Back
Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd ar ôl y Nadolig

21/12/23


Mae'n debygol yr effeithir ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn syth ar ôl y Nadolig yn dilyn penderfyniad Unite i streicio rhwng dydd Iau, 28 Rhagfyr a dydd Iau, 25 Ionawr.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi cynllun ar waith i gynnal gwasanaethau ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw i drigolion am unrhyw anghyfleustra.

Yn ystod y streic rydym yn anelu at weithredu'r holl wasanaethau casglu fel arfer, ar wahân i hylendid. Bydd gwastraff hylendid unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth hylendid yn cael ei gasglu bob pythefnos gyda'r gwastraff bagiau du/biniau du.

Oherwydd bod Dydd San Steffan ar ddydd Mawrth, bydd casgliadau gwastraff ar gyfer yr wythnos honno yn symud diwrnod yn hwyrach, gan ddechrau ddydd Mercher, 27 Rhagfyr.

Felly, os oedd eich casgliad i fod i ddigwydd ar:

  • Ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr - bydd nawr yn digwydd ddydd Mercher, 27 Rhagfyr.
  • Dydd Mercher, 27 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Iau, 28 Rhagfyr.
  • Dydd Iau, 28 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Gwener, 29 Rhagfyr.
  • Dydd Gwener, 29 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr.

Gofynnwn i drigolion gadw golwg ar y diweddariadau casglu gwastraff drwy wefan y cyngor  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx  neu ap Cardiff Gov - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx. Gall y streic achosi rhywfaint o darfu ac oedi felly bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yno.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Clos Bessemer yn parhau ar agor yn ystod oriau gweithredu arferol ac ni fydd y streic yn effeithio arnynt. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y cyngor:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

Yn ystod cyfnodau streicio, bydd y cyngor bob amser yn blaenoriaethu casglu gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol ac ailgylchu i sicrhau bod bwyd a chynhwysyddion gwastraff bwyd yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd cyn gynted â phosibl, gan leihau'r risg y bydd y bagiau yn cael eu rhwygo gan adar neu anifeiliaid gan greu sbwriel stryd ledled y ddinas.

Rydym yn bwriadu clirio'r holl wastraff yn ôl yr arfer drwy gyfnod y streic gyda gwastraff hylendid yn unig yn symud i gasgliad bob pythefnos gyda gwastraff bagiau du a biniau du.

Unwaith eto, rydym yn diolch i chi am eich amynedd ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai'r streic hon ei achosi i chi dros gyfnod yr ŵyl.