Back
Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am iechyd a lles

 

21/12/2023


Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith i hyrwyddo iechyd a lles ledled ei chymuned ysgol, ar y safon uchaf bosib.

Mae aseswyr Rhwydwaith Cymru y Cynllun Ysgolion Iach - wedi rhoi "Gwobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach" am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.

Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gyflawniad sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae'r cyflawniad arbennig yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fynd trwy broses drwyadl sy'n rhychwantu o leiaf naw mlynedd ac mae'n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a'r gymuned ysgol ehangach.

Mae rhai o uchafbwyntiau'r adroddiad ar Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn cynnwys: 

  • Yr ysgol yn ennill Gwobr Aur Ysgol sy'n Parchu Hawliau gan ddefnyddio Hawliau'r Plentyn ym mron pob agwedd ar fywyd yr ysgol.
  • Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni yn nodwedd allweddol ragorol gyda newyddion a gwybodaeth Ysgolion Iach yn cael eu cyfleu i holl aelodau cymuned yr ysgol.

       Mae amgylchedd yr ysgol yn groesawgar ac yn ddeniadol iawn, gan ddarparu amgylchedd dysgu ysgogol, creadigol a diogel i bob dysgwr. 

       Mae'r ysgol yn elwa o diroedd ysgol gwych, sydd wedi'u datblygu i gynnig nifer o gyfleoedd dysgu awyr agored gan gynnwys nifer o welyau tyfu, pwll, tŷ gwydr ac ystafelloedd dosbarth awyr agored.

       Mae llais disgyblion yn yr ysgol gyda'r cryfaf y mae'r arolygwyr wedi ei weld, gan ymgorffori ethos o berchnogaeth a gwir bartneriaeth. Mae disgyblion yn glir ynghylch natur eu rolau priodol ac mae pob grŵp yn cwblhau adolygiad Effaith a Gweithredu bob blwyddyn i ddeall deilliannau'r gwaith y maent yn ei wneud.

       Mae diogelu a hyrwyddo iechyd meddwl a lles da pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol yn amlwg. 

       Mae gan yr Uwch Dîm a'r athrawon agwedd gadarnhaol tuag at groesawu newid a syniadau newydd, sy'n golygu bod yr ysgol yn esblygu'n barhaus ac yn datblygu ac yn barod i addasu i anghenion wrth iddynt godi, ac i faterion lleol. 

 

Dwedodd Pennaeth yr ysgol, Ann Griffin:"Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach.  Mae'r wobr yn cydnabod y pwyslais a'r pwysigrwydd y mae Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn ei roi ar ddatblygu pobl ifanc iach, emosiynol wydn a gwybodus. Roedd Llais y Disgybl yn cael ei gydnabod fel cryfder i'r ysgol."

 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Mae llawer iawn o waith da yn digwydd yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd i sicrhau bod iechyd a lles yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.  Mae Ansawdd Cenedlaethol Ysgolion Iach yn gyflawniad rhagorol i Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd sydd wedi golygu bod yr ysgol wedi bod drwy broses drwyadl sy'n rhychwantu o leiaf naw mlynedd ac yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae ymagwedd yr ysgol yn ei chael ar ddisgyblion a'u teuluoedd."

 

Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yw'r bymthegfed ysgol yng Nghaerdydd i gyflawni'r GAG.