08/12/23
Bydd cynllun llogi beiciau ar y stryd Caerdydd a Bro Morgannwg yn dod i ben o fis Ionawr, ond mae gwaith i gyflwyno gwasanaeth newydd, gwell eisoes ar y gweill.
Hwn oedd un o gynlluniau mwyaf llwyddiannus Nextbike yn y DU o ran defnydd, gyda dwy filiwn o sesiynau llogi ar draws y ddwy sir dros oes y cynllun.
Ond, ochr yn ochr â'i boblogrwydd, gwelwyd digwyddiadau rheolaidd o fandaliaeth a dwyn yng Nghaerdydd - problemau sydd wedi gorfodi'r cynllun i gau.
Roedd Nextbike yn rhedeg yng Nghaerdydd a'r Fro am nifer o flynyddoedd ac yn y cyfnod hwnnw cafodd 3,000 o feiciau eu dwyn neu eu fandaleiddio gan adael dim ond traean o'r fflyd ar gael i'w ddefnyddio. Gwnaeth y difrod parhaus i'r beiciau adael Nextbike, a Chyngor Caerdydd, heb fawr o ddewis ond cau'r cynllun presennol.
Roedd y contract Nextbike i fod i ddod i ben ddechrau 2025 ac roedd Cyngor Caerdydd eisoes wedi dechrau gweithio ar sut y gallai cynllun newydd, gwell edrych.
Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill, a bydd y ddau gyngor yn cynnig atebion ar y ffordd orau ymlaen.
Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar gynlluniau ledled y byd, yn ystyried gwelliannau mewn diogelwch a'r dechnoleg ddiweddaraf, ac yn adolygu amrywiaeth o gyflenwyr a modelau gweithredu a noddi gwahanol.
Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn gobeithio gallu mynd i'r farchnad yn fuan am gynllun newydd sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol: "Er gwaethaf ei heriau, mae cynllun llogi beiciau Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gynllun hynod boblogaidd gyda nifer sylweddol o ddefnyddwyr, ac rydym yn diolch i gwsmeriaid ymroddedig a ffyddlon am eu cefnogaeth.
"Rwyf am iddynt wybod mai ein bwriad yw gweld cynllun llogi beiciau newydd yn dychwelyd i'r ddinas cyn gynted â phosibl.
"Mae'r Cyngor yn obeithiol y gallwn ddod o hyd i bartner newydd. Yn y pen draw, mae'n amlwg bod awydd a dyhead am y math hwn o gynllun, ac mae'r niferoedd uchel o ddefnyddwyr yn dyst i hyn. Nawr mae angen i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl sy'n benderfynol o fandaleiddio neu ddwyn beiciau.
"Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill a fydd yn rhoi eglurder i'r Cyngor ar y ffordd orau ymlaen.Bydd yn edrych ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys: gwelliannau o ran diogelwch beiciau a'r cynllun; adolygiad o gyflenwyr byd-eang, a modelau gweithredu a noddi gwahanol. Byddwn hefyd yn edrych ar yr holl gyllid grant sydd ar gael. Dylai hyn ein galluogi i fynd i'r farchnad am gynllun newydd sy'n addas ar gyfer y dyfodol."
Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy: "Rwy'n siomedig nad yw'r cyd-gynllun hwn bellach yn ymarferol yn dilyn lefel uchel o fandaliaeth.
"Mae wedi bod yn boblogaidd yn y Fro ac roedd yn rhan bwysig o fenter Prosiect Sero'r Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Mae hyrwyddo dulliau teithio llesol yn ganolog i'r nod hwnnw ac rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i drigolion feicio, yn enwedig pan fo galw mor sylweddol am y math hwn o drafnidiaeth.
"Bydd y Cyngor yn parhau i weithredu system llogi Brompton Bike yn Llanilltud Fawr ac mae wrthi'n archwilio opsiynau i ddisodli'r cynllun Nextbike."
Dywedodd Jess Strangward, Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, Nextbike by TIER,"Mae'n drist ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad i gau gwasanaeth Caerdydd gan fy mod yn gwybod ei fod yn boblogaidd gyda phreswylwyr. Yn anffodus roedd y gyfradd fandaliaeth eleni yn golygu nad oedd hi'n ymarferol i ni barhau i gynnig gwasanaeth da. Rydym yn gwybod y bydd y newyddion yn siomedig i ddefnyddwyr rheolaidd a hoffwn ymddiheuro am hynny. Hoffem ddiolch i Gyngor Caerdydd a'r Fro, eu preswylwyr, yn ogystal â'n partneriaid niferus am eu cefnogaeth dros y pum mlynedd diwethaf."
"Mae nifer o gynlluniau microsymudedd wedi cau yn ddiweddar lle nodwyd fandaliaeth fel ffactor allweddol: 2023 Zwings - Sunderland, 2022 Big Issue Bikes - Bryste, 2022 Leicester & Dundee, 2021 JustEast Cycles - Caeredin, 2022 Leicester & Dundee. Bu'n rhaid i gynllun beicio Manceinion leihau nifer y fflyd a gyflwynwyd ar ôl i dros 70% o'r fflyd gael ei difrodi eleni."
Dylai cwsmeriaid sydd wedi prynu aelodaeth gysylltu â'r gwasanaeth cwsmeriaid yninfo@nextbike.co.uk.
O ran aelodaeth - bydd pawb yn cael eu had-dalu'n rhagweithiol erbyn diwedd Ionawr.