Back
Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc ar draws Caerdydd drwy bêl-droed

20/12/2023


Mae Caerdydd wedi cynnal ei thwrnamaint pêl-droed rhyng-ieuenctid cyntaf y mis hwn, gan ddod â mwy na 90 o bobl ifanc o glybiau ieuenctid ledled y ddinas at ei gilydd.

 

Cefnogir y prosiect partneriaeth ar y cyd rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro (CCF) a Heddlu De Cymru gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a'i nod yw adeiladu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd o'r ddinas.

 

Bu timau o Gabalfa, Llanrhymni, Llaneirwg, y Powerhouse yn Llanedern, Eastmoors yn y Sblot, Gogledd Trelái a Chaerau, yn ogystal â Heddlu De Cymru a gweithwyr ieuenctid Caerdydd, yn cystadlu yn y twrnamaint a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs.

Powerhouse

 

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad am faterion y gallent eu hwynebuyn eu cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae dod â phobl ifanc o wahanol godau post ledled y ddinas ynghyd yn hanfodol i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a helpu i ddileu teimladau negyddol a allai fod gan bobl ifanc tuag at ei gilydd.

 

"Trwy gystadlaethau chwaraeon a gêmio cyfeillgar, neu weithgareddau eraill, gall pobl ifanc wneud ffrindiau mewn cymunedau eraill a gall Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth wrth helpu i leddfu materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol."