Esboniwr Cyllideb Cyngor Caerdydd 2024/25

Beth yw bwlch yn y gyllideb?

Mae bwlch yn y gyllideb yn cael ei gyfrifo trwy dynnu cyllid (y grantiau y mae'r cyngor yn eu derbyn gan y Llywodraeth a refeniw a gynhyrchir trwy daliadau fel y dreth gyngor a pharcio) o'r gwariant a ragwelir ar gyfer darparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati.  Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i breswylwyr ar draws y ddinas.

 

Pam mae'r Cyngor yn wynebu bwlch yn y gyllideb?

Mae'r Cyngor yn wynebu bwlch a ragwelir yn y gyllideb o £30.3 miliwn - dyma'r bwlch rhwng y gost a ragwelir am ddarparu ein gwasanaethau a swm yr adnoddau sydd ar gael. 

 

Mae nifer o resymau pam mae'r Cyngor yn rhagweld bwlch yn y gyllideb.

 

Galw Cynyddol am ein Gwasanaethau:

Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth, sy'n golygu bod y galw am ein gwasanaethau yn cynyddu. Gwyddom, er enghraifft, fod costau gofal i blant ac oedolion sy'n agored i niwed, ac ar gyfer gwasanaethau addysg i gyd yn cynyddu.   Gyda mwy o bobl yn ceisio cael mynediad i wasanaethau'r Cyngor, mae cost darparu yn codi.

 

Pwysau Chwyddiant:

Gyda chwyddiant uchel dros gyfnod estynedig, mae costau darparu gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn ein hadeiladau a'n seilwaith i gyd yn cynyddu. 

 

Cyflog:

Rydyn ni'n credu y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus - sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas - gael eu talu'n deg.  Mae dyfarniadau cyflog yn cael eu trafod ar gyfer athrawon, gofalwyr a staff sector cyhoeddus eraill sydd - oherwydd chwyddiant - yn debygol o weld costau cyflogau'r cyngor yn codi.

 

Deunyddiau: 

Mae hyn yn golygu bod cost prynu deunyddiau i gynnal asedau - megis ffyrdd ac ysgolion, neu i ddarparu ysgolion a thai cyngor newydd - i gyd yn cynyddu.

 

Gwaddol Covid:

Mae effaith barhaol Covid yn parhau i gael ei theimlo, gyda rhai gwasanaethau ond yn dechrau gwella tra bod eraill yn wynebu mwy o heriau a phroblemau mwy cymhleth wrth iddyn nhw gefnogi adferiad. 

 

Sut rydyn ni'n bwriadu cau'r Bwlch

Bydd angen cau'r bwlch yn y gyllideb o £30.3m trwy gyfuniad o:

 

Arbedion Effeithlonrwydd a Chynigion i Newid Gwasanaethau:

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly'n ceisio cynhyrchu cymaint o arbedion â phosibl trwy effeithlonrwydd cefn swyddfa. Mae hyn yn golygu lleihau costau rhedeg ein hadeiladau, lleihau faint o le swyddfa sydd ei angen arnom, a defnyddio technoleg newydd lle gall arbed arian i ni.  Mae maint yr heriau ariannol hefyd yn golygu bod y Cyngor wedi bod yn ystyried gostyngiad rheoledig yn nifer y staff sy'n cael eu cyflogi, trwy ddiswyddo gwirfoddol, er mwyn cynhyrchu arbedion a lleihau diswyddiadau gorfodol cymaint â phosibl.

 

Yn anffodus, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon, ac efallai y bydd angen rhai newidiadau i wasanaethau er mwyn mantoli'r cyfrifon.  Dyna pam rydyn ni eisiau gwybod beth mae pobl Caerdydd yn ei feddwl am rai o'r newidiadau posibl y gallen ni eu gwneud i arbed arian.

 

Treth Gyngor:

Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru.   Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor ond yn creu tua £1.7m, ac felly nid yw cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gynyddu treth yn unig yn realistig, yn enwedig mewn argyfwng costau byw.

 

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn:

Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'i gronfeydd ariannol; dim ond swm cyfyngedig sydd ar gael ac unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd.  Mae mwyafrif cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac felly maent eisoes wedi'u hymrwymo i gefnogi darparu gwasanaethau, er enghraifft ariannu mentrau cymunedol untro a chefnogi Gwasanaethau Atal Digartrefedd.   Mae'r Cyngor yn cynnal lefel o Falans Cyffredinol gwerth £14.2m i dalu am gostau annisgwyl ac mae hyn yn cyfateb i lai na 2% o gyllideb net gyffredinol y Cyngor.