Back
Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cael ei chydnabod am ragoriaeth gynhwysol gan Estyn

6/12/2023

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd wedi derbyn canmoliaeth gan Estyn am ei hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu bywiog a chynhwysol i 1694 o ddisgyblion yr ysgol.

Yn ystod ymweliad gan Arolygiaeth Addysg Cymru, canmolwyd yr ysgol am ei hymroddiad i sicrhau llwyddiant pob disgybl a chymryd camau pendant i leihau effaith tlodi.

Canfu'r arolygwyr fod yr ysgol yn darparu ystod eithriadol eang o weithgareddau allgyrsiol, gan feithrin cymuned gynhwysol a chodi dyheadau myfyrwyr.  Nodwyd hefyd bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr yn cyfrannu at amgylchedd dysgu parchus a diddorol, gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymddwyn yn dda ac yn dangos lefelau uchel o barch at staff a chyfoedion.

Amlygodd Estyn fod athrawon yn ennyn diddordeb gan fyfyrwyr yn effeithiol, gan feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, ac roedd yn canmol yr ystod amrywiol o bynciau sydd ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4 a'r chweched dosbarth, yn ogystal â'r canllawiau sydd ar gael i fyfyrwyr fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru a gyflwynwyd yn ddiweddar ym Mlwyddyn 7 a Blwyddyn 8 yn pwysleisio amrywiaeth a chynhwysiant, er bod gwelliannau o ran galw a darpariaeth i datblygu sgiliau a hyfedredd y Gymraeg yn cael eu hargymell.

Mae Estyn wedi gwahodd Ysgol Uwchradd Llanisien i baratoi astudiaeth achos ar ei hymdrechion i leihau effaith tlodi a'i rhaglen gyfoethogi.

Ar y cyfan, dyma adroddiad cadarnhaol gan Estyn sydd wedi gwneud cyfres o argymhellion y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu gwella.  Mae'r rhain yn cynnwys:  

  • Gwella hunanwerthuso a chynllunio gwelliant: Canolbwyntio ar effaith addysgu ar ddysgu.
  • Gwella darpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol:  Yn enwedig yn y Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
  • Gwella ansawdd ac effaith adborth ysgrifenedig.
  • Parhau i ymdrechu i wella presenoldeb.

Wrth ystyried yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Mrs Sarah Parry: "Rwyf mor falch o gymuned fywiog, amrywiol a chynhwysol ein hysgol.  Mae'r cryfderau sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad isod yn dangos bod ein cenhadaeth creu amgylchedd cefnogol, cynhwysol sy'n meithrin twf a llwyddiant unigol wedi'i blethu trwy bob agwedd ar ein bywyd ysgol. 

"Hoffwn ganmol ein corff staff anhygoel sy'n gweithio gydag angerdd a gofal bob dydd.   Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i'n myfyrwyr, eu teuluoedd a'n corff llywodraethu am eu cyfraniad i'r ysgol unigryw hon."

Ychwanegodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Mr John Caddick: "Ers yr arolygiad diwethaf gan Estyn yn 2016, mae Ysgol Uwchradd Llanishen wedi bod ar daith o drawsnewid llwyr. Hoffwn ddathlu'r cynnydd sydd wedi parhau ac sy'n dal i ddigwydd, sydd wedi arwain at well canlyniadau a chyfleoedd bywyd i'n myfyrwyr. 

"Mae hyn wedi cael ei yrru gan waith caled ac ymrwymiad y staff, myfyrwyr, rhieni, llywodraethwyr a phartneriaid cymunedol.   Mae'n amlwg o'r adroddiad arolygu bod lles y myfyrwyr yn ganolog i bob penderfyniad yn yr ysgol.   Mae'n gymuned gynnes, groesawgar, bywiog ac amrywiol lle gall pob unigolyn lwyddo.  Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu'r cryfderau hyn a sicrhau bod y safonau uchel hyn yn parhau ac yn gwella.  Llongyfarchiadau mawr i bawb yn Ysgol Uwchradd Llanisien."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Mae Estyn yn gwbl gywir wedi cydnabod rhywfaint o'r gwaith gwych sy'n digwydd yn Ysgol Uwchradd Llanisien.

Mae'r adroddiad yn cydnabod sut mae gwariant ysgolion yn cael ei gyfeirio at ei flaenoriaethau a sut mae'r ysgol yn ymdrechu i leihau effaith tlodi ar les disgyblion drwy amrywiaeth o fentrau, megis y 'siop Prom' gynaliadwy lle gall disgyblion fenthyg dillad ac ategolion. 

"Ar adeg pan fo costau byw presennol yn effeithio ar gymaint o deuluoedd, mae'n galonogol gweld bod yr ysgol wedi addasu i ddarparu cymorth gwerthfawr, gan sicrhau nad yw disgyblion yn cael eu dal yn ôl oherwydd cyfyngiadau ariannol. 

"Llongyfarchiadau i'r pennaeth, staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymroddiad."

Ar ddyddiad yr arolygiad, roedd 26.4% o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanisien yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a nodwyd bod gan 8.7% anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.    Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddan nhw bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r ymagwedd newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.  

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.