02.11.23
Mae ffilm bwerus newydd sy'n
dangos sut mae pobl Caerdydd yn defnyddio'r celfyddydau, addysg a diwylliant i
wella amrywiaeth ac annog cynwysoldeb yn y ddinas wedi cael ei lansio ar y
rhyngrwyd heddiw.
Mae Stories for Cohesion, sydd
ar gael i'w gwylio yn https://player.vimeo.com/video/863120356, yn ffilm fer 12 munud o hyd a
gynhyrchwyd gan Rwydwaith Arloesedd Cynghorau Cydweithredol (CCIN), grŵp o
awdurdodau lleol y DU.
Mae'n cynnwys ffigurau
blaenllaw o wasanaethau celfyddydol, theatr a cherddoriaeth Caerdydd ynghyd ag
athrawon, cynghorwyr a gweithwyr cydlyniant cymunedol i gyd yn esbonio sut mae
eu gwaith yn helpu i greu cytgord yng nghymunedau aml-ethnig y ddinas.
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan
mae'r Tad Dean Atkins, o Ardal Gweinidogaeth De Caerdydd, sy'n cyflwyno'r
ffilm. "Y straeon y mae pobl yn dod gyda nhw, y ddynoliaeth sy'n bodoli...
mae'n bwysig i bobl fod yn berchen ar eu straeon eu hunain," meddai.
"Rydym yn fwy pwerus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn dathlu'r
adnoddau mae pobl yn dod gyda nhw."
Ymhlith y digwyddiadau a'r bobl
a amlygwyd yn y ffilm mae:
Lansiwyd Stories for Cohesion
heddiw yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y CCIN yn Sunderland. Cyn y
lansiad, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, is-gadeirydd CCIN a'r Aelod
Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd: "Trwy dynnu
sylw at waith Betty Campbell, a oedd mor ddylanwadol o ran cael pobl ifanc i
gymryd rhan mewn celf a chrefft yn ystod ei hoes - ac sy'n dal i ysbrydoli pobl
heddiw drwy ei cherflun hyfryd yng nghanol y ddinas - gallwn ddangos union
hanfod Caerdydd."
Ychwanegodd ei gydweithiwr, y
Cynghorydd Julie Sangani, sy'n rhannu ei bortffolio Cabinet: "Mae pobl o
bob cwr o'r byd wedi bod yn dod i Gaerdydd a'i gwneud yn gartref iddyn nhw ers
cannoedd o flynyddoedd a dwi'n meddwl bod hynny wedi helpu i wneud pobl y
ddinas mor gynnes a chroesawgar.
"Mae'r celf a'r diwylliant
sydd wedi deillio o hynny mor bwysig o ran sicrhau cydlyniant yn ein cymunedau
ac rwy'n credu bod y ffilm hon wir yn helpu i ddangos pa mor fywiog y maen nhw
heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y ddinas yn cael cyfle i'w gweld."